Fe wnaeth Arfarniad y Goruchaf Lys ym Mawrth 2014 ostwng y trothwy lle y gall trefniadau gofal olygu amddifadedd rhyddid ac felly angen awdurdodiad naill ai trwy DoLs neu trwy gais i’r Llys Amddiffyn
Nodau’r Cwrs
Fe fydd y cwrs yma yn eich helpu i ddeall newidiadau diweddar i’r Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid (DoLs) a’r angen i ddangos bod trefniadau gofal yn gyfreithlon ac wedi’u hawdurdodi’n gywir.
Fe fydd y cwrs yn galluogi staff i barhau i ddilyn bwriadau gwreiddiol y Ddeddf Galluoedd Meddyliol a’r Ddeddf Hawliau Dynol: y dylai pobl gyda gallu lleiedig i wneud penderfyniadau gymryd rhan mor llawn â phosibl, gallu gwneud penderfyniadau pwysig lle maen nhw’n gallu ac y dylai penderfyniadau a amnewidiwyd fod wedi’u canoli ar yr unigolyn ac yn gwbl atebol
Arôl y cwrs yma fe fyddwch:
- Yn meddu ar well ymwybyddiaeth o gysyniadau sylfaenol y Ddeddf Galluedd Meddyliol.
- Bod yn ymwybodol o sut y mae’r trothwy newydd ar gyfer amddifadedd rhyddid yn berthnasol yn eich lleoliad gwaith.
- Yn meddu ar ddealltwriaeth gwell o ‘fuddiant gorau’ a chyfyngiadau cymesurol mewn cynllunio gofal.
- Yn deall rôl y Llys Amddiffyn.
- Wedi derbyn cyngor ymarferol am:
-
- Gwneud ceisiadau – defnyddio Awdurdodiadau Brys a Safonol.
- Ystyried ceisiadau i’r Llys Amddiffyn am DoLs y tu allan i gartrefi gofal ac ysbytai..
- Cynhyrchu polisi DoLs yn eich corff
- Hysbysu newid mewn amgylchiadau i’r ‘Corff Goruchwylio’ a hysbysu marwolaethau i’r Crwner.
Ar gyfer
Rheolwyr a staff cyrff sydd yn rhedeg cartrefi gofal a chynlluniau byw gyda chymorth i bobl ag anabledd dysgu ac anhwylderau sbectrwm awtistig, yn enwedig staff sydd yn gyfrifol am:
- Gwneud trefniadau cefnogi a chynhyrchu cynlluniau gofal
- Cydgysylltu gyda gweithwyr proffesiynol a chomisiynwyr gwasanaethau
- Cynhyrchu polisïau asiantaethau
Mae’r cwrs yma yn addas hefyd i staff eiriolaeth ac eraill sydd angen gwybod am y newidiadau i’r gyfraith.