Fe fydd y sesiwn hon yn eich cyflwyno i Hawdd ei Ddeall, ffordd o wneud gwybodaeth yn hawdd i’w ddarllen a’i ddeall i bobl ag anabledd dysgu.
Dyddiad: Dydd Mercher 10 Ebrill 2024
Amser: 10:00 yb – 12:30 yp
Lle: Ar lein trwy Zoom
Gall pobl ag anableddau dysgu gael trafferth gyda darllen a deall iaith a syniadau cymhleth. Mae hyn yn gallu creu rhwystrau wrth gael gwybodaeth sy’n bwysig ar gyfer eu bywydau bob dydd, fel iechyd, cyfreithiol neu gyhoeddus.
Mae Hawdd ei Ddeall yn defnyddio iaith syml, brawddegau byrion, a lluniau i gyfleu gwybodaeth mewn ffordd sy’n haws ei deall.
Mae Hawdd ei Ddeall yn hyrwyddo annibyniaeth a chynhwysiant, ac yn grymuso pobl i gymryd mwy o reolaeth yn eu bywydau.
Fe fydd y cwrs yn cynnwys
- Iaith glir
- Strwythur brawddegau
- Paragraffau
- Cynllun a dylunio tudalen
- Defnyddio delweddau
Wedi’i greu ar gyfer
Mae’r cwrs hwn yn addas i unrhyw un sydd eisiau gwneud eu gwybodaeth ysgrifenedig yn fwy hygyrch, yn enwedig i bobl ag anabledd dysgu.
Fe fydd y sesiwn hon ar-lein dros Zoom