Mae gan bawb ag anabledd dysgu ac awtistiaeth yr hawl i bleidleisio. Rydyn ni wedi ysgrifennu canllaw hawdd ei ddeall i bleidleisio yn etholiad cyffredinol y DU 2024 i gefnogi pobl i ddefnyddio eu hawl i bleidleisio.
Lawrlwythwch eich canllaw am ddim
Mae ein canllaw Hawdd ei Ddeall ar gael yn Gymraeg a Saesneg, a gallwch ei weld neu ei lawrlwytho yma. Wedi’i ysgrifennu a’i ddylunio gan Hawdd ei Ddeall Cymru, mae’r canllaw hwn yn ymdrin â:
- Beth ydy etholiad cyffredinol
- Pam mae eich pleidlais yn bwysig
- Pwy sydd yn gallu pleidleisio mewn etholiad cyffredinol
- Cofrestru i bleidleisio
- Sut i bleidleisio
- Cerdyn Adnabod pleidleisiwr
- Penderfynu dros bwy i bleidleisio
Pam mae Pleidleisio Hygyrch yn Bwysig
Mae gwneud pleidleisio’n hawdd ac yn hygyrch yn hanfodol. Mae’n cefnogi democratiaeth, yn sicrhau tegwch ac yn hybu cyfranogiad cymunedol. Trwy ganolbwyntio ar hygyrchedd, gallwn helpu i sicrhau bod Llywodraeth y DU wir yn cynrychioli ei holl bobl. Mae ymgyrch Fy Mhleidlais Fy Llais yn dweud os nad yw pleidleisio’n hygyrch, yna nid ydym yn byw mewn democratiaeth.
Gallwch gefnogi ymgyrch Fy Mhleidlais Fy Llais trwy annog pleidiau gwleidyddol i gyhoeddi fersiynau hawdd eu deall o’u maniffestos: www.myvotemyvoice.org.uk/news-item/make-the-manifestos-accessible/
Mae gwybodaeth hygyrch yn allweddol
Gall cymryd rhan mewn pleidleisio a sgyrsiau gwleidyddol fod yn frawychus. Mae cymaint o wybodaeth a barn wahanol, gall fod yn anodd gwybod ble i ddechrau. Rydym yn deall pwysigrwydd gwybodaeth hygyrch. Mae gan bawb yr hawl i gael yr wybodaeth sydd ei hangen arnynt i wneud penderfyniadau gwybodus. Nod ein canllaw Hawdd ei Ddeall yw ateb rhai o’r cwestiynau mawr sydd gennych am gymryd rhan mewn pleidleisio etholiad cyffredinol, o Beth ydy etholiad cyffredinol? i Sut i benderfynu dros bwy i bleidleisio?
Mae eich pleidlais yn bwysig
Pwy bynnag rydych chi’n dewis pleidleisio drosto, mae eich pleidlais yn bwysig. Mae’r bobl sy’n eich cynrychioli chi yn Senedd y DU yno i sicrhau bod y materion sy’n bwysig i chi, ac sy’n effeithio ar eich bywyd, yn cael eu clywed a’u hystyried pan wneir penderfyniadau mawr. Gwnewch yn siŵr bod eich llais yn cael ei glywed yn etholiad cyffredinol 2024.
Diolch am eich cefnogaeth
Ni chafodd y prosiect hwn unrhyw arian allanol.
Cafodd y prosiect hwn ei ariannu’n gyfan gwbl drwy gefnogaeth ein cleientiaid a ddewisodd Hawdd ei Ddeall Cymru ar gyfer eu dogfennau. Mae eu cefnogaeth yn ein galluogi i greu gwybodaeth hanfodol am ddim i bobl ag anabledd dysgu. Diolch yn fawr iawn i’n holl gwsmeriaid!
Am ddyfynbris am ddim, i weld sut y gallwn eich helpu gyda’ch gwybodaeth hygyrch, anfonwch e-bost atom ar easyread@ldw.org.uk. Gyda’n gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth.