Mae’n bleser gennym groesawu John Butterly i dîm Anabledd Dysgu Cymru. Gwnaethon ni ofyn i John ddweud wrthon ni amdano fe’i hun, a’i rôl fel Cydlynydd Gwirfoddolwyr Ffrindiau Gigiau Cymru.
Dw i wedi ymuno â thîm Ffrindiau Gigiau Cymru yng Ngogledd Cymru’n ddiweddar fel Cydlynydd Gwirfoddolwyr, gan weithio ochr yn ochr â Siân, Cydlynydd y Prosiect i ni yng Ngogledd Cymru. Mae fy swydd i yn cael ei hariannu diolch i’n grant Gwirfoddoli Cymru CGGC, sy’n rhedeg rhwng mis Hydref 2022 a mis Medi 2024.
Fel Cydlynydd Gwirfoddolwyr, byddaf yn dod o hyd i wirfoddolwyr newydd yng Ngogledd Cymru ac yna’n eu cefnogi ar eu taith gyffrous newydd gyda’u Ffrindiau Gigiau. Dw i wedi cael cymaint o help a chefnogaeth gan Danielle, Kai, Karen, Kylie a Siân yn barod – maen nhw wedi rhoi croeso cynnes i mi ar Dîm Ffrindiau Gigiau Cymru a finnau’n mynd i ddysgu gymaint ganddyn nhw.’ Gallwch chi ddarllen am y gwaith gwych rydyn ni’n ei wneud diolch i grant Gwirfoddoli Cymru CGGC yma.
Rydyn ni bob amser yn chwilio am wirfoddolwyr Ffrindiau Gigiau newydd ledled Cymru. Mae Ffrindiau Gigiau’n ffordd wych a hawdd iawn o wirfoddoli – rydych chi’n parhau i fynd i’r pethau rydych chi’n eu caru, a’r cwbl ‘dyn ni’n ei wneud yw rhoi ffrind newydd rydych chi’n gallu mynd â nhw gyda chi. Mae Ffrindiau Gigiau yn gwneud cynifer o bethau gwahanol gyda’i gilydd – o fynd i gemau chwaraeon, cyngherddau a’r theatr, i ymweld â chestyll, nofio gwyllt, neu fwynhau mynd am dro bach syml yng nghefn gwlad. Gallwch chi ddarllen mwy am wirfoddoli yma.
Fy swydd flaenorol oedd gyda CGGC (Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru) lle’r oeddwn i’n gweithio fel Swyddog Perfformio, yn rheoli llwyth achosion o sefydliadau gwirfoddol ledled Cymru a oedd yn cyflawni prosiectau mawr a ariannwyd gan yr UE. Cyn hynny, roeddwn i’n arwain yr elusen Gingerbread yng Ngogledd Cymru i gefnogi rhieni sengl a’u plant. (Ffaith: Sefydlwyd Gingerbread ym 1918 – gydag enw gwahanol – i gefnogi dros 5 miliwn o fenywod yr oedd eu partneriaid wedi colli eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Er gwaethaf y sïon, nid oeddwn yn un o sylfaenwyr Gingerbread.)
Bellach yn 66 oed, mae gen i 6 o blant a 7 o wyrion, felly fy hobïau yw gwneud dim a syllu i’r gofod gymaint â phosib. Rwy’n mynd â’n ci teulu, Stan, am dro bob dydd gyda fy ngwraig wych Babs. Mae hi’n aml yn meddwl nad ydw i’n gwrando arni wrth i ni gerdded, ond wrth gwrs dim ond ymarfer fy hobïau ydw i…”