Mae cyrff anabledd cenedlaethol yng Nghymru yn codi pryderon am yr effaith ar bobl anabl sydd yn byw gyda chyflyrau meddygol cynharach.
Mae Anabledd Cymru, Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan, Cyngor Deillion Cymru, Fforwm Rhieni a Gofalwyr Cymru Gyfan, Anabledd Dysgu Cymru a Mencap Cymru yn galw ar Lywodraethau’r DU a Chymru i weithredu yn bendant i ddiogelu llesiant a goroesiad pobl anabl ac eraill sydd wedi eu categoreiddio fel bod mewn perygl uchel o ddal y feirws yn wyneb y pandemic Covid-19. Rydym yn hynod o bryderus nad oes mesurau angenrheidiol yn cael eu cymryd i leihau marwolaethau yn y grwpiau yma.
Rydym yn neilltuol o bryderus:
- Mae’r GIG yng Nghymru a Lloegr eisoes wedi’u tangyllido ac yn cael trafferth i ymdopi gyda galw. Mae hyn yn golygu na fydd gweithwyr GIG, pe digwydd achosion lu, yn gallu darparu gofal digonol i bob claf. Mae’r adroddiadau o’r Eidal, lle mae’r pandemig ar gam mwy datblygiedig, yn eithriadol o bryderus. Nodwn nad ydy rhai pobl yn yr Eidal eisoes yn derbyn triniaeth oherwydd diffyg adnoddau. Rhaid i Lywodraethau’r DU a Chymru wneud popeth o fewn eu gallu nawr i atal gwneud penderfyniadau cyffelyb ar uchafbwynt y pandemig.
- I bobl anabl, mae llawer o’r cyngor ar sut i osgo heintio (e.e. hunanynysu, cadw pellter cymdeithasol) yn amhosibl i’w ddilyn yn enwedig i’r rhai sydd angen cymorth dyddiol ac mae’r un mor wir i bobl sydd yn gyflogedig fel cynorthwywyr personol neu weithwyr gofal a chefnogaeth. Rhaid i Lywodraethau’r DU a Chymru weithredu ar frys i gynnig cefnogaeth i bobl anabl sydd angen Cynorthwywyr Personol neu weithwyr gofal a chefnogaeth i ddarparu cymorth dyddiol a hefyd i’r Cynorthwywyr Personol a gofalwyr eu hunain.
- Mae nifer o ddarparwyr gofal a chefnogaeth wedi cael eu heffeithio yn ariannol yn dilyn 10 mlynedd o fesurau cyni gan esgor ar weithlu dan bwysau. Rydym yn bryderus am ansawdd y gofal y gellir ei ddarparu pan fo gweithwyr gofal yn hunanynysu neu yn mynd yn sâl. Rhaid i Lywodraethau’r DU a Chymru greu cynlluniau cydgysylltiedig ar frys ynghylch sut i ymateb i brinder gweithwyr gofal. Rhaid rhoi cefnogaeth ariannol sylweddol nawr yn arbennig i ddarparwyr gofal i recriwtio gweithwyr gofal ychwanegol a gallu cynnig cyflogau da i’r gweithwyr gofal yma.
Gyda’i gilydd mae’r ffactorau yma yn ein harwain i gredu bod pobl anabl yn debygol o wynebu niwed, nid yn unig drwy’r Coronafeirws ei hun ond drwy’r pwysau cyffredinol ar y system iechyd a gofal, yn ogystal â rhwystrau cymdeithasol ehangach. Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cyllid argyfwng o £5 biliwn i wasanaethau cyhoeddus i liniaru’r pwysau oherwydd Coronafeirws.
Fel cyrff sydd yn cynrychioli buddiannau pobl anabl, rydym yn galw am gefnogaeth brys o’r gronfa yma i sicrhau bod darpariaeth gofal cymdeithasol a chefnogaeth yn derbyn adnoddau digonol yng Nghymru. Anogwn Llywodraethau’r DU a Chymru i ymyrryd ar frys i sicrhau nad ydy pobl anabl yn cael eu trin fel colledion anochel yn y pandemig hwn.