Ynghyd â sefydliadau eraill yng Nghymru, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddileu cynlluniau i godi taliadau wythnosol am ofal a chymorth cymdeithasol.
Rydym wedi cyflwyno ymateb i un o ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru yn cynnig codiad yn yr uchafswm tâl wythnosol gan awdurdodau lleol.
Mae ein hymateb yn adleisio pryderon sefydliadau eraill. Ein prif bryder yw’r effaith bosibl y bydd codi’r taliadau hyn yn ei chael ar lesiant ariannol, emosiynol a meddyliol pobl ag anabledd dysgu a’u teuluoedd.
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig?
Yn ei hymgynghoriad, dywed Llywodaraeth Cymru fod angen iddi godi taliadau wythnosol o’r uchafswm presennol o £100 oherwydd y pwysau ariannol dybryd ar awdurdodau lleol. Mae wedi nodi tri opsiwn, gan godi costau o £15, £20 neu £25 yr wythnos.
Y cyfiawnhad dros hyn yw’r costau cynyddol a wynebir gan gynghorau oherwydd chwyddiant uchel, galw cynyddol a’r setliad ariannol llym yng nghyllideb ddiweddaraf Llywodraeth Cymru.
Er ein bod yn deall bod y pwysau hyn yn rhoi straen enfawr ar ein cynghorau a’r gwasanaethau a ddarperir ganddynt, byddem hefyd yn dadlau mai codi cost gofal a chymorth yw’r ffordd anghywir o fynd i’r afael â’r heriau hyn a’i fod yn gwahaniaethu yn erbyn y rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas.
Mae Llywodraeth Cymru yn honni mai “uchafswm taliadau” yn unig yw’r rhain ac y byddant yn destun prawf modd, felly dim ond y rhai sy’n gallu fforddio talu fydd yn gorfod cyfrannu.
Fodd bynnag, mae’r rheolau ar gyfer prawf modd yn yr achosion hyn yn eithrio unrhyw enillion o gyflogaeth felly effeithir ar bobl ar fudd-daliadau yn bennaf. Nid yw’r isafswm a ddylai fod yn weddill gan bobl anabl bob wythnos i fyw arno wedi cynyddu ers amser maith, er gwaethaf yr argyfwng costau byw.
Mae hyn yn golygu bod llawer o bobl anabl ar fudd-daliadau eisoes yn gorfod cyfrannu’r taliad uchafswm tuag at eu gofal a chymorth, gyda llawer ohonynt yn cael eu gadael heb ddigon o arian i fyw arno.
Ein hymateb
Gan fod y mater hwn yn berthnasol i amrywiaeth o bobl ag anghenion gwahanol, rydym wedi ymuno â sefydliadau sy’n cynrychioli’r bobl hynny i leisio ein pryderon ar y cyd, a herio’r cynigion.
Rydym yn dadlau bod gosod y tâl yn annheg ac nad yw’n seiliedig ar dystiolaeth. Bydd codi’r tâl yn cael mwy o effaith ar bobl ag anabledd dysgu nag y bydd ar gyllid llywodraeth leol.
Mae cynyddu’r uchafswm tâl am ofal a chymorth hefyd yn gwbl groes i addewid blaenorol Llywodraeth Cymru i archwilio cynigion ar gyfer system ofal genedlaethol sydd am ddim yn y man darparu.
Safbwynt Anabledd Dysgu Cymru
Dywedodd Zoe Richards, Prif Weithredwr Anabledd Dysgu Cymru: “Nid ydym dan unrhyw gamargraff am y pwysau y mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn eu hwynebu.
“Fodd bynnag, rydym hefyd yn gwbl ymwybodol o’r heriau y mae llawer o bobl ag anabledd dysgu yn eu hwynebu sydd wedi’u creu gan yr union faterion y mae Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn eu defnyddio i gyfiawnhau’r cynnydd mewn costau gofal a chymorth.
“Mae codi tâl ar bobl ag anabledd dysgu am y gofal a ddarperir gan y wladwriaeth yn groes i’r model cymdeithasol o anabledd. Gallai hyd yn oed gael ei ystyried yn dreth ar anabledd.
“Mae’r bobl sydd wedi dioddef eithafion gwaethaf yr argyfwng costau byw a chwyddiant cynyddol yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf bellach yn cael gwybod y bydd yn rhaid iddynt dalu mwy am y cymorth sy’n eu galluogi i fod yn ddinasyddion gweithgar ac ymgysylltiol sy’n byw bywydau hapus a bodlon.
“Ni allwn weld sut y gellir byth gyfiawnhau cynnig o’r fath.”