Rydym  ni wedi casglu adnoddau hawdd eu deall at ei gilydd i helpu pobl ag anabledd dysgu i bleidleisio yn yr etholiad cyffredinol ar 4 Gorffennaf. Mae’r adnoddau’n cynnwys canllawiau i bleidleisio a fersiynau hawdd eu deal o faniffestos y prif bleidiau gwleidyddol.


a man in a light blue shirt is thinking about what MP to vote for. Behind him is a ballot paper and the houses of parliamentBydd etholiad cyffredinol yn y DU ddydd Iau 4 Gorffennaf 2024.

Bydd pobl ar draws y DU yn cael cyfle i bleidleisio dros yr AS maen nhw am iddyn nhw eu cynrychioli yn Senedd y DU. Mae’r bleidlais hon yn bwysig i bawb yn y wlad, ac mae hynny’n cynnwys pobl ag anabledd dysgu.

Yn 2014 gwnaeth Mencap arolwg i ddarganfod sut beth yw pleidleisio i bobl ag anabledd dysgu. Fe wnaethant ddarganfod bod:

  • 70% o bobl ag anabledd dysgu yn dweud eu bod am bleidleisio.
  • 64% o bobl ag anabledd dysgu wedi teimlo nad oeddent yn gallu pleidleisio yn etholiadau’r gorffennol.
  • 60% o bobl ag anabledd dysgu yn dweud bod cofrestru i bleidleisio yn rhy anodd.
  • 17% o bobl ag anabledd dysgu wedi cael eu gwrthod yn yr orsaf bleidleisio oherwydd eu hanabledd dysgu.

Mae llawer o bleidleiswyr anabl yn dal i wynebu rhwystrau i gyfranogiad gwleidyddol gan gynnwys:

  • cofrestru i bleidleisio
  • deall pwy i bleidleisio drostynt,
  • mynediad i’r orsaf bleidleisio.

Un o’r rhwystrau mwyaf i bobl ag anabledd dysgu yw diffyg gwybodaeth hygyrch.

Dyma grynodeb o adnoddau diweddar, hawdd eu deall a all eich helpu i ddefnyddio’ch hawl i bleidleisio yn Etholiad Cyffredinol 2024 y DU.

Canllaw Hawdd ei Deall Cymru i bleidleisio yn Etholiad Cyffredinol y DU 2024

Eich Canllaw i Bleidleisio yn Etholiad Cyffredinol 2024 (PDF)

Ein canllaw hawdd ei ddeall ni ein hunain i bleidleisio yn etholiad cyffredinol 2024. Roeddem ni am i’r canllaw hwn gwmpasu popeth y byddai angen i chi ei wybod am bleidleisio yn yr etholiad cyffredinol gan gynnwys:

  • Beth yw etholiad cyffredinol
  • Pam mae eich pleidlais yn bwysig
  • Pwy all bleidleisio mewn etholiad cyffredinol
  • Cofrestru i bleidleisio
  • Sut i bleidleisio
  • ID pleidleisiwr
  • Penderfynu dros bwy i bleidleisio.

Fy Mhleidlais Fy Llais

Mae Fy Mhleidlais Fy Llais (Saesneg yn unig) yn ymgyrchu i gael gwared ar rwystrau i bleidleisio a chodi ymwybyddiaeth am bobl ag anableddau dysgu a hawl pobl awtistig i bleidleisio.

Mae ganddynt lawer o wybodaeth hawdd ei deall am wleidyddiaeth, etholiadau a phleidleisio ar eu gwefan: www.myvotemyvoice.org.uk (Saesneg yn unig), gan gynnwys:

Maniffestos hawdd eu deall gan y blaid wleidyddol

Dyma’r maniffestos pleidiau gwleidyddol hawdd eu deall sydd ar gael hyd yn hyn:

Plaid Cymru

Y Blaid Werdd (Saesneg yn unig)

Democratiaid Rhyddfrydol – sgroliwch i ddiwedd y dudalen (Saesneg yn unig).

Llafur – sgroliwch i lawr y dudalen

Llafur Cymru (PDF)

Ceidwadwyr (PDF, Saesneg yn unig)

Canllawiau ac adnoddau hawdd eu deall eraill

Canllaw hawdd ei ddeall i Etholiad Cyffredinol y DU 2024 gan Mencap UK (PDF)

Canllawiau hawdd eu deall i bleidleisio ac etholiadau gan Innovate Trust

Canllaw hawdd ei ddeall ar gyfer cofrestru i bleidleisio drwy gov.uk (PDF)

Canllaw hawdd ei ddeall ar gyfer gwneud cais am bleidlais bost gan gov.uk (PDF Saesneg yn unig)

Canllaw hawdd ei ddeall ar gyfer gwneud cais ar-lein am bleidlais drwy ddirprwy gan gov.uk (PDF Saesneg yn unig)

Canllaw hawdd ei ddeall ar gyfer gwneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleiswyr drwy gov.uk (PDF Saesneg yn unig)

Canllaw hawdd ei ddeall i’r prif bleidiau yn Etholiad Cyffredinol y DU 2024 (PDF, Saesneg yn unig)

 

Cadwch lygad ar ein tudalen adnoddau ar gyfer yr adnoddau a’r maniffestos hawdd eu deall diweddaraf.