Cynhaliwyd ein cystadleuaeth ffotograffiaeth 2018 mewn partneriaeth gyda Able Radio ac roedd yn agored i unrhyw un gydag anabledd dysgu sydd yn byw yng Nghymru.
Roeddem yn chwilio am luniau ar thema ein cynhadledd flynyddol ‘Dyfodol pob un ohonom’ a gallai fod yn llun o unrhyw beth, ond rhaid iddo ddweud stori am sut rydych chi eisiau i’ch dyfodol chi fod.
Fe wnaeth 64 o bobl ar draws Cymru gymryd rhan yn y gystadleuaeth.
Rhoddodd y beirniaid wobrau ar gyfer 2 gategori ac 1 ennillydd cyffredinol.
Yr ennillydd cyffredinol
Tristan Lewis oedd ein hennillydd cyffredinol am ei ffotograff ‘Dilyn eich Breuddwydion’.
“Rwyf yn hoffi ffotograffiaeth, rwyf wedi dewis y ddelwedd yma oherwydd mae’n dangos fy mod allan yn tynnu lluniau ar bob adeg o’r dydd. Rwy’n gosod amserydd ar fy nghamera ac yn ei osod ar stand drithroed i gymryd delwedd ohona’i yn tynnu llun ar fy ffôn. Fy mreuddwyd a fy nyfodol fydd ffotograffiaeth.”