""Byddwch yn Noddwr, Arddangoswr neu Hysbysebwr yn ein Cynhadledd Flynyddol, Mae fy nghartref yn bwysig. 

Dydy ein cynhadledd flynyddol Anabledd Dysgu Cymru ddim fel cynadleddau eraill.  Mae’n sefyll allan fel enghraifft o gynhwysiant a hygyrchedd.  Rydyn ni yn ymdrechu i sicrhau bod ein digwyddiad yn gyfeillgar ac yn groesawgar i bawb, os oes gennych anabledd dysgu ai peidio.

Mae fy nghartref yn bwysig yn edrych ar ble mae pobl ag anabledd dysgu yn byw, y dewisiadau sydd ganddynt yn eu cartrefi, a beth mae pobl yn ei wneud i greu Cymru sydd yn lle gwell i bobl ag anabledd dysgu fyw, dysgu, caru a gweithio ynddi. Gallwch fod yn rhan o’r digwyddiad unigryw hwn.

Manteision noddi, arddangos a hysbysebu

Mae cefnogi ein cynhadledd drwy arddangos yn rhoi cyfle i chi gyrraedd a dylanwadu ar bobl a sefydliadau yn y gymuned anabledd dysgu yng Nghymru, gall hefyd eich helpu i:

  • Cynyddu gwelededd eich sefydliad
  • Targedu sefydliadau yn y maes hwn mewn ffordd gost-effeithiol
  • Dod o hyd i gleientiaid, partneriaid, a chwsmeriaid newydd
  • Cynyddu eich cyfran o’r farchnad di-elw
  • Meithrin perthynas â mudiadau eraill yn y sector gwirfoddol
  • Dangos eich ymrwymiad i sector di-elw cryf