Os oes gennych chi nifer o bobl sydd angen yr un hyfforddiant, gallech arbed arian trwy drefnu hyfforddiant mewnol o Anabledd Dysgu Cymru.
Gallwn gynnig pob y cyrsiau yn isod neu ddatblygu cyrsiau hollol addas ar gyfer eich mudiad neu eich prosiect ledled Cymru.
- Hyblyg a chost-effeithiol
Gallwn gyflwyno ein cyrsiau yn eich adeilad neu adeilad o’ch dewis chi, ar amser a dyddiad sydd orau gennych chi. Rydych chi’n talu am yr hyfforddiant yn hytrach nag am y person, sy’n rhoi elw llawer gwell i chi am eich buddsoddiad.
- Hyfforddiant addas ar gyfer eich anghenion
Rydym ni’n addasu hyd a chynnwys y cwrs i gyd-fynd â’ch nodau a’ch anghenion. Gallwn ni hefyd ddarparu cymwysterau achrededig ar gyfer rhai o’n cyrsiau.
- Hyfforddwyr profiadol
Bydd ein hyfforddwyr profiadol yn cyflwyno’r cwrs i’r safonau uchaf i sicrhau eich bod yn diwallu eich nodau dysgu. Er mwyn sicrhau ein bod yn cadw ein safonau a chwrdd â’ch disgwyliadau, fe fyddwn yn gofyn am adborth gan y dysgwyr ar ddiwedd bob cwrs ac yn ei basio ymlaen atoch chi.
- Prisiau a chaffaeladwyedd
I drafod eich anghenion hyfforddi ac am fwy o wybodaeth am brisiau a chaffaeladwyedd, e-bostiwch enquiries@ldw.org.uk neu ffoniwch ni ar 029 2068 1160.