Fel rhan o’r Wythnos Anabledd Dysgu, rydym wedi gwahodd Corrina Williams, cyfarwyddwraig Cwmni Addysg Rhyw i siarad am y gwaith hanfodol y mae Cwmni Addysg Rhyw yn ei wneud i helpu oedolion ag anabledd dysgu i gael perthynas hapus ac iach.
Dyma’r cyntaf o gyfres barhaus sy’n tynnu sylw at aelodau Anabledd Dysgu Cymru a’r gwaith pwysig y maent yn ei wneud. Os hoffech ysgrifennu blog am waith eich sefydliad, e-bostiwch kai.jones@ldw.org.uk.
Corrina Williams yw fy enw i, ac rwy’n ddigon ffodus i fod yn gyfarwyddwraig Cwmni Addysg Rhyw. Mae Cwmni Addysg Rhyw yn gwmni cymdeithasol, nid er elw, sydd wedi’i leoli yng Ngwynedd. Rydym yn darparu prosiectau a ariennir yng Ngogledd Cymru, yn ogystal â gweithdai, hyfforddiant ac ymgynghoriaeth ledled Cymru, y DU a thu hwnt (diolch i hwyslustod dysgu ar-lein ar ôl y pandemig).
Mae Cwmni Addysg Rhyw bellach wedi hen ennill ei blwyf fel asiantaeth ar gyfer addysg cydberthynas a rhywioldeb sy’n seiliedig ar hawliau (RSE) a chymorth meithrin sgiliau i’r rhai y gall eu hamgylchiadau bywyd gyflwyno rhwystrau i gyfeillgarwch teg, hapus ac iach, rhyw rhamant ac agosatrwydd. Mae ein sefydliad yn cynnwys fy hun, fy mhartner gyfarwyddwr, Mel Gadd, a’n tîm cynyddol o staff medrus.
Dim digon o wybodaeth hygyrch, gormod o bwyll
Yn 2020, cysylltodd darpariaeth eiriolaeth leol â ni i archwilio mynd i’r afael â’r bwlch sylweddol mewn addysg a dealltwriaeth ynghylch hawliau oedolion ag anableddau dysgu i gael cyfleoedd cyfeillgarwch a pherthynas. Roedd yn teimlo’n glir bod (ac yn dal i fod!) diffyg gwybodaeth briodol a dealladwy ar gael i unigolion yn y gymuned anabledd dysgu. Roedd diwylliant o bryder uwch hefyd ynghylch diogelu ymhlith y rhai a oedd yn darparu cymorth a gofal, a oedd yn aml yn rhwystro hawliau pobl.
Gwnaethom gais i’r gwasanaeth trawsnewid anabledd dysgu lleol am gyllid i ddechrau diwallu’r angen hwn. Buom yn llwyddiannus yn ein cais a ganwyd prosiect Sparc.
Mae Sparc yn cynnig RSE pwrpasol, dan arweiniad anghenion a sesiynau sgiliau i oedolion ag anableddau dysgu. Mae ganddo’r nod cyffredinol o arfogi pobl â sgiliau a gwybodaeth i helpu i chwalu rhai o’r rhwystrau y maent yn eu profi o ran cael perthnasoedd teg ac agosatrwydd. Rydym fel arfer yn gweithio un i un neu gyda chyplau, ond rydym hefyd yn cynnal gweithdai dysgu grŵp yn ogystal â chynnig diwrnodau hyfforddi rheolaidd yn y gweithle i gefnogi staff.
Felly, beth ddysgon ni o redeg ein rhaglen Sparc? Yn anffodus, rydym yn canfod yn gyson bod ein rhesymau cychwynnol dros ddechrau’r gwaith yn dal i fodoli. Mae diffyg ymwybyddiaeth gyffredinol o hawliau a diffyg mewnwelediad i sut i gefnogi pobl i gael y cyfleoedd gorau a mwyaf i fynd allan i gymdeithasu, cwrdd â phobl newydd a gwneud cysylltiadau cymdeithasol neu ramantus newydd.
“Yn gyffredinol, mae byd rhamant a rhyw o fewn y gymuned anabledd dysgu yn parhau i fod yn rhywbeth y mae darparwyr gofal ac unigolion eu hunain yn or-ofalus ohono.”
Rydym yn deall bod y pwyllo a ddaw o systemau a gwasanaethau cymorth yn dod o le sy’n dymuno cadw pobl yn ddiogel ac yn hapus. Fodd bynnag, mae byd rhamant a rhyw o fewn y gymuned anabledd dysgu yn parhau i fod yn rhywbeth y mae darparwyr gofal ac unigolion eu hunain yn or-ofalus ohono. Yn aml mae’n canolbwyntio ar fregusrwydd neu berygl posibl, yn hytrach na’r llawenydd a’r manteision y gellid eu hennill o’r perthnasoedd a’r profiadau hyn.
Trwy greu lle diogel a gweithio gydag unigolion i ganolbwyntio ar eu meysydd angen neu bryder, ac archwilio beth yw eu nodau perthynas ac agosatrwydd, gallwn nodi rhwystrau a gweithio tuag at atebion realistig.
Mae’n ffaith drist na fydd y mwyafrif helaeth o oedolion ag anabledd dysgu mewn partneriaethau tymor hir na pherthnasoedd rhamantus, ac nad yw hynny i lawer yr ydym yn eu cefnogi yn rhywbeth y maent yn disgwyl ei brofi.
Blaenoriaethu perthynas iach a hapus
Nod Sparc yw magu hyder a lleihau ofn a stigma ynghylch mynd i berthnasoedd a helpu pobl i ddeall eu hawliau a’u cyfrifoldebau. Bydd y rhain yn cynnwys materion ymarferol, megis trefniadau cymorth i hwyluso cyfleoedd cymdeithasol neu fynd ar ddêt, i gyfyng-gyngor perthynas fel trafod atal cenhedlu neu sicrhau cydsyniad llawn ar gyfer unrhyw weithgaredd rhywiol.
Mae angen i asiantaethau a darparwyr cymorth wneud yn well a chydweithio i gefnogi a galluogi hawliau’r gymuned anabledd dysgu. Mae Cwmni Addysg Rhyw yn credu bod addysg yn fan cychwyn allweddol ar gyfer hyn. Gallwn gefnogi staff i gydbwyso hawliau person anabl â’u cyfrifoldebau diogelu neu ofalu a rhoi perthnasoedd iach ac agosatrwydd ar yr agenda.
Dylid ystyried perthnasoedd iach a hapus i bawb fel y norm, yn hytrach nag fel rhai arbennig neu anarferol. Gallwn barhau i weithio gyda’n gilydd i gefnogi pobl i fod yn ddiogel. Yn fwy diogel mewn gwirionedd, wrth i bobl ennill eu cryfderau a’u gwytnwch eu hunain.
Mae meithrin diwylliant lle mae staff a gwasanaethau cymorth yn teimlo’n ddiogel, yn fedrus ac yn ddigon hyderus i gefnogi oedolion ag anableddau dysgu i gymryd rhan mewn cymryd risgiau cadarnhaol o ran eu perthnasoedd a’u rhyw, yn bwysig. Mae angen canolbwyntio ar yr hyn y gallwn ei wneud, a lle mae cyfeillgarwch, rhamant ac agosatrwydd bob amser ar yr agenda. Gall hyn arwain, nid yn unig mewn mwy a gwell perthnasoedd a chyfleoedd i unigolion, ond mewn llesiant cynyddol a llai o anghenion cymorth yn gyffredinol.
Ein nod yn y pen draw yma yng Nghwmni Addysg Rhyw yw parhau i fodloni’r angen hwn am addysg a chefnogi a datblygu hawliau pobl i gael y math o berthynas y maent am ei chael…… Mae’r un peth â phawb arall!
Am fwy o wybodaeth am Gwmni Addysg Rhyw, ewch i’w gwefan yn: https://www.sexeducationcompany.org