Measuring the mountain logo

Y llynedd fe helpodd Katie Cooke gyda’r prosiect Mesur y Mynydd, gan weithio gyda phobl a chyrff ar draws Cymru i gasglu 473 o straeon am brofiadau pobl o ofal cymdeithasol, a chynnal Rheithgor Dinasyddion i edrych ar y cwestiwn ‘Beth sydd yn cyfrif mewn gwirionedd mewn gofal cymdeithasol i unigolion yng Nghymru?’

Cafodd y prosiect ei gyllido gan Lywodraeth Cymru er mwyn deall rhagor am effaith cynnar y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), a dysgu rhagor am brofiadau gofalwyr a phobl sydd yn derbyn gofal a chefnogaeth o ofal cymdeithasol.


 

Treuliais cryn dipyn o 2018 yn sgwrsio gyda phobl am eu profiadau o ofal, yn dysgu am berthnasoedd pobl gyda darparwyr gwasanaethau, cymhlethdod anghenion rhai pobl, yr anawsterau y gall pobl eu wynebu wrth geisio cael gafael ar y gwasanaethau a’r effaith y mae bod angen cefnogaeth yn gallu ei gael ar fywyd rhywun, ac ar fywydau’r rhai o’u cwmpas.

Daeth y straeon y gwnaethom eu casglu o ganolfannau dydd, digwyddiadau cymdeithasol, cartrefi pobl, cynadleddau a gweithdai, eiriolaeth a sawl maes arall o ofal cymdeithasol. Roedd profiadau pobl yn amrywio o rai negyddol dros ben i rai cadarnhaol iawn a gyda’i gilydd roedden nhw’n amlygu themâu a ffactorau allweddol sydd yn gallu cyfrannu tuag at brofiadau person.

Cafodd nifer o’r themâu yma eu hailadrodd yn y Rheithgor Dinasyddion lle treuliodd 14 aelod o’r cyhoedd dridiau yn gwrando ar wybodaeth gan raglen lawn o unigolion oedd yn ymwneud ag un ai darparu neu dderbyn gwasanaethau gofal cymdeithasol. Gweithiodd y rheithgor gyda’i gilydd i ofyn cwestiynau, archwilio’r pynciau oedd yn cael eu rhannu ac yna cynhyrchu 15 o argymhellion ar draws pedwar maes y Ddeddf.

Roedd eu hargymhellion yn cynnwys cynnig cefnogaeth i bobl gan weithwyr allweddol diduedd i’w helpu i lywio gofal cymdeithasol, gwella’r gefnogaeth a’r gwerth a ddangosir tuag at ofalwyr, deall a sefydlu cydgynhyrchu mewn darpariaeth gofal cymdeithasol a sicrhau bod gwybodaeth yn glir ac wedi’i gynhyrchu mewn fformatau hygyrch sydd yn diwallu anghenion pawb.

Mae’r argymhellion yma yn amlygu rhai o’r meysydd holl bwysig a nodir yn y straeon:

“Roedd 75% o’r profiadau a rannwyd gan ofalwyr yn negyddol, o’i gymharu â 44% a rannwyd gan bobl oedd yn derbyn gofal a chefnogaeth”

Dywedodd ychydig dros hanner y rhai a ymatebodd i gwestiynau am wybodaeth nad oedden nhw wedi derbyn unrhyw wybodaeth oedd yn ddefnyddiol iddyn nhw a phan ofynnwyd iddyn nhw pwy oedd wedi dylanwadu ar beth oedd wedi digwydd yn y stori roedden nhw wedi ei rhannu, dywedodd 51% o’r bobl mai staff gofal cymdeithasol oedd y dylanwadwyr pennaf.

Amlygodd y straeon feysydd o arfer gorau hefyd a rhai o’r ffactorau sydd yn cyfrannu tuag at brofiadau cadarnhaol. Roedden nhw’n dangos yn neilltuol pa mor bwysig ydy cysylltiadau pobl gyda chymuned, teulu, ffrindiau neu hyd yn oed gydag un person yn unig. Lle roedd pobl yn cael eu cefnogi i gynnal neu i ddatblygu eu cysylltiadau, boed drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau roedden nhw’n eu mwynhau, gallu ymweld â theulu a ffrindiau neu gallu byw gyda phobl roedden nhw’n eu hoffi, roedd eu straeon yn gadarnhaol.

Gyda’i gilydd, cynhyrchodd Mesur y Mynydd 31 o argymhellion, a gellir distyllu nifer ohonyn nhw i’r neges bod angen edrych ar bobl fel partneriaid yn y ddarpariaeth gofal cymdeithasol

Mae rhagor eto i’w ddysgu am brofiadau pobl o ofal cymdeithasol a’r ffactorau sydd yn cyfrannu at wneud y profiadau hynny yn gadarnhaol neu yn negyddol, fel bod darpariaeth gofal cymdeithasol yn gallu cefnogi anghenion pobl yn well. O fis Awst 2019 fe fyddwn yn dechrau casglu straeon unwaith eto. Gallwch ddarllen rhagor am ein canfyddiadau, ein hargymhellion a digwyddiadau i ddod ar ein gwefan – www.mtm.wales.

Katie Cooke
Mesur y Mynydd