Yn gynharach eleni gofynnodd ein tîm Hawdd ei Ddeall Cymru pa wybodaeth hawdd ei deall oedd ei hangen yng Nghymru, gydag addewid i gynhyrchu adnoddau newydd i lenwi’r bylchau pwysicaf.
Gofynnodd mwyafrif yr ymatebion am wybodaeth ynghylch iechyd rhywiol a pherthnasoedd. Yn dilyn hyn, gall Hawdd ei Ddeall Cymru gyhoeddi y byddant yn gweithio gyda Chwmni Addysg Rhyw i greu adnodd newydd sbon.
Mae Cwmni Addysg Rhyw — Sex Education Company yn fenter gymdeithasol yng Ngogledd Cymru. Mae ganddyn nhw gyfoeth o wybodaeth a phrofiad o ddarparu addysg a hyfforddiant o ansawdd uchel am iechyd rhywiol a pherthnasoedd ar gyfer grwpiau agored i niwed.
Dywedodd Rhian McDonnell, Swyddog Cyfathrebu Hygyrch Hawdd ei Ddeall Cymru: “Rydym ni’n falch iawn o fod yn gweithio gyda Chwmni Addysg Rhyw i greu adnoddau hawdd eu deall yn ymwneud ag iechyd rhywiol a pherthnasoedd.
“Ein cam nesaf yw cynnal adolygiad cwmpasu i ddarganfod pa ddogfennau sydd eisoes yn bodoli. Byddwn yn gofyn ble mae’r bylchau a ble y gellir gwneud gwelliannau. Byddwn yn asesu’r hyn y byddwn ni’n ei ddarganfod, fel y gallwn ni lunio rhestr fer o bynciau sy’n edrych fwyaf defnyddiol.
“Byddwn yn rhannu’r 5 pwnc gorau ac yn gofyn i bobl bleidleisio dros eu hoff un. Yna byddwn yn gwneud y syniad buddugol yn hawdd ei ddeall yn ddiweddarach eleni.”
Pan fydd yr adnodd newydd wedi’i orffen bydd ar gael am ddim ar adran Hawdd ei Ddeall Cymru ar ein gwefan. Byddwn hefyd yn cynnal ymgyrch wybodaeth i hyrwyddo’r adnodd newydd.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Rhian McDonnell: e-bost easyread@ldw.org.uk neu ffoniwch 029 2068 1160.