Mae SWS (Safonau Gwasanaethau Wrecsam) yn grŵp o wirfoddolwyr sydd, neu sydd wedi derbyn cefnogaeth. Dydy’r grŵp ddim yn disgwyl i gefnogaeth gamu i mewn ond yn hytrach maen nhw ‘Yn ei Wneud eu Hunain!’ Maen nhw wedi sefydlu gweithgareddau sydd yn canoli ar y person fel y Ganolfan Gyfeillgarwch, Blwch Celf, Straeon o’r Cyfnod Clo, Lleoedd Diogel a Charu Wrecsam.
Mae’r holl grwpiau yma yn ymateb i anghenion y grŵp ac yn cysylltu gyda’r gymuned leol ac felly mae cyfeillgarwch wedi datblygu – cyfeillgarwch sydd ddim yn dibynnu ar daliadau, gwiriadau DBS nac anableddau.
Ymunwch yn y sesiwn i weld sut mae SWS yn gweithio a gofyn cwestiynau am sut y gallwch gymryd rhan a sut y gallwch chi wneud rhywbeth tebyg.
Dydd Iau 19 Tachwedd 2020
2:00 – 3:00 yp