Mae Anabledd Dysgu Cymru a’r  prosiect Engage to Change wedi ymateb i ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru ar y newidiadau i’r Cwricwlwm i Gymru.

Child sitting at school desk with pencil in his handYm mis Gorffennaf fe wnaethom gynnal grŵp ffccws gyda chyfranogwyr oedd  n rhieni a gofalwyr oedd yn gweithio mewn ysgolion. Fe wnaethom ymateb i’r ymgynghoriad er mwyn rhoi adborth ar sut orau i fesur cynnydd plant a sut i sicrhau bod gan blant gydag anableddau dysgu  y cyfleoedd gorau o’r cychwyn. Fe wnaethom hefyd roi gwybodaeth ar y meysydd penodol o Addysg Perthnasoedd a Rhyw ac ar Gyrfaoedd a Phrofiad’yn Berthynol i Waith. Dyma rai o#r prif bwyntiau:

Ailfeddwl am anghenion dysgu ‘ychwanegol’

I blant a phobl ifanc gydag anableddau dysgu ac sydd yn niwrowahanol (e.e. dyslecsia, awtistiaeth, ADHD) gall ysgol fod yn brofiad dieithr ac ofnus. Mae wynebu disgwyliadau sydd yn seiliedig ar ddatblygiad plant sydd yn niwronodweddiadol yn gallu golygu bod plant y mae eu hymennydd yn gweithio yn wahanol yn gallu teimlo eu bod yn barhaus yn methu ac yn methu ateb disgwyliadau.

Gwyddom bod bron i chwarter o blant a phobl ifanc yn ysgolion Cymru wedi cael diagnosis o anghenion dysgu ychwanegol. Mae’n bwysig nodi mai dim ond y plant oedd ag anghenion dysgu ychwanegol wedi eu hadnabod oedd y rhain. Tra na allwn wybod faint o bobl sydd yn niwrowahanol gwyddom fod nifer sylweddol o blant yn mynd trwy ysgol gydag anableddau dysgu, anawsterau dysgu ac yn niwrowahanol heb ddiagnosis.

Oherwydd hyn, credwn y dylai ysgolion ganolbwyntio’n llawer mwy ar sut mae deall materion anabledd yn llywio addysgu. Gallai hyn, er enghraifft, gynnwys defnydd mwy beirniadol o’r cysynid o ‘anghenion dysgu ychwanegol’ a chadarnhad o’r model cymdeithaol o anabledd. Mae’r term ‘anghenion dysgu ychwanegol’ yn awgrymu bod anghenion dysgu ‘normal’ a bod pawb sydd yn cael trafferth gyda ffordd y mae pethau yn cael eu dysgu angen help ‘ychwanegol’. Ond credwn ei bod yn gwneud synnwyr i ddeall anghenion dysgu fel rhywbeth unigol a datblygu dull o addysgu lle mae anghenion pawn yn cael eu hateb..

Beth mae cynnydd yn ei feddwl?

Pan rydym yn siarad am sut mae dysgwyr yn dysgu mae’n bwysig deall bod dysgwyr efallai yn datblygu ar gyflymdra gwahanol a hefyd yn datblygu yn wahanol. Credwn y byddai dull mwy hyblyg tuag at gynnydd yn golygu derbyn y gall dysgwyr ddatblygu ar wahanol gyflymdra a hefyd y gallai cynnydd edrych yn wahanl i ddysgwyr unigol. Dylai ysgolion feithrin y galluoedd a’r crfyderau gwahanol sydd gan ddysgwyr a sicrhau bod myfyrwyr yn cael eu grymuso gan eu profiadau dysgu, yn hytrach na theimlo eu bod heb eu grymuso drwy gael eu mesur yn erbyn meini prawf sydd yn anaddas iddyn nhw.

Mae bod yn gynhwysol tuag a ddysgwyr gydag anableddau dysgu a dysgwyr sydd yn niwrowahanol yn golygu gweithio allan sut y gellid datblygu eu sgiliau a’u potensial orau ar sail unigol, wedi’i ganoli ar y person.  Gallai hyn gynnwys cynnydd ar hyd meini prawf wedi’u cyn ddethol fel yn y cod yma, ond gallai hefyd olygu bod pobl yn datblygu mewn dulliau gwahanol ac annisgwyl.

Datblygu dull yn seiliedig ar hawliau

Yn aml dydy pobl gydag anableddau dysgu ddim yn cael gwybodaeth digonol am eu hawliau. Fe ddylai ysgolion ddefnyddio dulliau yn seiliedig ar hawliau tuag at ddysgu sydd yn canoli ar eu hawl i ddysgu yn unol â’u hanghenion a’u dewisiadau eu hunain.

Mae’n bwysig bod gan athrawon ddealltwriaeth dda o’r Ddeddf Cydraddoldeb yn ogystal â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (PDF). Fe ddylai hyn hefyd gynnwys dysgwyr yn gwybod am eu hawliau a chael eu hannog i eiriol drostynt eu hunain yn ogystal â thros eraill. Yn aml dydy pobl gydag anableddau dysgu ddim yn cael rheolaeth dros eu bywydau a’u penderyfniadau eu hunain. Fe ddylai ysgolion annog eiriolaeth am hawliau dysgwyr yn ogystal â gofalu am eraill.

Ar nodyn perthynol, fe ddylai dysgwyr gael eu grymuso i eiriol i’w haddysg eu hunain fod yn hygyrch iddyn nhw. Fe ddylid eu dysgu am eu hawliau addysgol a’r Ddeddf Cydraddoldebau. Hoffem weld cydnabyddiaeth o hawl dysgwyr i gael mynediad cyfartal i’r cod yma.

Mae’n bwysig hefyd cydnabod y rôl y gallai gwahaniaethu ei chwarae yma. Gall dysgwyr fod yn wynebu systemau rhyng-gloi a chymhleth o anfantais a gwahaniaethu. Fe ddylai pob cwricwlwm gynnwys ymrwymiadau i wneud ysgolion yn rhydd o wahaniaethu o bob math. Fe ddylai ysgolion hefyd ymrwymo eu hunain i ymgysylltu gyda phlant a theuluoedd o gymunedau anodd i’w cyrraedd. Mae hyn, er enghraifft, yn golygu ymestyn at gymunedau ac adeiladu cysylltiadau. Mae hefyd yn golygu gweithio yn erbyn bwlio a rhagfarn mewn ysgolion, o ran sut y mae’n ymddangos mewn ymddygiad gan fyfyrwyr eraill ac athrawon.

Cyfathrebu

Hoffem bwysleisio y gall fod gan blant anabl wahanol anghenion cyfathrebu sydd angen eu hateb. Fe ddylid annog dysgwyr i archwilio gwahanol ffurfiau o gyfathrebu er mwyn iddyn nhw allu darganfod y ffurfiau sydd yn gweithio orau iddyn nhw. Fe ddylid adlewyrchu hyn yn y vn y canllaw, sef bod rhuglder mewn iaith yn gallu golygu pethau gwahanol i bobl gwahanol.

Amgylchiadau perthnasol

Mae’n bwysig cael cwricwlwm da i ysgol. Ond mae cyn bwysiced sicrhau bod gan ysgolion gyllid digonol i allu gweithredu’r cwricwlwm yn llawn. Yn ein grŵp ffocws dywedodd ein cyfranogwyr wrthym  mai’r pryder mwyaf oedd ganddyn nhw oedd a oedd gan ysolion yr adnoddau perthnasol mewn gwirionedd i wneud y newidiadau oedd angen eu gwneud.

Mae rhan o hyn hefyd yn cynnwys hyfforddi arthrawon. Mae holl athrawon a staff addysgu mewn ysgolion angen llawer mwy o hyfforddiant helaeth ar anabledd a niwrowahaniaeth nag y maen nhw’n ei dderbyn ar hyn o bryd. Fe ddylid edrych ar yr hyfforddiant ei hun i sicrhau ei fod yn hyfforddiant yn seiliedig ar hawliau sydd yn dysgu am y model cymdeithasol o anabledd  ac sydd yn annog athrawon i wneud amgylchedd dysgu cynhwysol yn norm ac nid  yn rhywbeth ‘ychwanegol’.

mother and son holding their heads together and smiling

Mae’n bwysig hefyd bod hyfforddiant i athrawon ynddoi’i hun yn fwy cynhwysol. Mae angen i athrawon brofi amgylchedd gynhwysol eu hunain er mwyn gallu creu un i eraill. Hefyd, fe fydd cael rhagor o athrawon anabl a niwrowahanol yn creu amgylchedd mwy cynhwysol i ddysgwyr.

Yn debyg i’r materion cyllido, mae’n hanfodol bwysig bod digon o staff ar gael i weithredu’r crwicwlwm. Mae’n bwysig hefyd bod cysondeb mewn staff addysgu a chefnogi. Mae plant gydag anableddau dysgu ac sydd yn niwrwahanol angen cysondeb yn eu perthnasoedd ac mae’n bwysig bod cynorthwywyr addysgu a staff cefnogi eraill yn cael cynnig amodau gwaith da.

Paratoi ar gyfer byd gwaith

Mae’r cwricwlwm yng Nghymru yn eglur y dylai fod yn gymwys i bob plentyn, yn cynnwys y rhai gydag anghenion dysgu ychwanegol.Ond, drwy’r ddogfen dydy hi ddim yn amlwg sut y mae’n gymwys i blant anabl. Dim ond 6% o bobl gydag anableddau dysgu yn y DU sydd mewn gwaith cyflogedig. Ac eto, rydym wedi clywed gan bobl gydag anableddau dysgu eu hunain bod y mwyafrif llethol eisiau gweithio.

Yn eu Maniffesto 2021 Pobl Yn Gyntaf Cymru Gyfan nodir: ‘Mae’n bwysig bod cyflogwyr yng Nghymru yn creu cyfleoedd i bobl gydag anableddau dysgu. Mae nifer o bobl gydag anableddau dygsu wedi llwyddo yn y gweithle pan fo addasiadau rhesymol wedi eu gwneud, fel gwybodaeth hawdd ei ddeall mewn hysbysebion a chyfweliadau, cefnogaeth i ddysgu gwaith a phartneriaethau gyda thâl.’

Mae ysgolion yn sefydliadau pwysig i alluogi myfyrwyr gydag anableddau dysgu i ddatblygu eu dyheadau a’u sgiliau. Yn rhy aml mae pobl ifanc gydag anableddau dysgu yn cael eu gwneud i deimlo o oedran cynnar eu bod yn llai nag eraill, eu bod yn haeddu llai ac yn gallu cyflawni llai na phlant eraill. I gywiro hyn, rhaid integreiddio materion anabledd i’r addysgu. Un broblem gyda’r canllaw yma ydy nad yw’n gwneud hynny’n glir.

Mae gan bobl gydag anabledd dysgu yr hawl i gymryd rhan llawn mewn cymdeithas ac mae hynny’n cynnwys cael gwaith yn berthynol i hyfforddiant a phrofiad gyrfa. Fe ddylai’r canllaw adlewyrchu hynny a’i gwneud yn orfodol i ysgolion roi mynediad cyfartal i’r cyfleoedd hyn i blant anabl..

O’n grwpiau ffocws gwyddom bod y cyfleoedd a gynigir i ddysgwyr gydag anableddu dysgu a rhai sydd yn niwrowahanol yn gyfyngedig iawn. Mae gan y dysgwyr yma yr hawl i brofi gwahanol weithleoedd a phenderfynu pa faes gwaith sydd yn gywir iddyn nhw. Mae hyn yn golygu bod rhaid i ysgolion sydd yn gweithio gyda dysgwyr anabl wneud rhagor i gynnig profiadau gwaith addas ac amrywiol iddyn nhw. Mae darparu cefnogaeth addas iddyn nhw ddarganfod lleoliad gwaith a dysgu wrth weithio yn angenrheidiol i alluogi hyn. Mae hyn fel rheol yn gefnogaeth Hyfforddwr Swydd hyfforddedig.

Mae’n bwysig bod plant a phobl ifanc yn dysgu am y model cymdeithasol o anabledd ac am y ffordd y mae’r model cymdeithasol yn berthnasol i’r gweithle. Mae’n bwysig hefyd bod plant a phobl ifanc yn cael eu paratoi ar gyfer byd gwaith a hefyd bod ganddyn nhw’r hawl i addasiadau rhesymol i sicrhau bod swyddi wedi’u gwneud yn addas iddyn nhw. Fe ddylai ysgolion fod yn gweithio gyda chyflogwyr, Gyrfaoedd Cymru a chyrff eraill i hwyluso dysgu ar bob ochr.

Cynnig y cyfleoedd cywir i ddysgwyr

Yng ngrwpiau ffocws Anabledd Dysgu Cymru fe wnaethom glywed bod rhai teuluoedd gyda phlant gydag anghenion dysgu ychwaneol yn wynebu loteri cod post o ran cael gafael ar brofiad gwaith. Fe wnaethom hefyd glywed nad ydy cyllid ar gyfer cyfloedd yn gyson dros amser gyda rhaglenni sydd yn cynnig cyfleoedd i bobl ifanc brofi’r gweithle.

Yn unol â’r model cymdeithasol o anabledd mae hefyd yn bwysig nodi mai un rheswm allweddol pam fod pobl gydag anabledd dysgu yn cael trafferth i gael neu i gadw cyflogaeth ydy nad ydy cyflogwyr yn cynnig yr addasiadau rhesymol cywir. Fe ddylai ysgolion weithio gyda chyflogwyr yn ystod profiadau gwaith i roi cymorth wedi’i ganoli ar y person i’w myfyrwyr.

Rydym hefyd yn annog llunwyr penderfyniadau i edrych yn benodol ar gyflogaeth gyda chefnogaeth a sut y gellid ei integeriddio i’r cwricwlwm i sicrhau bod pobl ifanc gydag anableddau dysgu yn cael cyfle teg. Gall asiantaethau cyflogaeth gyda chefnogaeth gynnig cefnogaeth arbenigol i ddarganfod, cael a dysgu ar leoliad gwaith gan sicrhau bod dysgwyr yn cael profad cyntaf cadarnhaol yn y byd gwaith, a fydd yn fuddiol iddyn nhw yn y dyfodol.

Yng nghyd-destun y Cwricwlwm i Gymru rydym hefyd yn awgrymu bod Gyrfaooedd Cymru yn archwilio cydweithrediad agosach gyda GIG Cymru i ddarparu lleoliadau profiad gwaith ystyrlon i fyfyrwyr gydag anghenion dysgu ychwanegol. (Mae rhagor o wybodaeth am sut y gallai partneriaethau o’r fath weithredu yn ein papur safle: Sut y gall cyflogwyr sector cyhoeddus fel y GIG helpu pobl gydag anableddau dysgu neu awtistiaeth i gael swyddi?)

Addysg Perthnasoedd a Rhyw

Fe ddylai Addysg Perthnasoedd a Rhyw fod yn ddull ysgol gyfan ac yn gynhwysol i bawb. Mae’r egwyddor y dylai dysgwyr ddysgu ‘gwerthfawrgi gwahaniaeth ac amrywiaeth fel ffynhonnell cryfder’ yn bwysig iawn oherwydd yn rhy  aml mae plant anabl, yn cynnwys y rhai gydag anableddau dysgu, yn cael eu gweld fel rhai â gwendid yn hytrach na chael eu dathlu am eu cryfderau a’r hyn y gallant ei gynnig i eraill.

Mae Anabledd Dysgu Cymru yn credu y dylid darparu llawer mwy o wybodaeth a chanllaw i ymarferwyr am bwysigrwydd addysgu Addysg Perthnasoedd a Rhyw i blant gydag anghenion dysgu ychwanegol – e.e. gallant fod yn ddibynnol ar eraill am ofal personol. Gall hyn eu gwneud yn agored i gamdriniaeth ac efallai nad ydynt yn ymwybodol bod yr hyn sydd yn digwydd iddyn nhw yn anghywir, neu efallai eu bod yn cael traffeth cyfathrebu neu fynegi eu pryderon am yr hyn sydd yn digwydd iddyn nhw. Me’n bwysig felly bod y gwahaniaeth rhwng cyffyrddiad priodol ac amhriodol yn cael ei ddysgu.

Bod yn sensitif i drawma

Gallai trafodaethau mewn Addysg Perthnasoedd a Rhyw godi problemau i unrhyw blentyn neu berson ifanc sydd wedi profi camdriniaeth. Mae’n bwysig felly bod pob hyfforddiant Addysg Perthnasoedd a Rhyw yn cynnwys cyngor i ymarferwyr ar sut i ddelio gyda hyn. Gall rhai plant a phobl ifanc ddatgelu camdriniaeth am y tro cyntaf yn ystod neu ar ôl y gwersi yma, felly unwaith eto mae angen cynnwys cyngor priodol i ymarferwyr – fel adrodd am hyn i’ch arweinydd diogelu, peidio gofyn cwestiynau arweiniol etc.

Nododd un ymarferydd yn ein grŵp ffocws: ‘[dylid ystyried] Addysg Perthnasoedd a Rhyw fel mater diogelu. Mae nifer o bapurau ac adroddiadau am y ffeithiau: mae pobl gydag anabledddau dygsu dair neu bedair gwaith yn fwy tebygol o gael eu cam-drin (yn cynnwys yn rhywiol). Fe ddylai’r canllaw gynnwys ffocws ar atal camdriniaeth ac ymwybyddiaeth o’r corff a chaniatad. Rwyf yn anghytuno ein bod angen llawer o arbenigwyr, yr hyn sydd ei angen ydy oedolion a chymheiriaid sydd yn gallu siarad yn agored am y problemau fel a phan mae angen. Dydy’r rhan fwyaf o bobl gydag anableddau dysgu ddim yn derbyn unrhyw addysg am rywioldeb a pherthnasoedd ac mae hyn yn rhyfeddol’.

Sut i ddarganfod yr ymatebion llawn i’r ymgynghoriad

Gallwch ddarllen ein hymatebion gwreiddiol i ymgynghoriad LLywodraeth Cymru yma: (mae’rholl ddogfennau yn agor fel PDFs Saesneg)

Hoffem ddiolch i’r cyfranogwyr o’n grwpiau focws oedd yn cynnwys cyfranogwyr o Travelling Ahead TGP Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-Bont, Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Penfro (PAVS) a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, a diolch hefyd i Bobl yn Gyntaf Caerdydd am gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig.