Datganiad ar ran Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan, Anabledd Dysgu Cymru, Mencap Cymru a Supported Loving ar y newidiadau arfaethedig i gynlluniau Llywodraeth y DU i wahardd therapi trosi.
Rydym yn drist ac yn siomedig i weld bwriad Llywodraeth y DU i beidio â chynnwys amddiffyniad i bobl trawsrywiol yn ei waharaddiad arfaethedig ar therapi trosi. Pan lansiwyd yr ymgynghoriad yma yn wreiddiol fe wnaethom ymateb ein bod o blaid gwahardd therapïau ac arferion eraill wedi’u hanelu at drosi pobl LGBTQ+ yn syth, ond fe wnaethom feirniadu’r bwriad i barhau i ganiatau rhyw ffurf o therapi trosi. Gallwch ddarllen yr ymateb llawn yma (yn agor fel PDF).
Rydym yn drist nawr i weld bod cwmpas y gwaharddiad arfaethedig hyd yn oed yn llai Rydym yn ymwybodol bod Llywodraeth y DU wedi dweud na fydd yn gwahardd therapi trosi i bobl trawsrywiol allan o bryder y gallai gwaharddiad o’r fath gael y canlyniadau anfwriadolo o’i gwneud yn anos i therapyddion helpu cleifion i archwilio eu hunaniaeth rhywedd. Dydyn ni ddim yn credu bod hyn yn rheswm da dros newid y cynlluniau.. Ni fyddai gwahardd threrapi trosi yn effeithio ar allu person i archwilio eu hunaniaeth rhywedd yn rhydd.Yr unig beth y byddai yn ei wneud ydy gwahardd arferion lle mae rhywun arall yn ceisio argyhoeddi person eu bod yn rhywbeth nad ydyn nhw.
Rydym yn annog Llywodraeth y DU yn gryf i ailystyried caniatau arferion trosi sydd yn gwadu hunaniaeth pobl trawsrywiol ac sydd yn rhoi eu llesiant mewn perygl.