Dros yr wythnosau diwethaf rydyn ni wedi bod yn cyflwyno’r pum aelod o staff newydd sydd wedi ymuno ag Anabledd Dysgu Cymru yn ddiweddar. Heddiw rydyn ni’n cyflwyno Rebecca Chan, ein Swyddog Gwybodaeth Hawdd ei Ddeall newydd, fydd yn gweithio ar ein tîm Hawdd ei Ddeall Cymru estynedig.
“Rydw i’n llawn cyffro wrth ymuno ag Anabledd Dysgu Cymru fel Swyddog Gwybodaeth Hawdd ei Ddeall gyda’n tîm Hawdd ei Ddeall Cymru.
“Rydw i wedi treulio’r ychydig flynyddoedd diwethaf fel gweithiwr cefnogi yn L’Arche Edinburgh, cymuned ble mae pobl ag anabledd dysgu a rhai heb anabledd dysgu yn byw ochr yn ochr â’i gilydd. Roedd yn brofiad anhygoel ac fe ddysgais lawer – gan gynnwys faint sydd gan bobl ag anabledd dysgu i’w gynnig, yn enwedig pan fyddwn ni’n cael gwared â rhwystro pobl rhag cyfranogi.
“Dyna pam mae gwybodaeth hawdd ei ddeall mor bwysig. Mae gan bawb yr hawl i gael gwybodaeth ac i wneud y mwyaf o’r cyfleoedd sydd gan fywyd i’w gynnig. Rydw i’n meddwl bod gan wybodaeth Hawdd ei Ddeall ran fawr i’w chwarae yn hyn ac rydw i’n meddwl hefyd bod llawer o le ar gyfer arbrofi gyda gwahanol fathau o gyfryngau. Yn fy mywyd y tu allan i Anabledd Dysgu Cymru rydw i’n gwneud ffilmiau byr ar gyfer busnesau a grwpiau lleol ac rydw i’n awyddus i ymchwilio i wneud ffilmiau fel rhan o wybodaeth hawdd ei ddeall.
“Mae Anabledd Dysgu Cymru yn fudiad gwerth chweil, sy’n rhedeg cymaint o brosiectau diddorol. Rydw i’n hapus iawn i fod yma ac yn edrych ymlaen at gyfrannu tuag at yr holl waith cyffrous sy’n digwydd.”
Gwella sut rydym yn ymgysylltu gyda’r sector anabledd dysgu yng Nghymru
Gallwch ddarllen am yr aelodau eraill o’r staff sydd wedi ymuno yn ddiweddar gyda’n tîm yma:
Lyndsey Richards – Rheolwraig Prosiect
Angela Kenvyn – Rheolwraig Prosiect Engage to Change
Grace Krause – Swyddog Polisi
Rhobat Jones – Gweinyddydd
Mae Zoe Richards, ein Prif Weithredwraig dros dro wedi ysgrifennu am sut y bydd gan ein tîm sydd newydd ehangu effaith sylweddol ar ein gwaith, a sut rydym ym ymgysylltu gyda’r sector anabledd dysgu yng Nghymru.
Our five new members of staff. (Clockwise from top left) Lyndsey, Angela, Grace, Rebecca and Rhobat