Lansiodd Cymru y trydydd Senedd Ieuenctid ym mis Ionawr 2025 ac Anabledd Dysgu Cymru yw un o’r cyrff partner sydd yn cefnogi pobl ifanc anabl i gael llais.


1 Ionawr 2025 – 31 Rhagfyr 2026. Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Senedd Ieuenctid Cymru.


Mae Anabledd Dysgu Cymru yn falch o fod yn gweithio gyda Senedd Ieuenctid Cymru am drydydd tymor fel corff partner. Fe fyddwn yn cefnogi Tammi Tonge o Gonwy i siarad yn y Senedd Ieuenctid ar ran pobl ifanc anabl eraill yng Nghymru.

Pleidleiswyd gan pobl ifanc

Mae 60 o bobl ifanc rhwng 11 a 18 oed yn eich Aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru.

Etholwyd 40 ohonynt gan bobl ifanc a bleidleisiodd yn etholiad y Senedd Ieuenctid ym mis Tachwedd 2024. Mae’r 20 arall wedi’u hethol gan bobl ifanc o sefydliadau partner. Mae Anabledd Dysgu Cymru yn falch o fod yn un o’r sefydliadau yma.

Drwy roi’r senedd at ei gilydd fel hyn, roeddem yn gallu sicrhau bod gennym gynrychiolaeth o grwpiau amrywiol o bobl Ifanc.

Ei rhedeg gan bobl ifanc

Pobl ifanc sy’n dewis y materion a godir gan Senedd Ieuenctid Cymru. Maen nhw’n cael eu cefnogi gan y bobl ifanc rydych chi wedi’u dewis i fod yn Aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru.

Mae eich Aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru yn tynnu sylw at y materion sy’n bwysig i chi ac yn eu trafod ar lefel genedlaethol.

Cesglir barn pobl Ifanc eraill o bob cwr o’r wlad a chydweithio â’r rhai sydd â’r grym i wneud newidiadau.

Sut y bydd y Senedd Ieuenctid yn gweithio

Byddwn yn treulio pob tymor dwy flynedd o’r Senedd Ieuenctid Cymru yn:

  • Grymuso pobl ifanc Cymru i drafod a chodi ymwybyddiaeth ohonynt a’u trafod.
  • Gwrando ar bobl ifanc yng Nghymru, cynrychioli eu barn a gweithredu ar y materion sy’n bwysig iddyn nhw.
  • Gweithio gyda pobl ifanc yng Nghymru, a rhannu beth mae’r Senedd Ieuenctid yn ei wneud am y materion y maen nhw wedi codi.

Ein Haelodau Senedd Ieuenctid Cymru

Tammi Tonge

Mae Tammi yn 18 oed ac yn byw yng Nghonwy, Gogledd Cymru. Mae hi’n awtistig ac mae ganddi anabledd dysgu yn ogystal â scoliosis a chyflwr genetig prin. Rhoddwyd Tammi mewn gofal maeth pan oedd yn fabi a chafodd ei mabwysiadu yn ddiweddarach gan ei theulu maeth. Mae hi’n angerddol am gynhwysiant ac mae eisiau gwneud yn siŵr bod pobl ifanc anabl yn cael yr un cyfleoedd â’u cyfoedion nad ydyn nhw’n anabl.

Dywedodd Tammi, “Pa bynnag heriau rwy’n eu hwynebu, rwyf bob amser yn rhoi 100%. Gall fod yn anodd weithiau, ac efallai y bydd angen symleiddio tasgau a chael rhywun i’w egluro i mi mewn ffordd y gallaf ei dilyn a’i deall, ond rwyf bob amser yn gwneud fy ngorau. Fy nod fel Aelod Senedd Ieuenctid Cymru yw ceisio gwella profiadau bywyd i bawb, yn enwedig pobl anabl. Efallai fy mod i’n fach, ond dydy hynny ddim yn fy nal i’n ôl!”.

Mwy o wybodaeth

Am fwy o wybodaeth ymwelwch â’r wefan Senedd Ieuenctid Cymru, neu siaradwch â Sam Williams o Anabledd Dysgu Cymru, ffoniwch 029 2068 1160 neu ebostiwch samantha.williams@ldw.org.uk.