2 men looking at a book together

Rydym am wella ansawdd ac ystod gwasanaethau a gweithgareddau yn ystod y dydd ar gyfer pobl ag anabledd dysgu ledled Cymru.

Nod ein rhwydwaith yw

1.    Gwella cydweithredu

Meithrin partneriaethau cryf ymhlith sefydliadau i rannu arferion gorau ac adnoddau.

2.    Gwella gwasanaethau

Annog gwelliant parhaus ansawdd ac ystod gwasanaethau a gweithgareddau yn ystod y dydd.

3.    Cynyddu asiantaeth

Sefyll dros hawliau pobl ag anabledd dysgu i gael dewis a rheolaeth dros wasanaethau dydd a gweithgareddau y maent yn cymryd rhan ynddynt.

Cliciwch ym i weld cenhadaeth lawn, nodau a gwerthoedd y rhwydwaith.

Ar gyfer pwy mae’r rhwydwaith hwn?

Mae’r cyfarfod hwn ar gyfer unrhyw un sy’n ymwneud â darparu, neu gymryd rhan mewn gwasanaethau dydd neu weithgareddau i bobl ag anabledd dysgu, gan gynnwys:

  • Sefydliadau’r sector gwirfoddol neu’r trydydd sector
  • Cyrff statudol
  • Sefydliadau nid-er-elw
  • Cwmnïau Buddiannau Cymunedol

Cyfarfodydd

Cyfarfod lansio: Dydd Mercher 7 Mai 2025, Ar-lein. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.