Fe wnaethom helpu i ddarganfod sut yr effeithiwyd ar fywydau pobl yn ystod y pandemig coronafeirws.

Roedd yr astudiaeth hon yn cynnwys ymchwilwyr a sefydliadau ledled y DU i ddarganfod ac adrodd ar sut mae coronafeirws yn effeithio ar fywydau pobl ag anabledd dysgu. Cafodd ei ariannu gan UK Research and Innovation.

Cam 1 – Hydref 2020 i Chwefror 2021

Rydym am ddiolch i’r nifer fawr o bobl sydd wedi ein helpu yn y cam cyntaf yr astudiaeth. Diolch i bobl ag anabledd dysgu sydd wedi cael eu cyfweld, y bobl a’r sefydliadau sydd wedi ein helpu i ddod o hyd i bobl, eu cefnogwyr, ffrindiau a’i gofalwyr teulu. Gallwch ddarllen y crynodeb hawdd ei ddarllen o ganfyddiadau cam 1 yma (PDF). Gallwch hefyd ddarllen am y digwyddiad a gynhaliwyd gennym i rannu canfyddiadau cam 1 yma.

Diolch – Hawdd i’w Ddeall (Saesneg yn unig)

Cam 2 – ers diwedd mis Mawrth 2021

Mae arolwg ar ganfyddiadau, sy’n cynnwys briffiau hawdd eu deall, ar gael yma. Fe wnaethom hefyd gynnal digwyddiad i rannu canfyddiadau cam 2 a oedd yn cynnwys cyflwyniadau gan  Gadeirydd Grŵp Cynghori’r Gweinidog, Joe Powell Prif Weithredwr Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan a Wayne Crocker Cyfarwyddwr Mencap Cymru a thrafodaeth grŵp.

Cam 3 – Gorffennaf i Awst 2021

Wnaethon ni ddim recriwtio unrhyw un newydd ar gyfer y cyfnod hwn o’r astudiaeth gan i’r ymchwilwyr ond cyfweld â’r rhai a gymerodd rhan yng nghyfnodau 1 a 2. Mae trosolwg o’r canfyddiadau, gan gynnwys briffiau hawdd eu darllen, ar gael yma. Ym mis Medi cynhaliodd y tîm ymchwil amser holi. Roedd y digwyddiad yn cynnwys panel o gynrychiolwyr o’r 5 sefydliad partner sy’n rhan o’r ymchwil, a atebodd gwestiynau gan fynychwyr ar amrywiaeth o faterion.

Adroddiad terfynol

Cyhoeddodd yr astudiaeth ei hadroddiad terfynol ym mis Chwefror 2022. Gallwch ddarllen crynodeb o’r canfyddiadau yn ogystal â’r adroddiad llawn a fersiwn hawdd ei ddarllen yma.

Cam 4 – Mai 2022 i Ionawr 2023

Sicrhawyd cyllid pellach i gynnal pedwerydd cam ymchwil ar draws y DU i ddarganfod sut mae pobl ag anabledd dysgu a theuluoedd a gymerodd ran yn yr astudiaeth wreiddiol yn ymdopi wrth i’r DU wella o’r pandemig COVID-19. Gallwch ddarllen yr adroddiad ar ganfyddiadau cam 4, gan gynnwys crynodeb hawdd ei ddarllen yma.

Project logo showing a map of wales

Pam y cynhaliwyd yr astudiaeth hon?

Arweiniodd coronafeirws at newidiadau i bob un ohonom. Nid oedd yn hawdd byw gyda rheolau cymdeithasol newydd a newidiadau yn ein bywydau o ddydd i ddydd bob amser. Sut newidiwyd bywydau pobl ag anableddau dysgu a sut roedden nhw’n teimlo am hyn? Roeddem am gael gwybod gan bobl ac yna rhannu’r hyn a gawsom gyda llunwyr polisi, gwasanaethau a phobl eu hunain yn rheolaidd yn ystod y flwyddyn.

Pwy gynhaliodd yr astudiaeth yng Nghymru?

Yng Nghymru cynhaliodd ymchwilwyr o Brifysgol De Cymru a Phrifysgol Caerdydd yr astudiaeth gyda chymorth gan  Anabledd Dysgu Cymru, Fforwm Rhieni a Gofalwyr Cymru Gyfan a Phobl yn Gyntaf Cymru Gyfan.

  • Cyfwelodd yr ymchwilwyr â dros 350 o bobl ag anabledd dysgu yng Nghymru.
  • Ni allai rhai oedolion ag anableddau dysgu siarad ag ymchwilwyr felly buont yn siarad â bron i 200 o ofalwyr teuluol neu staff cymorth cyflogedig a allai ddweud wrth ymchwilwyr beth sydd wedi digwydd i’r bobl hynny hefyd
  • Bu’r ymchwilwyr yn cyfweld â phobl 3 gwaith yn ystod y flwyddyn. Er enghraifft, ar-lein, wyneb yn wyneb (rhithwir) neu dros y ffôn.
  • Roedd y cwestiynau’n ymwneud â’u llesiant, iechyd, bywyd cymdeithasol, eu gwasanaethau, y materion sy’n eu poeni a sut roedd coronafeirws yn effeithio ar eu bywydau.

Rhagor o wybodaeth

Gwybodaeth Hawdd eu Ddeall i gyfranogwyr (Saesneg)

Darllenwch y daflen friffio hawdd ei deall ar yr astudiaeth i’w gweld yma

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am yr astudiaeth ledled y DU ar y wefan (Saesneg)

Fideo gan Ffion, Cadeirydd Pobl yn Gyntaf Caerffili

Fideo gan Sophie, Cyd-Gadeirydd y Grwp Cyngori Gweinidogol Anabledd Dysgu

Fideo gan Gerraint, Llysgennad Arweiniol Engage to Change

Yr hyn rydyn ni wedi ei ganfod yn rhan gynta’r astudiaeth rhwng Medi 2020 a Mawrth 2021

I gael gwybod mwy am yr astudiaeth cysylltwch â:

Prifysgol De Cymru Yr Athro Stuart Todd stuart.todd@southwales.ac.uk ac Edward Oloidi edward.oloidi@southwales.ac.uk

Prifysgol Caerdydd Yr Athro Stephen Beyer beyer@cardiff.ac.uk

Anabledd Dysgu Cymru Sam Williams 029 20681160 neu e-bostio samantha.williams@ldw.org.uk

Fforwm Rhieni a Gofalwyr Cymru Gyfan Ffôn: 02920 811120 neu 07976 223992 neu e-bostio Josh Law: josh@allwalelesforum.org.uk neu Gwen Anslow gwen@allwalesforum.org.uk

Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan. Tracey Drew: tracey@allwalespeople1st.co.uk Ffôn: 07956 082211