Anabledd Dysgu Cymru
41 Cilgant Lambourne
Parc Busnes Caerdydd
Llanisien
Caerdydd
CF14 5GG
029 20681160
enquiries@ldw.org.uk
Mae cadw mewn cysylltiad gyda chi yn bwysig inni oherwydd mae hynny yn ein galluogi i roi gwybod i chi am yr hyn rydyn ni’n ei wneud ac mae’n ein galluogi i weithio gyda’n gilydd er mwyn inni allu gwneud gwahaniaeth i fywydau plant, pobl ifanc ac oedolion gydag anabledd dysgu a’u teuluoedd a’u gofalwyr yng Nghymru.
Rydyn ni’n gwybod bod gwybodaeth bersonol yn bwysig i chi.
Rydyn ni’n gofalu am eich gwybodaeth fel y byddem eisiau i’n gwybodaeth bersonol ni gael ei gadw ac rydyn ni’n wneud hyn mewn ffordd sydd yn gyfreithlon.
Os ydych eisiau gwybod pa wybodaeth rydyn ni’n ei gadw amdanoch chi, holwch ni. Ffoniwch ni ar 029 20681160 neu e-bostiwch enquiries@ldw.org.uk
Dywedwch wrthyn ni os ydy’r wybodaeth rydyn nin ei gadw amdanoch chi yn anghywir ac fe fyddwn yn ei gywiro a gallwch hefyd roi gwybod inni sut yr hoffech chi inni ei ddefnyddio. Fe fyddwn bob amser yn dileu gwybodaeth amdanoch chi os ydych chi’n gofyn inni wneud hynny.
Os ydych chi ar ein rhestrau dosbarthu gallwch ofyn inni beidio â chysylltu gyda chi ar unrhyw amser. Gofynnwch ac fe fyddwn ni’n stopio. Ffoniwch ni ar 029 20681160 neu e-bostiwch enquiries@ldw.org.uk
Pan fyddwch yn archebu lle ar un o’n cyrsiau hyfforddi neu ddigwyddiadau fe fyddwn yn cadw eich manylion er mwyn inni allu prosesu eich archeb.
Fe fyddwn yn cadw unrhyw, neu’r cyfan o’r wybodaeth ganlynol y byddwch yn ei roi:
Rydyn ni’n defnyddio gwasanaeth o’r enw MailChimp y gallwn ei ddefnyddio i anfon e-bost atoch chi. Mae MailChimp yn cydymffurfio gyda’r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol; ni fyddan nhw byth yn anfon e-bost atoch chi nac yn trosglwyddo eich manylion ymlaen i unrhyw un arall.
Yn y dyfodol, efallai y byddwn yn newid y gwasanaeth e-bostio rydyn ni’n ei ddefnyddio. Os felly fe fyddwn yn sicrhau ei fod yn ddarparydd gwasanaeth diogel sydd yn cydymffurfio gyda’r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol.
Yn aml rydyn ni’n defnyddio hwylusydd o gorff arall neu unigolion sydd wedi cael contract i hwyluso ein hyfforddiant neu ddigwyddiadau. Fe fyddwn yn trosglwyddo eich enw, teitl swydd a chyflogwr iddyn nhw er mwyn iddyn nhw allu rhedeg y cwrs/digwyddiad yn iawn. Fe fyddwn yn gwneud hyn ar ôl iddyn nhw lofnodi Datganiad Diogelu Data sydd yn gwneud yn siwr eu bod yn trafod eich gwybodaeth yn unol â’r polisi yma ac yn dinistrio’r wybodaeth yn ddiogel ar ôl y cwrs/digwyddiad.
Ni fyddwn ni byth yn gwerthu nac yn trosglwyddo eich gwybodaeth bersonol i unrhyw gorff neu berson arall.
Mae’n ofynnol inni ddal manylion eich archeb er mwyn cydymffurfio gyda’r rheoliadau archwilio ariannol. Fe fyddwn yn cadw’r rhain cyn hired ag sydd angen yn unig ac yna fe fyddan nhw’n cael eu dinistrio yn ddiogel.
Mae gan Anabledd Dysgu Cymru restrau dosbarthu gwahanol:
Pan fyddwch yn ymuno gydag un o’n rhestrau dosbarthu, fe fyddwn yn cadw unrhyw, neu’r holl wybodaeth ganlynol rydych yn ei ddarparu:
Fe fyddwn yn defnyddio’r wybodaeth yma i anfon e-bost atoch chi gyda’r wybodaeth rydych chi wedi gofyn amdano (neu yn achlysurol ar y ffon).
Weithiau fe fyddwn yn anfon gwybodaeth atoch gan gyrff eraill allai fod o ddiddordeb i chi. Dydyn ni ddim yn gwneud hyn yn aml iawn ac os byddwch yn cael digon ar dderbyn ein negeseuon e-bost, gofynnwch inni stopio.
Rydyn ni’n defnyddio gwasanaeth o’r enw MailChimp y gallwn ei ddefnyddio i anfon e-bost atoch chi. Mae MailChimp yn cydymffurfio gyda’r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol; ni fyddan nhw byth yn anfon e-bost atoch chi nac yn trosglwyddo eich manylion ymlaen i unrhyw un arall.
Yn y dyfodol, efallai y byddwn yn newid y gwasanaeth e-bostio rydyn ni’n ei ddefnyddio. Os felly fe fyddwn yn sicrhau ei fod yn ddarparydd gwasanaeth diogel sydd yn cydymffurfio gyda’r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol.
Ni fyddwn byth yn gwerthu nac yn trosglwyddo eich gwybodaeth berosnol i unrhyw gorff na pherson arall.
Gallwch newid eich meddwl a stopio derbyn yr wybodaeth yma ar unrhyw adeg.
I dynnu eich manyion oddi ar unrhyw un o’n rhestrau dosbarthu ffoniwch ni ar 029 20681160, e-bost enquiries@ldw.org.uk,neu dilynwch y ddolen ar waelod unrhyw un o’n negeseuon e-bost.
Rydyn ni’n hoffi cadw mewn cysylltiad gyda chi drwy Twitter a Facebook.
Mae ein cyfrifon Twitter a Facebook ar agor i unryw un ymuno, felly mae unrhyw un ar Twitter neu Facebook yn gallu gweld os ydych chi yn ein dilyn a sut rydych chi’n rhyngweithio gyda ni.
I amddiffyn pwy sydd yn gweld eich gwybodaeth, dylech fynd i’r gosodiadau diogelwch ar eich cyfrifon Facebook a Twitter i osod pwy sydd yn gallu gweld beth rydych chi’n ei wneud.
Os ydych yn poeni am eich preifatrwydd ar y cyfryngau cymdeithasol cliciwch yma.
Ni fyddwn ni byth yn gwneud ein rhestrau ein hunain o bwy sydd yn ein dilyn ar Facebook neu Twitter nac yn eu trosglwyddo i unrhyw un arall.
Anabledd Dysgu Cymru
41 Cilgant Lambourne
Parc Busnes Caerdydd
Llanisien
Caerdydd
CF14 5GG
029 20681160
enquiries@ldw.org.uk