Mae comisiwn gofal a sefydlwyd gan Plaid Cymru wedi argymell y dylai’r holl ofal cymdeithasol yng Nghymru fod am ddim lle mae ei angen. Mae barn yn cael ei gasglu ar hyn o bryd ar y cynllun newydd mentrus yma, ac mae’n debygol y bydd Plaid Cymru yn mabwysiadu’r cynigion cyn etholiadau nesaf y Cynulliad yn 2021.
Mae ein Swyddog Polisi, Grace Krause, yn edrych ar y cynigion a sut y maen nhw’n debygol o fod o fudd i bobl gydag anabledd dysgu yng Nghymru.
Argymhelliad canolog yr adroddiad, ‘Datblygu gweledigaeth ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru’, ydy y dylai mynediad i ofal cymdeithasol yng Nghymru fod am ddim lle mae ei angen, fel ag y mae gyda gofal iechyd. Mae’r Comisiwn Gofal yn datgan “Gan fod 80% o gost cyfredol gofal cymdeithasol yn dod o gyllid cyhoeddus, ein hargymhelliad cyntaf ydy y dylai gofal cymdeithasol fod am ddim lle mae ei angen fel ag y mae Iechyd.” Gan restru cost gofal cymdeithasol yn y cartref a phreswyl i oedolion yng Nghymru fel “tua £247m y flwyddyn,” mae’r adroddiad yn datgan bod “cost gofal cymdeithasol am ddim yn fforddiadwy ond mae angen ewyllys gwleidyddol i wneud iddo ddigwydd.”
Mae’r adroddiad yn dilyn ymarferiad ymgynghori blwyddyn o hyd lle y derbyniodd Comisiwn Gofal Plaid Cymru dystiolaeth gan y sector statudol, y Trydydd Sector a chyrff yn cynrychioli cleifion a phobl sydd yn defnyddio gwasanaethau. Pwysleisiodd cyflwynwyr a chyflwyniadau yr anghydbwysedd rhwng staff Iechyd a Gofal Cymdeithasol o ran cyflogau ac o ran telerau ac amodau a hefyd o ran y parch tuag at y ddau wasanaeth.
Yn y cyflwyniad i’r adroddiad, mae Comisiwn Gofal Plaid Cymru yn datgan “o’i gymharu â’r parch y mae pobl yn ei deimlo tuag at y GIG, dydy nifer o bobl ddim yn deall nac yn gwerthfawrogi beth ydy gofal cymdeithasol a’r cyfraniad holl bwysig y mae’n ei wneud i gymdeithas. Mae gofal cymdeithasol yn gyfartal o ran gwerth i iechyd ac mae gweithwyr gofal cymdeithasol yn haeddu’r un parch a thriniaeth ag yr ydym yn eu rhoi i weithwyr iechyd. Mae gweithwyr gofal cymdeithasol yn wynebu’r un risgiau o gam-drin geiriol a chorfforol â staff GIG.”
Mae’r adroddiad yn pwysleisio “os ydy gofal cymdeithasol yn methu, fe fydd y GIG yn methu.”
Crynodeb o argymhellion
Mae’r adroddiad yn nodi nifer o argymhellion:
- Pob Gofal Cymdeithasol i’w gyflwyno am ddim ar y pwynt lle mae ei angen.
- Ymrwymiad i ofal sy’n canoli ar yr unigolyn wrth gynllunio a chyflwyno’r gwasanaeth.
- Datblygu ymyriad cynnar a gwasanaethau ataliol.
- Cyfnod trosiannol wedi ei gynllunio, wedi ei gostio ac yn seiledig ar dystiolaeth, i gyllido gwasanaethau aciwt ac ataliol ar yr un pryd.
- Cydraddoldeb tâl a thelerau ac amodau rhwng staff gofal cymdeithasol a staff iechyd.
- Talu am ofal cymdeithasol drwy drethiant cyffredinol, gyda phwyslais ar fuddsoddi mewn ymyrraeth gynnar a gwasanaethau ataliol.
- Sefydlu’r costau sydd eu hangen ac i fuddsoddi yn y dechnoleg angenrheidiol i weithredu agwedd gydlynus a chydweithredol dros Gymru gyfan.
- Dwyn i mewn y Trydydd Sector a darparwyr eraill fel partneriaid yng nghyfnod cynllunio a chomisiynu cyflwyno gwasanaethau a bod yn rhydd i arloesi ar yr un pryd.
- Datblygu gweithlu dwyieithog i ddarparu gwasanaeth gofal cymdeithasol cyfan gwbl ddwyieithog.
- Creu Gwasanaeth Iechyd a Gofal Cenedlaethol, wedi’i reoli yn genedlaethol gan Fwrdd Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cenedlaethol.
Beth sydd yn dda am y cynnig?
Mae Anabledd Dysgu Cymru yn croesawu’r cynnig polisi yma. Rydym yn gwybod oddi wrth ein haelodau bod pobl gydag anabledd dysgu yn aml yn cael trafferth i gael mynediad i ofal cymdeithasol a hyd yn oed gwybod pa gefnogaeth mae ganddyn nhw hawl i’w dderbyn. Fe fyddai cael system gofal cymdeithasol sydd yn haws i’w lywio ac un lle mae pobl gydag anabledd dysgu yn gallu derbyn gofal da lle a phan maen nhw ei angen yn welliant mawr. Rydym hefyd yn gwybod bod nifer o ddarparwyr gofal yn cael trafferth i gadw gweithwyr cefnogi a gofalwyr sydd yn cefnogi pobl gydag anabledd dysgu. Y prif reswm dros hynny ydy’r amodau gwaith a chyflogau isel yn y meysydd yma.
Mae’r adroddiad yn cynnig y dylai fod gan bobl sydd yn gweithio yn y maes gofal cymdeithasol well amodau gwaith a chyflogau. Fe fyddai gwella amodau gwaith y rhai sydd yn cefnogi pobl gydag anabledd dysgu yn eu galluogi i ddarparu gwell gofal. Fe fyddai hefyd yn golygu bod gofalwyr a gweithwyr cefnogi yn fwy tebygol o aros yn hirach mewn un swydd gan olygu eu bod yn gallu adeiladu perthynas well gyda’r bobl y maen nhw’n gweithio gyda nhw.
Beth allai fod yn well?
Un peth sydd ar goll inni yn y cynnig polisi yma ydy ymrwymiad i roi mwy o reolaeth i bobl gydag anabledd dysgu a phobl eraill sydd yn derbyn gofal cymdeithasol. Mae’r adroddiad yn gofyn am ofal wedi’i ganoli ar y person, sydd yn gweld yr unigolyn yn eu cyd-destun cymdeithasol. Mae hyn yn gychwyn ardderchog, ond mae’n bwysig bod gofal cymdeithasol yn galluogi pobl i gael cymaint o annibyniaeth ag y maen nhw eisiau. Yn yr un modd, mae’r adroddiad yn cynnig y dylid cynnwys cyrff Trydydd Sector (fel Anabledd Dysgu Cymru) a darparwyr eraill wrth gynllunio a chomisiynu gwasanaethau. Dylid ymgynghori yn uniongyrchol hefyd gyda’r bobl sydd yn defnyddio’r gwasanaethau. Mae’n eithriadol o bwysig y dylai fod gan bobl gydag anabledd dysgu eu hunain lais i ddweud sut y dylai system gofal cymdeithasol edrych .
Gallwch weld rhagor am yr adroddiad yn adran Comisiwn Gofal Cymdeithasol ar wefan Plaid Cymru.
Grace Krause
Swyddog Polisi, Anabledd Dysgu Cymru
Dilynwch fi ar Twitter @Grace_LDW.