Mae Anabledd Dysgu Cymru’n chwilio am bobl i gymryd rhan mewn astudiaeth newydd bwysig ar sut mae’r coronafeirws yn effeithio ar fywydau pobl gydag anabledd dysgu yng Nghymru.
Rydyn ni’n rhan o astudiaeth ymchwil ledled-y-DU, a ariennir gan UK Research and Innovation, sydd yn dechrau yng nghanol mis Tachwedd.
Ar hyn o bryd, rydyn ni’n chwilio am bobl a fyddai diddordeb gyda nhw mewn cymryd rhan i arwyddo ein ffurflen mynegi diddordeb os gwelwch yn dda.
Pam mae’r astudiaeth hon yn cael ei chyflawni?
Mae coronafeirws wedi arwain at newidiadau i bob un ohonom. Nid yw rheolau cymdeithasol newydd a newidiadau yn ein bywydau o ddydd i ddydd bob amser yn hawdd byw gyda nhw. Sut mae bywydau pobl ag anableddau dysgu wedi cael eu newid a sut maen nhw’n teimlo am hyn? Rydym am gael gwybod gan bobl ac yna rydym am rannu’r hyn rydyn ni’n ei ganfod gyda llunwyr polisi, gwasanaethau a phobl eu hunain yn rheolaidd yn ystod y flwyddyn.
Pwy ydyn ni am iddyn nhw gymryd rhan yn yr astudiaeth?
Hoffem glywed gennych chi os:
- ydych chi’n berson ag anabledd dysgu
- ydych chi’n rhiant neu’n ofalwr di-dâl i berson ag anabledd dysgu
- ydych chi’n weithiwr cymorth â thâl sy’n cefnogi person ag anabledd dysgu neu
- rydych chi’n gweithio i sefydliad sy’n adnabod pobl a allai fod eisiau rhannu eu straeon.
Pwy sy’n gwneud yr astudiaeth hon yng Nghymru?
Yng Nghymru bydd ymchwilwyr o Brifysgol De Cymru a Phrifysgol Caerdydd yn cynnal yr astudiaeth gyda chymorth Anabledd Dysgu Cymru, Fforwm Rhieni a Gofalwyr Cymru Gyfan a Phobl yn Gyntaf Cymru Gyfan.
Beth fydd cymryd rhan yn ei olygu?
- Mae’r ymchwilwyr am gyfweld â 200 o bobl ag anabledd dysgu yng Nghymru.
- Efallai na fydd rhai oedolion ag anableddau dysgu yn gallu siarad ag, mae ymchwilwyr am siarad â 100 o ofalwyr teuluol neu staff cymorth cyflogedig a allai ddweud wrth ymchwilwyr am yr hyn sydd wedi digwydd i’r bobl hynny hefyd
- Bydd yr ymchwilwyr yn cyfweld pobl 3 gwaith yn ystod y flwyddyn. Gweithredir cyfweliad yr arolwg i ateb gofynion y person. Er enghraifft, ar-lein, wyneb yn wyneb (rhith) neu ar y ffôn.
- Bydd cwestiynau’n ymwneud â’u lles, eu hiechyd, eu bywyd cymdeithasol, eu gwasanaethau, y materion sy’n peri pryder iddynt a sut mae coronafeirws wedi effeithio ar eu bywydau.
Cofrestrwch eich diddordeb os gwelwch yn dda
Os oes gennych ddiddordeb neu os ydych yn fodlon ein helpu i ddod o hyd i bobl i gymryd rhan, cofrestrwch drwy lenwi’r Ffurflen Mynegi Diddordeb fer yma
Drwy roi eich manylion cyswllt i ni, rydych chi ond yn dweud bod gennych ddiddordeb mewn darganfod mwy am yr astudiaeth ymchwil. Nid yw’n golygu eich bod yn cytuno i gymryd rhan ynddo.
Byddwn yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi yn nes ymlaen er mwyn i chi allu penderfynu p’un a ydych am gymryd rhan. Ni fyddwn yn defnyddio eich manylion cyswllt am unrhyw reswm arall.
Rhagor o wybodaeth
Darllenwch y daflen friffio hawdd ei deall ar yr astudiaeth i’w gweld yma
I gael gwybod mwy am yr astudiaeth cysylltwch â:
Prifysgol De Cymru Yr Athro Stuart Todd stuart.todd@southwales.ac.uk ac Edward Oloidi edward.oloidi@southwales.ac.uk
Prifysgol Caerdydd Yr Athro Stephen Beyer beyer@cardiff.ac.uk
Anabledd Dysgu Cymru Karen Warner: 029 20681160 neu e-bostio karen.warner@ldw.org.uk
Fforwm Rhieni a Gofalwyr Cymru Gyfan Ffôn: 02920 811120 neu 07976 223992 neu e-bostio Josh Law: josh@allwalelesforum.org.uk neu Gwen Anslow gwen@allwalesforum.org.uk
Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan. Tracey Drew. tracey@allwalespeople1st.co.uk. Ffôn 07956 082211.