Mae Stay Up Late wedi lansio ymgyrch newydd sy’n tynnu sylw at sut mae rotas staff cyfyngol yn atal pobl ag anabledd dysgu rhag mwynhau nosweithiau allan a chael rheolaeth dros eu bywydau cymdeithasol – a dangos sut y gall timau staff newid hyn trwy gynllunio rotas hyblyg. Roedd Kai Jones, cydlynydd prosiect gyda’n prosiect Ffrindiau Gigiau, yn gig lansio’r ymgyrch yn Brighton, ac mae’n egluro pam mae’r mater hwn yn ganolog i alluogi pobl ag anabledd dysgu i gael rheolaeth lawn dros eu bywydau.
Ni ddylai unrhyw un byth ddweud wrthych beth yw eich amser gwely – dim ond chi sy’n cael penderfynu! Chi sydd i benderfynu p’un a ydych chi’n aros i fyny’n hwyr, neu’n mynd adref yn gynnar – eich dewis chi yw hynny!
Ond yn llawer rhy aml mae oedolion ag anabledd dysgu sy’n byw mewn tai â chymorth yn cael eu gorfodi i adael noson allan yn gynnar – neu beidio â mynd o gwbl! – oherwydd bod eu gweithiwr cymorth yn gorffen eu shifft reit yng nghanol y digwyddiad.
Mae ymgyrch newydd #DimAmseroeddGwely (#NoBedtimes) Stay Up Late yn codi ymwybyddiaeth o’r arfer hwn sy’n atal pobl rhag mwynhau bywyd cymdeithasol llawn.
Maen nhw wedi gweithio gyda’r darparwr cymorth Grace Eyre i greu taflen gyngor sy’n helpu timau cymorth i gynllunio ‘rota staff Dim Amser Gwely’ – mae’r daflen gymorth yn dangos sut mae’n bosibl i ysgrifennu rotas staff sy’n well i staff cymorth, yn ogystal â galluogi pobl ag anableddau dysgu i arwain bywydau gwych.
Mae ‘Wyth cam i ddyfeisio rota Dim Amseroedd Gwely’ (PDF) yn rhan o becyn yr ymgyrch Dim Amseroedd Gwely – gallwch gael un o’r rhain drwy gysylltu â Darren, Cydlynydd Ymgyrchoedd yn Stay Up Late: e-bost darren@stayuplate.org, ffôn 01273 418102.
Gallwch hefyd lawrlwytho’r wybodaeth ddigidol, gan gynnwys y daflen wybodaeth ‘Wyth cam i ddyfeisio rota Dim Amseroedd Gwely’ a thaflen hawdd ei deall am yr ymgyrch Dim Amseroedd Gwely, ar wefan Stay Up Late.
PJs yn newid fy mywyd
Lansiwyd yr ymgyrch Dim Amseroedd Gwely yn swyddogol mewn gig codi arian Stay Up Late yn Brighton ym mis Tachwedd, lle cyrhaeddodd pawb yn eu pyjamas a mwynhau’r parti tan hwyr yn y nos. Roeddwn yn ddigon ffodus i fod yn y gig gan i Stay Up Late wneud yn siŵr ei fod yn cael ei gynnal yn dilyn cyfarfod blynyddol partneriaid ein prosiect Ffrindiau Gigiau – lle mae prosiectau Ffrindiau Gigiau o gyn belled i ffwrdd â’r Alban, Cymru, Lloegr ac Awstralia yn dod at ei gilydd i gyfnewid syniadau a chynlluniau.
Roedd y gig yn anhygoel – setiau gwych gan ffefrynnau cerddoriaeth BBC 6 Italia 90, Asbo Derek, a dau fand anabledd dysgu gwych, 2 Decks, a The Golgis. Ond y peth gorau o bell ffordd am y noson oedd gweld cefnogwyr cerddoriaeth ag anabledd dysgu yn meddiannu gofod mewn lleoliad prif ffrwd, y Komedia, yn dawnsio i lawr y ffrynt yn eu PJs (syniad gwych i bwysleisio neges Dim Amseroedd Gwely!) a chymysgu gyda chefnogwyr Italia 90, oedd wedi troi i fyny i weld y prif fand, ac mae’n debyg nad oedd ganddynt unrhyw wybodaeth flaenorol o’r mater y tu ôl i’r digwyddiad.
Nid oedd hwn yn gig ar wahân wedi’i drefnu ar gyfer pobl ag anabledd dysgu mewn neuadd gymunedol yn rhywle yng nghanol nunlle, gyda chyrffyw 9pm neu 10pm i ganiatáu i staff orffen eu shifftiau. Roedd hwn yn gig cynhwysol a hygyrch a oedd ar agor i bawb yn un o ardaloedd prysuraf canol dinas Brighton, gan orffen am hanner nos.
Pobl parti 24awr
Yn ystod cyfarfod partneriaid y prosiect, cefais lawer o syniadau a straeon gwych o’r prosiectau Ffrindiau Gigiau eraill. Fy ffefryn o bell ffordd yw’r Fringe Marathon 24 awr wedi’i drefnu gan Ffrindiau Gigiau yr Alban dros yr haf, lle treuliodd Ffrindiau Gigiau 24 awr yn gwylio sioeau yng Ngŵyl y Fringe, Caeredin. Fe wnaethon nhw gyfarfod am frecwast ar fore Sadwrn am 8am, gwylio sioeau trwy gydol y dydd a’r nos, a gorffen am 5am – roedd y Ffrindiau Gigiau yn mynd ac yn dod trwy gydol y dydd a’r nos, ond roedd pawb a arhosodd tan y diwedd hefyd wedi dechrau’r digwyddiad am 8am.
Wrth gwrs, aeth llawer o waith cynllunio i mewn i’r digwyddiad. Ond, fel y dywedodd Sam Maggs o Ffrindiau Gigiau yr Alban wrthyn ni, rhan bwysig o’r cynllunio hwn oedd sicrhau bod pawb a oedd yn bresennol yn cael y rhyddid ar y diwrnod i fwynhau eu hunain a chael rheolaeth lwyr – nid bod yn ddiogel yn ystod y digwyddiad yn unig, sy’n tueddu i fod yn bryder canolog gyda’r rhai sy’n pryderu am risg yn ein plith.
Ei wneud eich hun
Ychydig wythnosau ar ôl gig lansio Dim Amseroedd Gwely aeth ein Ffrindiau Gigiau i gig a gynhaliwyd gan Cardiff People First, fel rhan o’n digwyddiad cymdeithasol ym mis Tachwedd. Roedd y gig yn y Moon Club, ar Womanby Street, yng nghanol ardal cerddoriaeth Caerdydd, ac yn ffefryn gan Ffrindiau Gigiau a Cardiff People First.
Roedd aelodau o Cardiff People First wedi gwneud popeth eu hunain i gynnal y gig – o drefnu’r lleoliad a’r band (band anhygoel o Gaerdydd The Oh Peas!, sy’n disgrifio’u hunain fel “pop-trist DIY”), a hyrwyddo’r noson, i fod yn DJs yn ystod y gig a thynnu peintiau wrth y bar hyd yn oed. Roedd y sioe yn llawn pobl o Ffrindiau Gigiau a Cardiff People First, ond hefyd cefnogwyr The Oh Peas! a chefnogwyr cerddoriaeth eraill a oedd wedi cerdded i mewn oddi ar y stryd.
Yn ystod y gig fe wnaeth fy nharo pa mor bell rydyn ni wedi dod yng Nghymru. Rydym yn edrych ar Stay Up Late a’u gwaith fel arweinwyr mewn newid cadarnhaol a blaengar, gan ddylanwadu ar agweddau ac ymgyrchu dros bobl ag anabledd dysgu i fyw bywydau llawn ac egnïol. Ond dyma gig cwbl gynhwysol, hygyrch, wedi’i werthu allan mewn lleoliad prif ffrwd yng nghanol Caerdydd, gan orffen wedi 11pm (ac yna noson glwb reggae a ddaeth i ben am 2am), gyda band poblogaidd sydd wedi chwarae gwyliau ar draws y DU – y cyfan wedi’i drefnu gan bobl ag anabledd dysgu.
Galluogi diwylliant Dim Amseroedd Gwely
Mae Zarah, Simon (sy’n llysgennad ar gyfer Stay Up Late), Janice, Shan, Annaliese, Dawn, George, a phawb arall o Cardiff People First oedd yn rhan o’r noson wych hon – ac mae sôn y bydd yn dod yn ddigwyddiad rheolaidd – yn dangos pam fod yr ymgyrch Dim Amseroedd Gwely mor hanfodol i fywydau pobl. Mae Cardiff People First wedi darparu diwylliant ers amser sy’n rhoi dewis a rheolaeth wrth wraidd bywydau pobl, wrth hyfforddi ac addysgu’r sector anabledd dysgu am hyn.
Fe wnaeth diwylliant Dim Amseroedd Gwely yn Cardiff People First helpu i arwain at eu gig llwyddiannus yn y Moon Club – pobl ag anabledd dysgu yn creu noson o ddiwylliant a gafodd ei mwynhau gan bawb. Dychmygwch beth y gallai Dim Amseroedd Gwely ei wneud i chi?
Kai Jones
Cydlynydd y Prosiect, Ffrindiau Gigiau / Gig Buddies