Mae gan gyrff Ambarel Anabledd Cenedlaethol bryderon difrifol am oblygiadau’r Mesur Coronafeirws ar hawliau dynol, yn enwedig hawliau grwpiau penodol, yn cynnwys pobl anabl.
Cynhaliwyd ail ddarlleniad y Mesur ar ddydd Llun 23 Mawrth yn Senedd y DU. Caiff Cynnig Cymhwysedd Deddfwriaethol ar y Mesur Coronafeirws ei drafod yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru heddiw ar ddydd Mawrth 24 Mawrth.
Rydym yn croesawu diwygiad Llywodraeth y DU i sicrhau bod y Mesur Coronafeirws yn mynd i gael ei adnewyddu bob 6 mis, o dderbyn natur ysgubol y pwerau. Er hynny, rydym yn parhau’n bryderus bod y Mesur yn atal darpariaethau allweddol Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 oni bai bod angen gwasanaethau i ddiogelu oedolyn rhag camdriniaeth neu esgeulustod neu berygl o gamdriniaeth neu esgeulustod. Yn wahanol i atal dyletswyddau’r Ddeddf Gofal (2014) yn Lloegr, nid oes unrhyw ofyniad penodol i osgoi torri’r Gynhadledd Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn gynwysiedig.
Rydym yn galw ar y Cynulliad i weithredu i amddiffyn bywydau’r miloedd lawer o bobl anabl drwy sicrhau nad oes unrhyw wasanaethau yn cael eu tynnu’n ôl heb gynnal asesiad i ddilysu a fyddai hawliau dynol yn cael eu torri ai peidio.
Credwn bod y Mesur Coronafeirws yn cyflwyno perygl real a gwirioneddol i fywydau pobl anabl. Fe fydd i bob pwrpas yn mynd yn ôl 30 mlynedd o ran cynnydd i bobl anabl. Mae’n dod hefyd ar ôl blynyddoedd o dangyllido cronig yn y maes gofal cymdeithasol sydd wedi esgor ar system gofal cymdeithasol sydd eisoes ar fin torri. Fe fydd y Mesur yn:
- Cael gwared ar hawliau pobl anabl i ofal cymdeithasol
- Newid y dyletswyddau i addysgu i ateb gofynion addysgol plant i ddyletswydd ‘ ymdrechion rhesymol’
- Tanseilio rhyddid sifil pobl anabl yn ddifrifiol ac erydu eu hawliau i gefnogaeth.
Rydym yn deall bod hwn yn sefyllfa eithriadol o heriol a digynsail, ond o dderbyn y system gofal cymdeithasol sydd eisoes wedi torri, fe fydd y Mesur yma bron yn annorfod yn gadael miloedd lawer o bobl anabl heb y gefnogaeth hanfodol ac heb unrhyw hawliau i ofyn am y gefnogaeth yma. Dydy symud ein hawliau yn ôl ddim yn dda i neb ac yn yr amgylchiadau cyfredol fe fydd yn rhoi nifer o fywydau mewn perygl.
Yn hytrach na chael gwared ar hawl pobl anabl i dderbyn cefnogaeth gofal cymdeithasol rhaid i’r llywodraeth drin ein gwasanaeth gofal cymdeithasol hanfodol fel seilwaith allweddol ochr yn ochr gyda’r GIG, ac felly rhaid i’r llywodraeth ddarparu’r cyllid angenrheidiol ar unwaith i gadw’r gwasanaeth hanfodol yma i redeg .
Mae manylion am ein dealltwriaeth ynghylch goblygiadau cymdeithasol negyddol y Mesur Coronafeirws ar fywydau pobl anabl a’u teuluoedd ar gael isod. Paratowyd yr wybodaeth yma gan fargyfreithwyr sydd yn arbenigo mewn cyfraith cyhoeddus a hawliau anabledd.
Goblygiadau’r Mesur I Bobl Anabl
Beth mae’n olygu i oedolion anabl?
Mae Atodlen 11 o’r Mesur [tudalennau 111 – 122] i bob pwrpas yn atal/israddio bron pob dyletswydd gofal cymdeithasol oedolion (yn cynnwys dyletswyddau codi tâl). Fel yr esbonia’r Nodiadau Esboniadol (ym mharagraff 175) mae’r amrywiol ddyletswyddau i asesu ac ateb anghenion cymwys oedolion a gofalwyr yn y Ddeddf Gofal 2014 ac oedolion, pobl ifanc a gofalwyr yn y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn cael eu hisraddio i bwerau.
Fe fydd dyletswydd i ateb anghenion yn codi yn Lloegr dim ond os y byddai methu darparu gofal ac/neu gefnogaeth yn ‘doriad i hawliau dynol unigolyn’. Yng Nghymru, mae dyletswydd yn codi dim ond lle y byddai methu gwneud hynny yn golygu y gallai’r unigolyn fod yn profi neu mewn perygl o gamdriniaeth neu esgeulustod.
Addysg
Mae Atodlen 16 o’r Mesur [tudalennau 158 – 181] yn rhoi pwerau i’r Ysgrifennydd Gwladol/Gweinidogion Cymru i gyhoeddi cyfarwyddiadau i atal darpariaeth ysgol a dyletswyddau presenoldeb ac mae’n israddio dyletswyddau cyfraith addysg awdurdodau lleol (yn cynnwys y rhai’n berthynol i ddarpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol) i rwymedigaethau ‘i ddefnyddio ymdrechion rhesymol i gyflawni’r’ dyletswydd .
Cadw Iechyd Meddwl
Mae Atodlen 7 Rhan 2 paragraff 3 o’r Mesur [tudalen 90] yn darparu bod cais gan weithiwr proffesiynol iechyd meddwl o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 adrannau 2 neu 3 yn gallu cael ei seilio yn unig ar argymhelliad un ymarferydd meddygol cofrestredig .
Ffynonellau gwybodaeth
www.disabilityrightsuk.org/news/2020/march/suspension-care-act-act-immediately
https://www.11kbw.com/knowledge-events/news/the-coronavirus-bill-schedule-11
www.lukeclements.co.uk/the-coronavirus-bill-social-care-sen
Am ragor o wybodaeth ac ymholiadau’r cyfryngau, cysylltwch os gwelwch yn dda gyda Rhian Davies, Prif Weithredwraig, Anabledd Cymru, E-bost rhian.davies@disabilitywales.org, ffôn 029 2088 7325
.