Tystebau gan sefydliadau sydd wedi defnyddio ein cyfleusterau.
Tai Wales and West – ‘Mae gallu defnyddio’r ystafelloedd cyfarfod yn LDW wedi bod yn amhrisiadwy i ni ar ôl y pandemig ar ddiwrnodau prysurach yn ein swyddfa ein hunain pan mae’n anoddach dod o hyd i le. Mae defnyddio lleoliad lleol yn golygu y gallwn fod wrth law i helpu ein hunain ac mae’n golygu nad oes rhaid i’n staff deithio ymhellach – mae parcio tu allan yn fonws! Mae Iwan a’r tîm yn broffesiynol, yn ddibynadwy ac ar gael bob amser i helpu. Rydym wedi gwerthfawrogi’n fawr gallu cael mynediad i ystafelloedd cyfarfod ymlaen llaw er mwyn sefydlu. Mae’r ystafelloedd bob amser yn hollol lân, mae’r gofod yn groesawgar ac mae’r cyfleusterau’n berffaith ar gyfer ein hanghenion. Mae gallu sicrhau mwy nag un ystafell, gwahanol offer a lluniaeth fesul archeb yn fanteisiol iawn ac yn rhoi gwerth gwirioneddol am arian i ni.’