Mae Anabledd Dysgu Cymru yn dymuno penodi tri unigolyn i ymuno â’r tîm: Cydlynydd Cymorth Gweinyddol, Cydlynydd Rhwydweithiau a Digwyddiadau, a Chydlynydd Gwirfoddolwyr Ffrindiau Gigiau Gogledd Cymru.
Rydym eisiau i Gymru fod y wlad orau i bobl gydag anabledd dysgu i fyw, dysgu a gweithio ynddi.
Rydym yn sefydliad sy’n ymdrechu i sicrhau bod ein diwylliant, polisïau ac ymarfer yn adlewyrchu ein bod yn parhau i weithio tuag at fod yn gyflogwr modern, teg, cyfartal a chynhwysol. Rydym yn awyddus i glywed gan bobl a allai brofi gwahaniaethu wrth geisio am swyddi. Rydym wedi ymrwymo i dyfu a chefnogi gweithlu amrywiol.
Cewch wybodaeth am weithio i Anabledd Dysgu Cymru yma (PDF)
Gobeithio y bydd gennych ddiddordeb mewn ymuno â’n tîm cyfeillgar, cefnogol ac angerddol.
Cydlynydd Cymorth Gweinyddol
Oriau: 30 awr yr wythnos (hyblyg)
Cyflog: £23,948 pro-rata yn codi drwy gynyddiadau blynyddol i £26,315 + Pensiwn
Lleoliad: Rydym yn cynnig model hybrid o weithio gartref a yn ein swyddfa yn Llanisien, Caerdydd.
Ydych chi’n greadigol ac yn dda am ddod o hyd i atebion? Yna gall ein rôl Cydlynydd Cymorth Gweinyddol newydd fod yn iawn i chi. Bydd y rôl hon yn darparu cefnogaeth weinyddol lefel uchel i’r tîm ac yn arwain ar ddatblygu systemau a phrosesau parhaus i wella’r ffordd rydym yn gweithio.
Am fwy o fanylion gweler isod:
- Disgrifiad Swydd Cydlynydd Gweinyddol (PDF)
- Manyleb Person Cydlyynydd Gweinyddol (PDF)
- Gweithio i Anabledd Dysgu Cymru (PDF)
- Ffurflen Fonitro Cyfleoedd Cyfartal (PDF)
Cydlynydd Rhwydweithiau a Digwyddiadau
Oriau: 20 awr yr wythnos (hyblyg)
Cyflog: £23,948 pro-rata yn codi drwy gynyddiadau blynyddol i £26,315 + Pensiwn
Lleoliad: Rydym yn cynnig model hybrid o weithio gartref ac yn einwyddfa yn Llanisien, Caerdydd
Ydych chi’n allblyg ac yn drefnus? Rydym yn chwilio am rhywun sy’n gallu meithrin perthynas â sefydliadau eraill, cynllunio, hyrwyddo a helpu i gynnal ein digwyddiadau a’n gweithgarwch rhwydweithio.
Am fwy o fanylion gweler isod:
- Disgrifiad Swydd Cydlynydd Digwyddiadau a Rhwydweithiau (PDF)
- Manyleb Person Cydlynydd Digwyddiadau a Rhwydweithiau (PDF)
- Gweithio i Anabledd Dysgu Cymru (PDF)
- Ffurflen Fonitro Cyfleoedd Cyfartal (PDF)
Cydlynydd Gwirfoddolwyr Ffrindiau Gigiau Gogledd Cymru
Oriau: 25 awr yr wythnos (hyblyg)
Cyflog: £23,948 pro-rata yn codi drwy gynyddiadau blynyddol i £26,315 + Pensiwn
Lleoliad: O’ch cartref yng Ngogledd Cymru.
Rydym yn chwilio am rhywun sy’n gyfeillgar, yn bositif, yn drefnus, yn hunan-gymhellol, gyda llawer o egni, creadigrwydd a brwdfrydedd i ymuno â’n tîm Ffrindiau Gigiau ymroddedig ac angerddol. Bydd y rôl yn recriwtio, hyfforddi a chefnogi ein gwirfoddolwyr ochr yn ochr â meithrin perthynas â sefydliadau yng ngogledd Cymru.
Mae’r swydd hon yn cael ei hariannu tan fis Medi 2024.
Am fwy o fanylion gweler isod:
- Disgrifiad Swydd Cydlynydd Gwirfoddol Ffrindiau Gigiau Gogledd Cymru (PDF)
- Manyleb Person Cydlynydd Gwirfoddol Ffrindiau Gigiau Gogledd Cymru (PDF)
- Gweithio i Anabledd Dysgu Cymru (PDF)
- Ffurflen Fonitro Cyfleoedd Cyfartal (PDF)
Sut i wneud cais
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais, anfonwch eich CV atom a llythyr eglurhaol yn dweud wrthym pam mai chi yw’r person gorau ar gyfer y rôl, neu gallwch ddweud hyn wrthym ar glip fideo. Os ydych chi eisiau cymorth i wneud hyn neu os oes angen ffordd wahanol o wneud cais, yna cysylltwch â ni ar enquiries@ldw.org.uk neu ffoniwch ni ar 029 20681160.
Ein hoff ddull o wneud cais yw drwy e-bost ond gallwch bostio’ch manylion atom yn Anabledd Dysgu Cymru, 41 Lambourne Crescent, Llanisien, Caerdydd CF14 5GG.
Dyddiad cau: Dydd Mawrth 14 Chwefror 2023