Rydym yn awyddus i recriwtio Cydlynydd Cymorth Prosiect newydd ar gyfer ein prosiect cyfeillio Ffrindiau Gigiau Cymru.2 men and a woman posing with inflateable guitairs under a baloon arch

Mae Ffrindiau Gigiau Cymru yn brosiect cyfeillgarwch arloesol sy’n paru pobl ag anabledd dysgu ac/neu awtistiaeth gyda gwirfoddolwr sy’n rhannu’r un diddordebau, fel y gallant fwynhau gweithgareddau cymdeithasol gyda’i gilydd.

Rydym yn chwilio am berson cadarnhaol, trefnus, creadigol a brwdfrydig i gefnogi’r tîm trwy ddarparu cymorth gweinyddol, gan gynnwys prosesu cyfranogwyr a cheisiadau gwirfoddolwyr, a threfnu digwyddiadau cymdeithasol a hyfforddiant gwirfoddolwyr.

Byddwch hefyd yn cyfathrebu gwaith y prosiect trwy gyfrwng cyfathrebu hawdd ei ddeall a chlipiau fideo sy’n parhau i hyrwyddo’r gymuned gynhwysol anhygoel hon o bobl sy’n hoffi hwyl a chyfeillgarwch, gan weld pob aelod o Ffrindiau Gigiau fel yr unigolyn gwych y maen nhw.

Os hoffech weithio mewn tîm angerddol a brwdfrydig a’ch bod wedi ymrwymo i’n helpu i fynd i’r afael â’r anghydraddoldebau y mae pobl ag anabledd dysgu yn eu hwynebu, efallai mai dyma’r swydd i chi.

Gydlynydd Cymorth Prosiect

Oriau a lleoliad:  17.5 awr yr wythnos y gellir eu gweithio’n hyblyg dros yr wythnos.  Gallwch fod yn gweithio yn ein swyddfa yn Llanisien, Caerdydd a gallwch hefyd weithio rhai o’ch oriau o’ch cartref. Fodd bynnag, os na allwch deithio i’r swyddfa, gallwch fod yn weithiwr cartref.

Hyd: Mae’r swydd yma wedi ei chyllido tan 31 Mawrth 2025 tra’n chwilio am gyllid pellach

Cyflog: Cyflog blynyddol gwirioneddol o £12,250 yn codi drwy gynyddiadau blynyddol i £13,460 yn seiliedig ar 17.5 awr yr wythnos (cyfwerth ag amser llawn £25,900 yn codi i £28,460).

Am fwy o fanylion gweler isod:

Yr hyn y gallwch ei ddisgwyl gennym ni

  • Cynllun pensiwn gyda chyfraniad cyflogwr o 7.5%
  • 25 diwrnod o wyliau blynyddol yn codi i 28 diwrnod ynghyd â gwyliau banc
  • Tâl salwch
  • Egwyl Dibynyddion â thâl ac amser i ffwrdd ar gyfer apwyntiadau meddygol
  • Rhaglen Cymorth i Weithwyr i chi a’ch teulu
  • Brechiadau ffliw am ddim a phrofion llygaid
  • Swyddfa eang fodern
  • Cysylltiadau trafnidiaeth cyhoeddus ardderchog
  • Parcio am ddim
  • Raciau beic
  • Yn agos at siopau ac amwynderau

Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn hynod bwysig i ni, ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu yng ngwerthoedd ein tîm. Mae’r ffordd rydym yn gweithio yn deg, yn gynhwysol ac yn hyblyg ac mae ein tîm yn cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi. Gobeithiwn y bydd gennych ddiddordeb mewn ymuno â’n tîm cyfeillgar, ffyddlon ac angerddol. Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gennych os ydych wedi profi gwahaniaethu wrth ymgeisio am swyddi gan ein bod wedi ymrwymo i gynyddu a chefnogi gweithlu amrywiol.

Darganfyddwch fwy am weithio i Anabledd Dysgu Cymru yma

Sut i wneud cais

Anfonwch eich CV atom a llythyr eglurhaol neu glip fideo yn dweud wrthym pam mae gennych ddiddordeb yn y rôl a sut rydych chi’n cwrdd â phob rhan o’r fanyleb person.

Os ydych chi eisiau help neu angen ffordd wahanol o wneud cais, anfonwch e-bost atom yn enquiries@ldw.org.uk neu ffoniwch ni ar 029 20681160. Byddwn yn cynnig cyfweliad i bobl anabl neu bobl sy’n profi hiliaeth os ydych yn bodloni’r meini prawf gofynnol ar gyfer y swydd.  Os ydych chi’n teimlo eich bod chi’n bodloni’r categori hwn, rhowch wybod i ni (heb roi unrhyw fanylion) pan fyddwch chi’n gwneud cais.  Ni fydd y wybodaeth hon yn cael ei rhoi i’r panel hyd nes y bydd y rhestr fer wedi ei chreu.

Os yw’n bosibl, e-bostiwch eich cais i enquiries@ldw.org.uk.. Os na allwch ei anfon drwy e-bost, gallwch ei bostio atom yn: Anabledd Dysgu Cymru, 41 Lambourne Crescent, Parc Busnes Caerdydd, Llanisien, Caerdydd CF14 5GG.

Dyddiad cau

Dydd Llun12 Awst 2024

Dyddiad cyfweliad

Dydd Mawrth 20 Awst 2024