Rydym ni’n chwilio am 4 ymddiriedolwr newydd i ymuno â’n Bwrdd Ymddiriedolwyr cyfeillgar a gweithgar.
Gyda’n gilydd rydym ni’n gweithio i wneud Cymru’r wlad orau yn y byd i bobl ag anabledd dysgu fyw, dysgu a gweithio ynddi. Yna gallai hwn fod yn gyfle cyffrous i chi fod yn rhan o Anabledd Dysgu Cymru.
Mae gennym ni swyddi gwag i gynrychiolwyr o’r mathau canlynol o sefydliadau:
- gofalwr teulu
- hunan-eiriolaeth
- darparwr cymorth i oedolion
- cyflogaeth â chefnogaeth.
Byddem wrth ein boddau’n clywed gennych chi os ydych chi:
- Yn berson ag anabledd dysgu
neu
- O grŵp nad yw wedi’i gynrychioli’n ddigonol gan gynnwys menywod a lleiafrifoedd ethnig.
Os ydych chi’n berson sydd ag anabledd dysgu ac yn meddwl efallai y bydd angen cefnogaeth arnoch chi i fod yn ymddiriedolwr, gallwn helpu. Byddwn yn sicrhau eich bod chi’n cael cefnogaeth i baratoi ar gyfer cyfarfodydd er mwyn i chi allu cymryd rhan yn llawn.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am fod yn ymddiriedolwr yn ein taflen wybodaeth ymddiriedolwyr hawdd ei deall ac am ein gwaith yn ein Cynllun Strategol
I wneud cais, llenwch y ffurflen gais isod:
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau:
1 Tachwedd 2022
Bydd etholiadau i ddewis ymddiriedolwyr newydd yn cael eu cynnal yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar 14 Tachwedd 2022.
Os ydych chi angen help neu fwy o wybodaeth, ffoniwch Joanne Moore ar 029 20681160 neu e-bostiwch joanne.moore@ldw.org.uk.