Mae cychwyn ar y rhaglen hon wedi rhoi cyfle i ni adolygu ein polisïau a’n harferion presennol, eu meincnodi yn erbyn yr arfer gorau a thri lefel Chwarae Teg o Ddatblygu, Cyflawni ac Arwain yn ogystal â chael barnau cyflogeion.
Dywedodd Joanne Moore, Rheolwr Adnoddau Dynol a Llywodraethiant, “Mae Anabledd Dysgu Cymru yn falch bod diwylliant, polisïau ac arferion ein sefydliad yn adlewyrchu ein bod ni’n parhau i weithio tuag at fod yn gyflogwr teg, cyfle cyfartal a chynhwysol.”
Dywedodd Gemma Littlejohns, Uwch-bartner cyflenwi – Busnes, “Nid yw ein hasesiad o’r wobr yn asesu a yw’r arferion gwaith tu fewn i’r sefydliad yn gynhwysol yn unig, ond yn bwysig rydyn n’n ceisio adborth oddi wrth gyflogeion trwy arolwg dienw. Mae Anabledd Dysgu Cymru wedi dangos bod ganddyn nhw yr arferion gwaith a diwylliant y gweithle sy’n cefnogi cynhwysiant rhywedd.”