Yn ein briffio polisi newydd amlinellwn ni yr hyn rydyn ni’n ei gredu a sut gallwch chi helpu i gefnogi ein cenhadaeth. Hefyd, rydyn ni wedi cyflwyno rhai ystadegau allweddol am fywydau pobl gydag anabledd dysgu yng Nghymru.
Beth rydyn ni’n ei gredu a sut gallwch chi helpu
Mae Anabledd Dysgu Cymru yn elusen genedlaethol sydd yn cynrychioli’r sector anabledd dysgu yng Nghymru. Mae popeth a wnawn yn canolbwyntio ar greu Cymru sydd yn gwerthfawrogi ac yn cynnwys pob plentyn, person ifanc ac oedolyn gydag anabledd dysgu.
Rydyn ni’n gwneud hyn drwy weithio gyda phobl ag anabledd dysgu a’u teuluoedd, Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, cyrff pobl anabl a’r sector gwirfoddol er mwyn inni allu creu Cymru well i’r hall bobl gydag anabledd dysgu.
Ein Gwerthoedd
Rydym yn credu bod gennych fel plentyn, person ifanc neu oedolyn gydag anabledd dysgu yr howl i:
- Cael eich gwerthfawrogi a’ch parchu
- Cael bywyd ystyrlon
- Gallu dysgu, datblygu a chael mynediad i addysg a hyfforddiant ystyrlon drwy gydol oes
- Cael eich gweld, eich clywed, eich cynnwys a chael llais
- Bod mewn rheolaeth o’ch bywyd
- Cael cyfeillgarwch, perthnasoedd a bywyd cymdeithasol
- Gwaith
- Bod yn ddinesydd sydd yn cyfrannu.
Yr hyn rydyn ni’n ei wybod am bobl ag anabledd dysgu yng Nghymru
- Mae tua 15,000 o oedolion ag anabledd dysgu yn hysbys i’r gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru ac o leiaf 60,000 o bobl era ill ag anabledd dysgu nod ydyn nhw’n hysbys i’r gwasanaethau cymdeithasol. Mae hynny tua 2.5 y cant o’r boblogaeth
- Mae pobl ag anabledd dysgu yn byw yn hirach nag erioed.
- Mae dros 100,000 o blant yng Nghymru sydd ag angen dysgu ychwanegol. Mae gan lower o’r plant hynny anabledd dysgu. Mae bron i 5,000 o ddisgyblion mewn ysgolion arbennig yng Nghymru.
- Mae pobl ag anabledd dysgu yn dal i wynebu stigma sylweddol mewn cymdeithas.
- Mae gormod o bobl ag anabledd dysgu yng Nghymru yn treulio gormod o amser mewn ysbytai ac yn cael meddyginiaeth sy’n newid hwyliau or bresgripsiwn yn rhy aml.
- Mae traean o deuluoedd yng Nghymru sydd a phlentyn anabl yn byw mewn tlodi.
- Dim ond 6 y canto bobl ag anabledd dysgu yn y DU sydd mewn cyflogaeth.
- Mae 56 y canto bobl ag anabledd dysgu yn y DU wedi profi gelyniaeth, ymddygiad ymosodol neu drais gan ddieithryn oherwydd eu hanabledd dysgu.
- Mae merched anabl yng Nghymru ddwywaith yn fwy tebygol o ddioddef cam-drin domestig na’u cyfoedion anabl.
- Mae plant ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael eu gwahardd o’r ysgol yn rhy aml
- Mae 1 o bob 3 o bobl ag anabledd dysgu yn treulio llai nag awry tu allan i’w cartrefi or ddydd Sadwrn.
- Dim ond 3 y canto oedolion ag anabledd dysgu yn y DU sy’n byw fel rhan o gwpl o’i gymharu a 70 y canto weddill y boblogaeth.
Rydyn ni’n gofyn i chi wneud y canlynol::
- Creu cymdeithas sy’n cynnwys, yn gwerthfawrogi ac yn parchu pobl ag anabledd dysgu.
- Creu system addysg gynhwysol ar gyfer plant ac oedolion sydd ag anabledd dysgu a heb anabledd dysgu.
- Cau’r bwlch cyflogaeth anabledd dysgu.
- Cyd-gynhyrchu deddfau, polisïau ac arferion gyda phobl ag anabledd dysgu a rhoi rheolaeth wirioneddol i bobl anabl mewn perthynas a materion sy’n effeithio arnyn nhw.
- Sicrhau bod gan bobl ag anabledd dysgu reolaeth ar eu bywydau eu hunain.
Am fwy o wybodaeth am ein gwaith polisi ewch i’n tudalen polisi (Saesneg) neu gysylltwch â’n Swyddog Polisi Grace Krause. E-bost grace.krause@ldw.org.uk neu ffoniwch 029 2068 1160.
Ffynonellau a ddefnyddiwyd yn y briffio polisi:
- Contact (2018): Counting The Cost – Research into the finances of more than 2,700 families across the UK in 2018 (opens as PDF)
- Mencap (2016): First in-depth research on public attitudes towards learning disability for 30 years’ reveals confusion, support yet small group of negative attitudes
- Mencap (2019): New research from Mencap shows bullying of people with a learning disability leading to social isolation
- NHS Digital (2018): Measures from the Adult Social Care Outcomes Framework, England, 2018-19
- Safe Lives (2017): Disabled Survivors Too: Disabled people and domestic abuse
- Shane Mills, Martyn French and Adrian Clarke (2020): Improving Care, Improving Lives -Chief Nursing Officer’s National Care Review of Learning Disabilities Hospital Inpatient Provision Managed or Commissioned by NHS Wales
- Welsh Government (2018): Learning Disability – Improving Lives Program