Image shows a young woman in a white and black striped hooded top pointing at herself - with labels all around her saying learning disability?, learning difficulty?, additional learning needs?, learning difference?, and some words scrubbed out so you can't see them anymoreMae Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan wedi cytuno i barhau i ddefnyddio’r term ‘pobl ag anableddau dysgu’. Maent wedi ysgrifennu’r erthygl yma sy’n ysgogi’r meddwl am pam ei bod yn bwysig bod pobl ag anableddau dysgu yn dewis eu labeli eu hunain.

Ysgrifennwyd yr erthygl gan Tracey Drew, Cynghorydd Ymgysylltu Aelodaeth, ac mae wedi ei chynnwys yn rhifyn Gwanwyn 2023 o gylchgrawn Talkback Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan (PDF).

Rydyn ni wedi gwahodd Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan i gyhoeddi’r erthygl bwysig hon ar ein gwefan, tra bod ein Prif Swyddog Gweithredol Zoe Richards yn egluro pam mae Anabledd Dysgu Cymru yn cefnogi penderfyniad aelodau Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan.


 

“Ers peth amser bu trafodaeth ynghylch y label Anabledd Dysgu. Rydyn ni yn cydnabod nad yw’n gorwedd yn daclus o fewn y model cymdeithasol o anabledd. Ar adegau, rydyn ni wedi cael ein herio gan eraill ar ein barn a’n defnydd o’r label anabledd dysgu. Dydyn ni ddim yn sefydliad sy’n cael ein harwain gan berson anabl ac felly mae’n bwysig ein bod yn cymryd ein harweiniad gan Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan ar y mater pwysig iawn hwn.

“O’r erthygl isod gallwch weld y gwaith, y meddwl a’r pwyslais sy’n cael ei roi ar ddeall ac archwilio’r mater, ac mae Anabledd Dysgu Cymru yn credu ei bod hi’n bwysig bod pobl ag anabledd dysgu yn arwain y ffordd ar sut maen nhw’n adnabod eu hunain, a bod Anabledd Dysgu Cymru yn mabwysiadu ac yn cefnogi hynny.

“Mae’n wych rhannu’r erthygl hon a ysgrifennwyd gan Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan ar ddechrau’r wythnos Anabledd Dysgu.”

Zoe Richards, Prif Swyddog Gweithredol, Anabledd Dysgu Cymru


brown label tags

Labeli – drwg angenrheidiol neu faner sy’n grymuso?

Bob ychydig flynyddoedd, mae Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan yn gofyn i aelodau pa derm y dylem ei ddefnyddio i ddisgrifio’r hyn sydd gan bob aelod o PGCG yn gyffredin. Yn ôl yn 2018, pan ofynnon ni ddiwethaf, dewisodd aelodau gadw’r label Pobl gydag Anawsterau Dysgu.

Eleni fe ofynnon ni i Gynrychiolwyr y Cyngor Cenedlaethol pa derm yr hoffent ei ddefnyddio o hyn ymlaen.

Cyn i gynrychiolwyr bleidleisio ar y penderfyniad, siaradodd y Cynghorydd Ymgysylltu ag Aelodau, Tracey Drew, gyda’r Cynrychiolwyr am yr anawsterau o ran defnyddio’r term hwn.

diverse group of people, all standing, one is sitting on a chair

Mae Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan yn credu bod pob person yn profi ei nam neu ei gyflwr yn ei ffordd ei hun. Gallai achosi poen i chi, neu rwystredigaeth neu anhawster wrth wneud pethau ar eich pen eich hun ond mae’r ffordd rydych chi’n profi’r pethau hyn yn unigryw i chi.  Er enghraifft, efallai y bydd gan 2 berson Syndrom Down ond bydd y ffordd maen nhw’n ei brofi yn wahanol.

Nid eich nam neu’ch cyflwr ydy’r hyn sy’n eich anablu.

woman in a wheelchair in front of a ramp with a graphic showing an easy read document

Mae Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan yn credu mai’r ffordd mae pobl yn cael eu trin neu’r ffordd y mae cymdeithas yn sefydlu pethau sy’n analluogi pobl. Gelwir hyn yn fodel cymdeithasol o anabledd.

Er enghraifft, efallai y byddwch yn ei chael hi’n anodd darllen oherwydd y ffordd y mae eich ymennydd yn prosesu gwybodaeth. Os mai bwydlen ysgrifenedig yn unig sydd gan gaffi, cewch eich anablu gan y caffi. Os oes gan y caffi fwydlen gyda lluniau, nid ydych yn anabl gan y caffi.

Enghraifft arall. Rydych chi’n defnyddio cadair olwyn ac mae angen gweithiwr cymorth arnoch i’ch helpu i ddefnyddio toiled. Yn y ganolfan siopa, dim ond toiledau dynion neu ferched sy’n rhy fach i 2 o bobl sydd ar gael. Pe bai Changing Places yn y ganolfan siopa, ni fyddech yn cael eich anablu gan y ganolfan siopa.

graphic showing lots of words, words is centre and highlighted, behind it are hello, stop, day, person

Gellir gweld y model cymdeithasol o anabledd hefyd yn y ffordd y defnyddir geiriau.

Pan fyddwn yn siarad am gael anabledd, mae pobl yn clywed mai chi biau’r anabledd ac i chi ddelio ag ef. Nid iaith model cymdeithasol yw hyn oherwydd nid y nam neu’r cyflwr sy’n eich anablu, ond y ffordd y mae pobl yn eich trin.

young person sitting on a chair

Anabledd yw’r ffordd rydych chi’n cael eich anablu gan eraill – nid sut mae eich nam neu’ch cyflwr yn effeithio arnoch chi.

woman in a wheelchair in front of steps

Pan fyddwn yn sôn am gymdeithas yn anablu pobl, mae’n golygu y gall cymdeithas wneud rhywbeth am y peth. Iaith model cymdeithasol yw hyn.

Nid yw hynny’n golygu, pe bai cymdeithas yn newid popeth i fod yn hygyrch, na fyddai gennych y cyflwr na’r nam mwyach, fe fydd gennych chi. OND, ni fyddech chi’n profi’r holl rwystrau sy’n ei gwneud hi’n anoddach i chi.

graphic showing lots of different words

Efallai nad yw’r gwahaniaeth mewn geiriau yn ymddangos mor fawr i chi ond mae pobl anabl wedi brwydro ers amser maith i gael yr iaith o gwmpas anabledd i newid i fod yn fwy model cymdeithasol.

Nid yw’r mudiad pobl anabl ehangach yn hoffi’r term pobl ag anableddau dysgu. Maen nhw’n gweld y term fel iaith sydd ddim yn iaith model cymdeithasol.

friends, including one young man in a wheelchair

Mae’r term anabledd dysgu yn cymysgu eich nam gyda sut rydych chi’n profi cymdeithas yn eich anablu. Mae’r term yn golygu eich bod yn anabl oherwydd yr anhawster sydd gennych chi i ddysgu pethau. Nid eich bai chi yw nad yw cymdeithas yn eich dysgu mewn ffordd sy’n gweithio i chi.

people at a meeting

Bu aelodau’r Cyngor Cenedlaethol yn siarad ers amser maith am y gwahaniaethau hyn mewn geiriau a sut maent yn profi eu namau.

Buont yn siarad a ydynt am gael eu gweld fel person yn gyntaf a’i nam yn ail neu a yw’n bwysig uniaethu â balchder fel rhan o gymuned. Cytunodd y rhan fwyaf o Gynrychiolwyr ei bod yn bwysig cael eu hystyried yn berson yn gyntaf. Mae yna ormod o enghreifftiau lle nad ydyn nhw’n cael eu hystyried neu yn cael eu hanwybyddu.

people in a meeting

Gofynnodd cynrychiolwyr gwestiynau am y gwahanol eiriau a meddwl am sawl term arall y gellid eu defnyddio yn lle pobl ag anableddau dysgu.

young man talking

Dyma rai o’r pethau mae Cynrychiolwyr yn ei ddweud:

“Rydw i eisiau rhywbeth sy’n gwneud i mi deimlo fel person normal.” – Harry

“Rydw i’n awtistig. Rydw i hefyd yn ystyried bod gen i anableddau dysgu. Mae angen label arnom i helpu pobl i wybod pwy ydyn ni.” – Bethan

“Mae pobl yn ein barnu ni waeth pa label rydyn ni’n ei ddefnyddio” “Mae angen i ni gael ein gwerthfawrogi.”  – Sammy

woman unhappy, behind her is a symbol of a crying emoji

Soniodd y Cynrychiolwyr hefyd am sut mae iaith yn newid. Rhai o’r termau a ganfuwyd fwyaf niweidiol oedd termau a ddefnyddiwyd yn y gorffennol, fel ‘oedran meddwl’.

O’r diwedd, penderfynodd y Cynrychiolwyr ar 4 term a phleidleisio arnyn nhw.

Y 4 term oedd:

  • Anghenion Dysgu Ychwanegol
  • Pobl ag anableddau dysgu
  • Gwahaniaeth dysgu
  • Anhawster dysgu

people in a meeting voting

Ar ôl pleidlais agos iawn rhwng gwahaniaeth dysgu ac anabledd dysgu, dewisodd y Cynrychiolwyr i barhau i ddefnyddio pobl ag anableddau dysgu.

Enillodd y syniad o golli label y mae pawb yn ei adnabod ac yn ei gwneud hi’n bosibl adnabod eich anghenion wrth ofyn am wasanaethau iechyd neu ofal cymdeithasol y tro hwn. Roedd cynrychiolwyr yn deall nad yw’r term yn cyd-fynd â’r model cymdeithasol o anabledd ond roeddent hefyd yn cydnabod pwysigrwydd dewis eich labeli eich hun.

people in front of a whiteboard

Bydd Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan yn parhau i ddefnyddio’r term Pobl ag Anableddau Dysgu nes i’r aelodau benderfynu ar derm gwahanol.

Tracey Drew – Membership Engagement Advisor, All Wales People First