Rydym yn falch iawn o groesawu Julie Sangani i dîm Anabledd Dysgu Cymru. Fe wnaethom ofyn i Julie ddweud wrthym amdani hi ei hun a’i rôl newydd fel Rheolwraog Datblygu Busnes.
Fel Rheolwraig Datblygu Busnes yn Anabledd Dysgu Cymru, rwyf wedi ymrwymo i gynyddu lleisiau pobl ag anableddau dysgu ledled Cymru. Mae fy nghyfrifoldebau yn cynnwys ymchwilio, datblygu a sicrhau cyllid newydd i gefnogi’r sefydliad a’i brosiectau. Rwy’n eiriol dros gydraddoldeb, yn creu polisïau a phartneriaethau cynhwysol, ac yn gyrru mentrau sy’n cael eu gyrru gan y gymuned.
Drwy gydweithio ag awdurdodau lleol, rhanddeiliaid a sefydliadau, rwy’n gweithio i wella cyfleoedd i bobl ag anableddau dysgu, gan sicrhau eu bod yn gallu byw, dysgu, caru a gweithio mewn amgylchedd cefnogol. Fy nod yw sicrhau mai Cymru yw’r lle gorau i bobl ag anableddau dysgu fyw, dysgu, cariu a gweithio ynddi.
Rwy’n weithiwr proffesiynol brwdfrydig a hunanysgogol sy’n ymroddedig i rymuso pobl ifanc, yn enwedig o gymunedau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, i ddatblygu sgiliau arwain a rheoli.
Ar hyn o bryd rwy’n gwasanaethu fel Aelod Cabinet yng Nghyngor Dinas Caerdydd, gyda phortffolio sy’n cwmpasu Iechyd y Cyhoedd, Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Cheiswyr Lloches, tra hefyd yn cynrychioli ardal y Mynydd Bychan a Birchgrove fel cynghorydd lleol. Yn ogystal, rwyf wedi cael fy mhenodi’n aelod Annibynnol o Gyngor Celfyddydau Cymru gan Lywodraeth Cymru.
Mae fy ymrwymiad yn ymestyn i eiriol dros bobl ag anableddau dysgu, gan anelu at wneud Cymru’n arweinydd byd-eang wrth gynnig cyfleoedd iddynt fyw, dysgu a gweithio. Fel sylfaenydd Cymdeithas Menywod Indiaidd Cymru, rwy’n cefnogi menywod sy’n wynebu rhwystrau diwylliannol ac yn darparu llwyfannau ar gyfer codi ymwybyddiaeth ar faterion fel trais domestig.
Trwy fy rolau amrywiol, gan gynnwys partneriaethau gyda sefydliadau fel Ynddiriedolaeth y Tywysog, rwy’n ymdrechu i bontio bylchau ac ehangu lleisiau grwpiau ymylol ledled Cymru.
Rwy’n fenyw Gymreigu-Indiaidd draddodiadol sy’n chwarae rôl gwraig a mam gariadus i ddau o blant ifanc. Rwyf am barhau i ymgysylltu â’r byd a chredu bod gen i le ynddo, gyda syniadau i’w cynnig. Mae fy ffocws ar hunanddatblygiad menywod a mynd ar drywydd hapusrwydd trwy reoli gwaith, teulu, ac ymgysylltu â’r gymuned. Mae fy nau blentyn yn chwarae i glwb criced y sir, ac mae fy ngŵr yn fentor gwych iddyn nhw. Rwyf wrth fy modd yn cymdeithasu ac yn ymweld â gwahanol leoedd. Rwyf hefyd yn mwynhau canu, er nad yw fy ffrindiau byth yn gadael i mi ganu unrhyw ganeuon Bollywood achos fedra i ddim cofio’r geiriau, sy’n arwain at alawon a geiriau gwahanol!!