Rydyn ni wrth ein bodd yn croesawu Emma Scott Davies i dîm Anabledd Dysgu Cymru. Gwnaethon ni ofyn i Emma ddweud wrthon ni amdani hi ei hun, a’i rôl fel Cydlynydd Cymorth Prosiect i Ffrindiau Gig Cymru.
Ymunais i â thîm Ffrindiau Gig Cymru ym mis Hydref fel Cydlynydd Cymorth Prosiect, gan weithio ochr yn ochr â Karen, Kai, Siân, John, Kylie a Danielle. Fy rôl i yw cefnogi gweddill y tîm gyda phopeth sy’n gysylltiedig â Ffrindiau Gig – prosesu ceisiadau cyfranogwyr a gwirfoddolwyr newydd, cynnal gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), hyrwyddo’r prosiect, helpu i drefnu digwyddiadau a digwyddiadau cymdeithasol, a chadw golwg ar sut a beth mae’r prosiect yn ei wneud er mwyn inni allu dweud wrth ein cyllidwyr.
Yn fy rôl flaenorol, roeddwn i’n gweithio yn y GIG yn gwneud gwaith gweinyddol, ond cyn hyn, rydw i bob amser wedi gweithio gyda phobl ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth – fel gweithiwr cymorth ac yna fel eiriolwr ers blynyddoedd lawer. Mae’n wych bod yn ôl yn gweithio yn y sector hwn eto ac fel rhan o brosiect mor wych sy’n dod â llawenydd i fywydau pobl ac yn eu galluogi i gael y math o brofiadau y mae’r rhan fwyaf ohonon ni’n eu cymryd yn ganiataol.
Dw i’n dwlu ar fod yn rhan o Dîm Ffrindiau Gig ac Anabledd Dysgu Cymru – mae pawb wedi bod mor gyfeillgar a barod eu cymwynas yn barod.
Dw i’n briod ac mae gen i dri o blant ifanc sy’n fy nghadw’n brysur iawn pan nad ydw i yn y gwaith! Pan fydda i’n cael ychydig o amser sbâr, dw i wrth fy modd yn darllen, chwarae gemau bwrdd, a chwrdd â fy ffrindiau – yn enwedig os yw hynny’n cynnwys pryd o fwyd neis, a mynd i lan y môr!
Dw i’n caru cerddoriaeth ac yn mynd i gigiau pan dw i’n gallu. Fy hoff fathau o gerddoriaeth yw pop-pync, gwerin a phop. Popeth o Blink 182 i Taylor Swift! Dw i hefyd yn hoff iawn o ddawns dda, er nad ydw i’n cael llawer o siawns ar hyn o bryd – weithiau disgo cegin yw’r gorau y galla i ei wneud!