Rydyn ni’n falch iawn o groesawu Beth Rees i dîm Anabledd Dysgu Cymru. Gwnaethon ni ofyn i Beth ddweud wrthon ni amdani hi ei hun a’u rôl newydd fel ein Swyddog Polisi a Chyfathrebu.
Rwy’n llawn cyffro fy mod i wedi ymuno ag Anabledd Dysgu Cymru fel y Swyddog Polisi a Chyfathrebu newydd, gan weithio ochr yn ochr â Sam a Kai yn y tîm Cyfathrebu.
Fy rôl i yw helpu i gyfleu barn y sefydliad ar bolisi anabledd dysgu. Mae hyn yn cynnwys cwrdd â’n haelodau, ein cefnogwyr a phobl yn sector, ysgrifennu erthyglau a chyfrannu at ymgynghoriadau’r llywodraeth.
Rwy’ wedi bod yn ymwneud â gwaith cyfathrebu a pholisi yn y sector elusennol am y 10 mlynedd diwethaf, ond yn fwy diweddar, bues i’n gweithio fel Uwch Ymgynghorydd Iechyd a Lles i gwmni TG byd-eang. Cefnogais i gannoedd o weithwyr gyda’u hiechyd a’u lles a chynhaliais i weithdai am anabledd, niwroamrywiaeth ac iechyd meddwl. Trwy’r rôl hon, cynorthwyais i weithwyr i gael mynediad at addasiadau rhesymol os oedden nhw’n profi unrhyw rwystrau neu heriau yn y gwaith. Fel Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl ardystiedig, roeddwn i hefyd yn aelod o’r rhwydweithiau niwroamrywiaeth ac anabledd mewnol, gan weithredu fel eiriolwr dros newid.
Fel rhywun sydd wedi cael diagnosis hwyr o awtistiaeth ac ADHD, rwy’ wedi bod yn cyflwyno, siarad ac ysgrifennu am y pwnc hwn ers blynyddoedd lawer. Ym mis Rhagfyr 2024, ar ôl astudio’n rhan-amser, graddiais i gyda gradd meistr mewn ysgrifennu creadigol lle’r oeddwn i’n bennaf am anghydraddoldeb rhywedd a niwroamrywiaeth.
Y tu allan i’r gwaith, rwy’n mwynhau rhedeg (os oes coffi a chacen wedyn) a gwisgo dyngarîs, ac rwy’n cynnal clwb llyfrau misol. Rwy’n briod ac yn ‘fam i gi’, sef Maisey y Westie (sy’n hoff o ymddangos ar alwadau Teams).
Rwy’n teimlo’n freintiedig iawn o fod yn rhan o dîm Anabledd Dysgu Cymru ac rwy’n ysu am gael cwrdd â phawb a gweithio ochr yn ochr â nhw!