Mae Anabledd Dysgu Cymru yn falch bod Innovate Trust wedi dewis ein prosiect Ffrindiau Gigiau Cymru fel eu helusen Nadolig ar gyfer 2021.
Mae Ffrindiau Gigiau Cymru yn mynd i’r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol drwy baru unigolion sydd ag anabledd dysgu a/neu awtistiaeth gydag unigolion heb anabledd dysgu fel y gallant fynychu digwyddiadau a gigiau gyda’i gilydd. Ers lansio’r prosiect arloesol yng Nghaerdydd yn 2018, mae Anabledd Dysgu Cymru bellach wedi ehangu Ffrindiau Gigiau i hanner yr awdurdodau lleol yng Nghymru.
Dywedodd Rheolwr Arloesedd Anabledd Dysgu Cymru, Karen Warner: “Hoffwn ddiolch i Innovate Trust am eu rhodd hael o £5,000 i helpu â’n gwaith Ffrindiau gigiau, a fydd yn helpu i gefnogi rhagor o gyfeillgarwch Ffrindiau Gigiau. Mae Ffrindiau Gigiau Cymru’n gweithio’n agos ag Innovate Trust, ac mae’r Ap Insight wedi bod yn achubiaeth i bobl allu cymdeithasu a chymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau yn ystod y pandemig. Mae rhai o’n Ffrindiau Gigiau a Llysgenhadon Stay Up Late yng Nghymru yn fentoriaid cyfoed ar Insight, ac rydym wedi mwynhau cynnal partïon a chwisiau ar y cyd ar yr ap.”
Dywedodd Nick French, Prif Weithredwr Innovate Trust: “Mae Innovate Trust yn falch iawn o Gefnogi Ffrindiau Gigiau. Mae cymaint o bobl yn elwa o’u gwaith eisoes ac yn siarad am eu profiadau’n galonogol. Maent yn haeddu cefnogaeth i gynnal ac ehangu’r gwasanaeth amhrisiadwy a chreadigol hwn.”
Yn ystod y 3 blynedd a hanner ers i Anabledd Dysgu Cymru sefydlu’r prosiect yng Nghymru, mae Ffrindiau Gigiau wedi mynychu ystod eang o ddigwyddiadau gyda’i gilydd, gan gynnwys cyngherddau, gwyliau, sioeau cerdd, comedi, gemau chwaraeon a pharciau thema, ac wedi ymweld ag amgueddfeydd, cestyll, orielau a lleoedd diwylliannol eraill. Roedd nifer o’r rhain yn brofiadau newydd ar gyfer cyfranogwyr Ffrindiau Gigiau. Mae Ffrindiau Gigiau wedi dweud wrthym, yn ogystal â’u helpu i wneud ffrindiau newydd a mynychu digwyddiadau y maent wrth eu bodd â nhw, mae bod yn rhan o Ffrindiau Gigiau wedi helpu i wella eu hannibyniaeth a’u hyder.
Mae Ffrindiau Gigiau yn chwilio am wirfoddolwyr a chyfranogwyr sydd eisiau bod yn Ffrindiau Gigiau yn Ynys Môn, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf, Bro Morgannwg a Wrecsam. I wneud cais i ddod yn Ffrind Gig neu i ddysgu mwy, ewch i dudalen Ffrindiau Gigiau Cymru lle gallwch lawrlwytho ffurflen gais a gwylio fideos am y prosiect.