Nodau’r cwrs
Fe fydd y cwrs undydd yma yn darparu gwybodaeth ddiweddaraf a chywir i staff sydd yn cefnogi oedolion gyda Syndrom Down am y cyflwr, trosolwg o sut mae oedolion gyda Syndrom Down yn dysgu (y proffil dysgu) ac mae’n rhoi cynghorion ymarferol ar ddiwallu anghenion cefnogi unigolyn sydd yn cyd-fynd â disgwyliadau’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru).
Fe fydd y diwrnod hefyd yn cynnwys sesiynau yn canolbwyntio ar broblemau iechyd yn gysylltiedig gyda Syndrom Down; hyrwyddo iechyd meddwl cadarnhaol a strategaethau i wella cyfathrebu .
Mae’r Cwrs yn cynnwys
- Chwalu mythau
- Hawliau a gwerthoedd angenrheidiol i hyrwyddo llesiant
- Y proffil dysgu – helpu pobl gyda Syndrom Down i ddeall – cael y gefnogaeth yn gywir.
- Hyrwyddo iechyd meddwl cadarnhaol a gwneud y mwyaf o gyfleoedd ar gyfer annibyniaeth pobl, llais cryfach a mwy o reolaeth dros eu bywydau eu hunain
- Cadw’n iach a chadw’n ddiogel – rheoli problemau iechyd, risgiau a dewisiadau
- Astudiaethau achos – gwerthfawrogi ein bywydau.
- Adnoddau a lle i fynd am ragor o wybodaeth/cyngor.
Ar gyfer
Mae’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yn datgan y dylai pob darparydd ddarparu gwasanaethau sydd yn diwallu anghenion unrhyw un sydd angen gofal a chefnogaeth. Mae’r cwrs yma ar gyfer staff gofal cymdeithasol, iechyd ac addysg fydd angen deall anghenion oedolion gyda Syndrom Down a sicrhau bod eu lleoliadau a’u gwasanaethau yn hygyrch ar gyfer pobl gyda Syndrom Down ac yn diwallu eu hanghenion