Mae’r Symud a Chyffrwdd Hoffus – y cwrs allweddol i gyfathrebu, yn delio gyda phwysigrwydd a blaengarwch gweithio gyda Chyffwrdd fel dull o gyfleu dealltwriaeth, diogelwch a seibiant o sylfaen o hoffter a gofalu sensitif i’r rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, yn cynnwys awtistiaeth.
Yn ystod y profiad undydd yma fe fyddwch yn dysgu am y niwrowyddoinaeth y tu ôl i bwysigrwydd cyffwrdd hoffus yn nhermau sut mae’r unigolyn yn addasu i’r amgylchedd/datblygiad seicolegol y plentyn/datblygiad ysgogol, gwybyddol a hoffus/datblygiad iaith ac ymddygiad iach a chymdeithasu priodol.
Nodau’r Cwrs:
Y nodau ydy rhoi sylfaen dda i chi mewn gweithio gyda Synnwyr Cyffwrdd yn ogystal â sbardun i dechnegau symud creadigol ar gyfer adeiladu ymddiriedaeth a pherthynas, i leddfu pryder a datblygu synnwyr o lawenydd. Gellir gweithredu’r sylfaen yma yn eich gwaith gyda phlant ac oedolion.
Ar gyfer:
Diben y cwrs hwn ydy cynorthwyo pob gweithiwr proffesiynol fel gweithwyr cefnogi, gweithwyr cymdeithasol, athrawon, rhieni yn ogystal â seicolegwyr a therapyddion. Mae ar eich cyfer chi os ydych yn gofalu am rhywun yn y cartref neu fel swydd.
Bywgraffiad:
Mae Karen Woodley yn Seicotherapydd Symudiad Dawns Cofrestredig ac yn Arolygydd Clinigol sydd yn gweithio gyda chynghorwyr seicotherapiwtig a’r proffesiynau iechyd. Mae ganddi gyfoeth o brofiad gyda chleientiaid sydd ag anableddau dysgu. Karen oedd y cydgysylltydd hyfforddi arweiniol a’r uwch arweinydd sesiwn yn Ymddiriedolaeth Torch lle bu’n trefnu, cyflwyno a darparu eu rhaglen hyfforddi achrededig, yn cynnal grwpiau rhieni a’u gweithdai undydd ar gyfer cyfathrebu drwy gyffwrdd