Cwrs am dimm ar lein. 2 awr
Ar y cyd gyda Cerebra rydyn ni’n cynnal gweithdai ar ddefnyddio eu Pecyn Cymorth i gael mynediad i Wasanaethau Cyhoeddus.
Nod y gweithdy ydy cefnogi teuluoedd sydd yn wynebu anawsterau mewn perthynas â darpariaeth gwasanaethau cefnogi iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg.
Dydy’r gweithdy ddim yn rhoi cyngor cyfreithiol a datrys problemau unigol, ond mae’n siarad am strategaethau cyffredinol y gall rieni eu defnyddio i gael y gwasanaethau maen nhw eu hangen ar gyfer eu plentyn a’u teulu.
Mae’r gweithdy yn agored i gofalwyr teulu a gweithwyr cefnogi sydd yn helpu teuluoedd.
Erbyn diwedd y gweithdy fe fyddwch yn gallu:
- Adnabod y problemau cyffredinol y mae teuluoedd yn eu wynebu wrth gael mynediad i wasanaethau ac adnabod gwahanol fathau o anghydfod
- Meddwl am ddulliau datrys problemau i’r problemau yma
- Defnyddio nifer o lythyrau templed wrth ohebu gyda chyrff cyhoeddus
Mae’r gweithdy yn cynnwys gweithio ar astudiaeth achos.
Cerebra ydy’r elusen sydd yn helpu teuluoedd gyda phlant â chyflyrau ymennydd i ddarganfod bywyd gwell gyda’i gilydd.
Partneriaeth o Anabledd Dysgu Cymru, Cerebra a Fforwm Rhieni a Gofalwyr Pobl ag Anabledd Dysgu Cymru.