Nodau’r Cwrs
Fe fydd y cwrs yma yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i sta sydd yn cefnogi oedolion hŷn â syndrom Down ynghylch diwallu eu hanghenion iechyd a chymorth newidiol. Fe fydd y cyfranogwyr yn datblygu’r sgiliau i ddeall pwysigrwydd adnabod newidiadau posibl i iechyd unigolyn a gwybod sut i ddelio gyda’r rhain neu lle i fynd am wybodaeth a chyngor pellach, arbenigol.
Arôl y cwrs yma fe fyddwch:
- fe fydd gennych ddealltwriaeth glir o beth ydy syndrom Down, achosion a chy redinolrwydd
- fe fyddwch yn gwybod beth ydy pro! l dysgu a chyfathrebu oedolion â syndrom Down a sut orau i ddiwallu eu hanghenion cefnogi
- fe fyddwch yn gallu adnabod newidiadau cy redin mewn person hŷn â syndrom Down a chysylltu hynny gyda’u hanghenion iechyd newidiol
- fe fyddwch yn cael gwybodaeth ynghylch sut i gyfeiriounigolyn am ymchwiliad/diagnosis cywir i weithiwr pro esiynol priodol
- fe fyddwch yn ymwybodol o’r cysylltiad rhwng syndrom Down a dementia
- fe fyddwch yn gallu rheoli lles cor orol ac emosiynol person hŷn sydd â
syndrom Down - fe fyddwch yn deall e aith heneiddio ar eu teulu-gofalwyr a’u cyfelillion
(yn cynnwys cyfellion sydd hefyd ag anabledd dysgu) - fe fyddwch yn deall e aith yr amgylchedd ! segol ar yr unigolyn.
Ar gyfer
Mae’r cwrs yma wedi’i ddylunio ar gyfer gweithwyr pro esiynol iechyd a gofal cymdeithasol sydd yn cefnogi oedolion hŷn â syndrom Down mewn amrywiol leoliadau, ond yn enwedig y rhai sydd yn gweithio mewn amgylchedd byw gyda chefnogaeth. Fe fyddai hefyd yn berthnasol i weithwyr cymdeithasol sydd yn cymryd rhan mewn asesu anghenion gofal ac eraill sydd yn gweithio mewn rôl gefnogol fel sta gwasanaethau dydd, gweithwyr cefnogi a chynorthwywyr personol etc.