Hyfforddiant 3 awr am ddim ar asesu a chynllunio gofal
Oes gennych chi anabledd dysgu?
Ydych chi eisiau gwybod beth ydy eich hawliau a sut i gymryd rhan yn eich asesiadau ac mewn cynllunio eich gofal?
Yn 2016 roedd yna ddeddf newydd o’r enw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru). Mae yna reolau newydd am sut y dylai awdurdodau lleol asesu pobl ar gyfer gofal a chefnogaeth, gwneud a darparu cynlluniau gofal yn dilyn asesiad.
Beth ydy’r hyfforddiant ?
Mae’r dysgu yn rhyngweithiol ac mae’n cynnwys cyflwyniad, trafodaeth a gwaith grŵp.
- Gwneud i chi feddwl am gyda beth rydych chi eisiau help.
- Gwneud i chi feddwl am ‘beth sydd yn bwysig’ i chi.
- Beth i’w wneud os ydych chi angen gofal a chefnogaeth.
- Eich Asesiad.
- Beth ydy llesiant.
- Sut i gymryd rhan.
- Gyda beth y gallwch gael help.
- Eich Cynllun Gofal a Chefnogaeth.
- Eich Adolygiad.
- ‘Cerdyn Post o’r dyfodol’.
- Cwis i weld beth rydych chi wedi ei ddysgu.
Ar gyfer pwy mae’r hyfforddiant?
Os ydych yn rhan o grŵp neu gorff gall yr hyfforddwyr ddod i’ch swyddfa a hyfforddi grŵp o bobl.
Mae croeso i chi ddod â’ch gofalwr teulu neu gefnogwr gyda chi os ydych eisiau.
Pwy ydy’r hyfforddwyr?
Mae gennym ni hyfforddwyr profiadol i roi’r hyfforddiant, ac mae gan rai ohonyn nhw anabledd dysgu eu hunain.
Pa ddeunyddiau sydd ar gael?
- Fe fyddwch yn cael llyfr gwaith hyfforddi i’w ddefnyddio ac i’w gadw.
- Mae gwaith grŵp yn cynnwys defnyddio lluniau a labeli gludiog.
- Fe fyddwch yn cael llyfryn hawdd ei ddeall ar asesu a chynllunio gofal.
Diddordeb?
Cysylltwch gyda Inacia ar 029 2068 1160 inacia.rodrigues@ldw.org.uk
Diweddariad: Mehefin 2019. Mae’r hyffordiant am ddim bellach wedi’i gymryd. Rydym yn parhau i allu cynnig hyfforddiant am gost rhesymol i chi neu i’ch grwp. Holwch os gwelwch yn dda.