Mae 2024 wedi bod yn flwyddyn o dwf ac effaith i Hawdd Ei Ddeall Cymru. Cwblhaodd ein tîm gwybodaeth hygyrch dros 140 o brosiectau Hawdd eu Deall ar gyfer cleientiaid ledled Cymru a’r DU, gan gwmpasu pob agwedd ar fywyd – o gefnogi pobl gyda’u hiechyd, i gael mynediad at gyllid prosiect.
Yn 2024, lansiodd Hawdd Ei Ddeall Cymru 2 adnodd rhad ac am ddim hefyd:
- Eich Canllaw Hawdd ei Ddeall i’r Etholiad Cyffredinol – yn cefnogi pobl i ddefnyddio eu hawl i bleidleisio.
- Llyfryn Gofyn am Hawdd ei Ddeall – yn helpu pobl i ddeall, gwerthfawrogi a gofyn am ddeunyddiau Hawdd eu Deall.
Roedd yr uchafbwyntiau eraill yn cynnwys:
- Cael cais i ymuno â phanel arbenigol ar gyfer gweminar Llywodraeth y DU, sy’n cefnogi gweithwyr y llywodraeth i wneud gohebiaeth am ddyled yn hygyrch.
- Hawdd ei Deall Cymru yn dod yn aelodau o weithgorau Safonau Hawdd eu Deall yn y DU ac yn Rhyngwladol. Mae’r grwpiau hyn yn rhannu arfer gorau ac yn datblygu canllawiau i helpu i wella ansawdd hawdd ei ddeall ledled y byd.
Mae gwaith hawdd ei ddeall diweddar ein tîm wedi cynnwys:
- Llywodraeth Cymru – Arolwg cyfleoedd dydd a seibiant (mae’r ymgynghoriad yn cau ar 19 Chwefror 2025)
- Stolen Lives – Ymgyrch Cartrefi Nid Ysbytai
- Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru – Byw mewn Adfeiliad, adroddiad ar amodau tai cymdeithasol
- Gwella Cymru – Gwirio proffil Iechyd Cymru ar Unwaith dros Gymru
- Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan – Llyfryn prawf alergedd Penicillin
- Llywodraeth Cymru – Siarter Budd-daliadau Cymru
- Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru – adroddiad blynyddol
Dywedodd Laura Griffiths, rheolwr Hawdd Ei Ddeall Cymru: “Hoffem ddiolch yn fawr iawn i’r holl gleientiaid rydyn ni wedi gweithio gyda nhw dros y flwyddyn ddiwethaf. Rydym ni’n edrych ymlaen at flwyddyn wych arall yn helpu sefydliadau i wneud eu gwybodaeth yn glir ac yn hygyrch, ac rydym ni bob amser yn hapus i weithio gyda sefydliadau newydd. Cysylltwch â ni ar easyread@ldw.org.uk neu ffoniwch 029 2068 1160 i gael gwybod sut y gallwn ni wneud eich gwybodaeth yn hygyrch.”