Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi pedwar taflen hawdd ei ddeall ar y brechlyn COVID-19 a pwy ddylai ei dderbyn. Cynhyrchodd Hawdd ei Ddarllen Cymru ar ei rhan.
Mae’r brechlyn Covid-19 yn cael ei roi ar hyn o bryd i bobl yng Nghymru sy’n wynebu’r risg mwyaf yn sgil coronafeirws.
Bydd effaith brechlyn COVID-19 diogel ac effeithiol yn cynnig amddiffyniad unigol yn ogystal â mwy o amddiffyniad i’n hanwyliaid a’n cymunedau. Gallai olygu bod cyfyngiadau’n cael eu llacio ac y gallwn symud ymhellach tuag at ddychwelyd i fywyd mwy arferol o ddydd i ddydd.
Mae’r taflenni a gwybodaeth arall ar gael wrth Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan gynnwys gwybodaeth hygyrch am y brechlyn.
Brechlyn COVID-19: Canllaw hawdd ei ddeall i oedolion
Mae’r daflen yma yn dweud wrthych chi am frechlyn COVID-19 a phwy sydd angen cael y brechlyn i’w hamddiffyn rhag Coronafeirws.
Pam mae rhaid imi aros i gael brechlyn COVID-19?
Mae’r daflen yma yn esbonio bod y brechlyn yn cael ei rhoi i’r bobl sydd fwyaf mewn perygl yn gyntaf.
Cyn derbyn y brechlyn
Dylech ddarllen y daflen hon cyn derbyn y brechlyn COVID-19. Mae’n egluro’r cwestiynnau a ofynnir ichi pan gewch y brechlyn, a’r hyn sydd angen i chi ei ddweud i’r nyrs adeg eich apwyntiad.
On nad ydych yn deall unrhyw beth, mae’n bwysig gofyn i’r nyrs pan chi’n mynd i gael eich pigiad brechlyn COVID-19.
Ar ôl derbyn y brechlyn
Dylech ddarllen y daflen hon ar ôl derbyn y brechlyn COVID-19.
Mae’n bwysig iawn eich bod chi’n cael yr ail bigiad. Os dydych chi ddim yn cael yr ail bigiad fydd y brechlyn ddim yn gweithio mor dda.
Mae’r brechlyn wedi cael ei phrofi ac mae’n ddiogel iawn. Mae gan pob meddygaeth sgil effeithiau felly efallai byddwch yn cael rhai yn dilyn cael y brechlyn. Mae’r daflen hon yn esponio beth yw sgil effeithiau posib y brechlyn, a beth i’w wneud os ydych yn gofidio amdanynt.
Os ydych chi wedi cael y brechlyn rhaid i chi parhau i ddilyn y rheolau i gadw pawb yn ddiogel.
Mwy o wybodaeth
Gellir gweld y wybodaeth mewn fformatiau gwahanol, gan gynnwys British Sign Language (BSL) a print mawr.
Mae Anabledd Dysgu Cymru wedi casglu popeth ni’’n ei wybod am y brechlyn, sy’n cynnwys wybodaeth ar pwy fydd yn ei dderbyn yn gyntaf.
Rydym hefyd wedi casglu adnoddau defnyddiol am Coronafeirws (COVID-19), sy’n cynnwys canllawiau hawdd ei ddeall i pobl ag anabledd dysgu yng Nghymru.
Yn ogystal, rydym yn ymgyrchu am addasiadau i’r rhaglen darparu’r brechlyn. Dysgwch mwy a ysgrifennwch at eich Aelod o’r Senedd am cefnogaeth.