Fe wnaeth ein rhwydwaith newydd Connections Cymru gyfarfod am y tro cyntaf ddiwedd mis Mawrth, gan ddod â phobl at ei gilydd ar-lein i edrych ar rai o’r materion sy’n creu unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol yn ogystal â dod o hyd i ddatrysiadau creadigol i’r problemau hyn.
Cyn COVID-19, gwyddom fod pobl ag anabledd dysgu yng Nghymru 7 gwaith yn fwy tebygol o fod yn unig na’u cyfoedion nad ydynt yn anabl. Mae’r pandemig wedi creu mwy o broblemau ond mae hefyd wedi cynnig rhai datrysiadau creadigol. Bydd angen i ni fod yn arloesol ac yn feiddgar mewn dulliau newydd.
Yn Anabledd Dysgu Cymru, rydym am i bobl ag anabledd dysgu gael y cyfleoedd gorau i gysylltu â phobl a’u cymunedau felly dyna pam rydym wedi sefydlu’r rhwydwaith newydd hwn o’r enw Connections Cymru.
Pam mae angen atebion creadigol arnom?
Gwyddom fod pobl ag anabledd dysgu yn aml yn profi unigrwydd ac arwahanrwydd. Ym mis Ionawr 2016, cyhoeddodd Mencap ymchwil ar y mater hwn a’r prif ganfyddiadau oedd:
- Mae pobl ag anabledd dysgu yn enwi staff cyflogedig yn bennaf os gofynnwch pwy yw eu ffrindiau.
- Mae 47% o bobl ag anabledd dysgu yn treulio’r rhan fwyaf o’u hamser gartref.
- Nid yw 64% yn gweld eu ffrindiau.
- Mae 1 o bob 3 o bobl ag anabledd dysgu yn treulio llai nag awr y tu allan i’w cartrefi ar ddydd Sadwrn.
- Mae 1 o bob 3 yn poeni am gael eu bwlio y tu allan i’w cartref.
- Mae 39% o bobl ag anabledd dysgu yn cymryd rhan mewn gweithgaredd cymdeithasol lai nag unwaith y mis.
Yn 2019 fe wnaeth Mencap hefyd ddarganfod, “Mewn arolwg diweddar o bobl ag anabledd dysgu dywedodd 24% eu bod yn teimlo’n unig ‘lawer o’r amser’. Mae hyn yn cymharu â dim ond 3.4% o’r boblogaeth gyffredinol a ddywedodd eu bod yn teimlo’n unig ‘yn aml neu bob amser’.”
Fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi Cymunedau Cysylltiedig yn 2020 a thynnodd hwn sylw at rôl y Trydydd Sector:
“i helpu i feithrin gwydnwch a lles ar lefel unigol a chymunedol drwy godi ymwybyddiaeth, rhoi cyngor a chymorth a darparu gwasanaethau, yn enwedig ar gyfer grwpiau ‘nad ydynt yn cael eu clywed yn aml’ (h.y. y rhai nad ydynt yn teimlo’n gyfforddus yn ymgysylltu gyda gwasanaethau cyhoeddus).”
Bywydau pobl yn ystod y pandemig
Mae’r rhan fwyaf o bobl wedi addasu’n dda yn ystod y pandemig. Mae llawer mwy o bobl bellach yn gallu cysylltu ar-lein ac yn defnyddio technoleg i gadw mewn cysylltiad a chymdeithasu. Ond gwyddom o hyd bod rhai pobl wedi cael eu gadael ar ôl. Mae astudiaeth Ymchwil Covid wedi bod yn cyfweld 150 o bobl ag anabledd dysgu yng Nghymru i ddarganfod sut beth fu eu bywydau yn ystod y pandemig. Dywedodd 3 o bob 10 o bobl eu bod ‘yn aml neu bob amser yn teimlo’n unig’ ac nad oedd ganddynt neb i siarad â nhw. Dywedodd 2 o bob 10 o bobl nad oeddent mewn cysylltiad â theulu neu ffrindiau ac nid oedd 7 o bob 10 o bobl wedi defnyddio gwasanaethau cymunedol. Ar nodyn mwy cadarnhaol, roedd technoleg ar-lein ar gael i 9 o bob 10 o bobl ac roeddent yn ei defnyddio i gadw mewn cysylltiad â phobl a chymryd rhan mewn gweithgareddau.
Cyfarfod cyntaf Connections Cymru
Croesawodd ein Prif Swyddog Gweithredol Zoe Richards bawb i’r rhwydwaith, siaradodd am faterion unigrwydd ac arwahanrwydd, ac esboniodd bwrpas y rhwydwaith.
Clywsom gan Heather Graham, cydlynydd prosiect newydd Ffrindiau Gigiau Cymru yng Ngogledd Cymru, a dywedodd wrthym sut oedd hi iddi yn ystod y cyfyngiadau symud. Esboniodd Heather pa mor bwysig yw hi iddi hi gael swydd i gadw mewn cysylltiad. Dywedodd fod y rheolau yn ei sefyllfa fyw yn llym iawn o’u cymharu â’r rheolau ar gyfer y cyhoedd, ac nid yw hynny wedi bod yn deg. Anogodd bobl i gymryd rhan yn Ffrindiau Gigiau Cymru fel y gall mwy o bobl gwrdd a chymdeithasu â’u cyfeillion.
Siaradodd Rebecca Evans o Dimensions am sut maen nhw wedi bod yn paru gwirfoddolwyr â phobl maen nhw’n eu cefnogi i wneud rhai gweithgareddau, i siarad gyda nhw ac i fynd i’r dafarn gyda nhw. Roedd yn rhaid iddyn nhw newid i fyd rhithwir yn ystod y cyfyngiadau symud ond agorodd ddrysau eraill nad oedden nhw wedi’u hystyried o’r blaen. Fe wnaethon nhw lwyddo i helpu pobl ledled y wlad gyda ‘chlybiau cadw mewn cysylltiad’ i’r rhai â diddordebau cyffredin fel pêl-droed, garddio neu anifeiliaid anwes. Mae’r clybiau hyn wedi galluogi cyfeillgarwch newydd i ddatblygu.
Problemau ynghylch unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol wrth ddod allan o’r cyfyngiadau symud
Dywedodd cyfranogwyr cyfarfod rhwydwaith cyntaf Connections Cymru wrthym am rai o’r problemau maen nhw wedi dod ar eu traws wrth i reolau’r cyfyngiadau symud gael eu llacio ledled Cymru:
- Mae pobl yn cael trafferth gyda hyder wrth fynd allan wrth i’r cyfyngiadau symud leddfu.
- Mae rhai pobl wedi symud yn ôl gyda’u teuluoedd. I rai, gall hyn ei gwneud yn haws dod allan o’r cyfyngiadau symud ond i eraill gall fod yn fwy cyfyngol.
- Mae pobl yn amharod i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus oherwydd ofnau am ddiogelwch.
- Mae dryswch, pryder a diffyg gwybodaeth am yr hyn mae awdurdodau lleol yn ei wneud ynglŷn ag ailagor gwasanaethau. Gwyddom fod rhai gwasanaethau wedi’u torri yn ystod y pandemig tra bod eraill wedi cael eu symud ar-lein, felly mae pobl yn awyddus i wybod pa wasanaethau fydd ar gael o hyd wrth ddod allan o’r cyfyngiadau symud a sut y bydd awdurdodau lleol yn cyfleu’r hyn maen nhw’n ei wneud.
- Mae problemau’n ymwneud â chael eu hamgylchynu gan bobl gan ein bod yn gwybod bod y rheolau cadw pellter cymdeithasol yn dal yn bwysig.
- Pwysigrwydd cefnogi pobl fel unigolion yn hytrach na defnyddio dull ‘cyffredinol’ gan y bydd pawb yn wahanol yn y ffordd maen nhw’n teimlo am ailgyflwyno i’r gymuned.
- Mae pobl yn ei chael hi’n anodd dychwelyd i gwrdd â phobl oherwydd teimladau o bryder.
- Gall pobl deimlo fel pobl o’r tu allan, hyd yn oed gyda’u teuluoedd a’u ffrindiau eu hunain. Mae rhai wedi bod yn byw mewn tai â chymorth gyda phobl nad oeddent yn dewis byw gyda nhw ac nid ydynt wedi gallu ymweld â theulu a ffrindiau felly maen nhw bellach yn teimlo fel pobl o’r tu allan.
- Nid yw pobl wedi arfer â chyswllt corfforol fel cofleidio.
- Dryswch ynghylch newid rheolau a rheolau gwahanol rhwng y 4 gwlad.
- Yr angen i ddeall y gwahaniaethau rhwng unigrwydd ac arwahanrwydd.
Dod allan o’r pandemig: beth rydyn ni wedi’i ddysgu, cyfleoedd a syniadau newydd
Fe wnaeth pobl hefyd rannu’r hyn yr oeddent wedi’i ddysgu o’r pandemig yn ogystal â’r cyfleoedd a’r syniadau newydd a ddaeth i’r amlwg drwy’r cyfnod anodd hwn:
- Mae’r pandemig wedi dangos pa mor bwysig yw teulu a ffrindiau.
- Efallai bod rhai pobl wedi dod yn ddibynnol ar weithgareddau ar-lein felly mae angen i ni fod yn ofalus i beidio ag atal y rhain i gyd yn sydyn ac ystyried dull mwy cyfunol. Mae angen dewisiadau ar bobl o hyd. Mae’r ap Insight (a ddatblygwyd gan Innovate Trust) wedi bod yn ddefnyddiol iawn a dylai barhau.
- Mae bod ar-lein wedi bod yn dda i’r amgylchedd gan nad oes rhaid i bobl deithio.
- Mae rhai grwpiau wedi datblygu amserlen strwythuredig o weithgareddau y mae pobl yn cael dewis ohonynt wedyn o ran pa rai i ymuno â nhw.
- Mae llawer o hunan-eiriolwyr wedi dod yn fedrus iawn yn y defnydd o dechnoleg ddigidol yn ystod y pandemig. Mae angen i ni chwilio am gyfleoedd i bobl fod yn rhan o uwchsgilio eraill, gan gynnwys gweithwyr cymorth.
- Mae cyfle i ddefnyddio therapïau personol a chwnsela nad ydynt efallai wedi’u cyrchu o’r blaen.
- Gan fod nifer o bobl bellach wedi dod yn fwy hyderus gyda thechnoleg mae angen i ni ystyried sut i adeiladu ar y sgiliau hyn a chreu mwy o gyfleoedd i bobl.
- Gan ddefnyddio technoleg, mae pobl wedi gwneud mwy o gysylltiadau a chyfeillgarwch ledled Cymru yn hytrach na chael eu cyfyngu i’w hardal leol. Er enghraifft, digwyddodd hyn gyda Ffrindiau Gigiau Cymru lle bu pobl o bob cwr o Gymru yn cyfarfod mewn cymdeithasu a the partis ar-lein.
- Mae hwn yn amser da i gynllunio’r ffordd ymlaen a gwerthuso bywydau cyn covid. Mae hwn yn gyfle gwirioneddol i gyd-gynhyrchu’r hyn sy’n dod nesaf.
- Cyfle gwirioneddol i newid pethau er gwell a pheidio dychwelyd i’r ffordd roedd gwasanaethau’n cael eu cynnig cyn y pandemig.
- Cyfle i adeiladu ar Dimau – Cylchoedd Cymorth a Fi i helpu pobl i gynllunio eu bywydau.
- Creu ffyrdd newydd o gysylltu pobl â’i gilydd a chael mwy o gyfeillgarwch. Mae angen i ni harneisio’r ysbryd cymunedol sydd wedi tyfu yn hytrach na gweithwyr cyflogedig a gwirfoddolwyr ym mywydau pobl.
Beth nesaf?
Bydd y rhwydwaith yn cyfarfod 4 gwaith y flwyddyn. Bydd yn dod at ei gilydd i glywed straeon pobl, arddangos arfer da, cydweithio i greu ddatrysiadau, a chynnig her a ffocws.
Cynhelir y cyfarfod nesaf ar-lein ddydd Mercher 7 Gorffennaf rhwng 10am a 11.30am.
I gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer y rhwydwaith ewch i’n tudalen we Connections Cymru neu e-bostiwch karen.warner@ldw.org.uk.