Rydyn ni’n rhedeg gweithdai yn ein cynhadledd flynyddol eleni yng ngogledd a de Cymru.
Mae gwybodaeth am ein holl weithdai isod ar gyfer 24 Tachwedd yng Cyffordd Llandudno. Pan fyddwch chi wedi penderyfnu pa rai rydych chi eisiau ymuno gyda nhw, ymunwch ar-lein.
Archebwch eich lle nawr ar gyfer 24 Tachwedd, Cyffordd Llandudno
Gweithdai yn ein Cynhadledd Flynyddol ar 24 Tachwedd, Llandudno Junction – ‘Lle rydyn ni’n mynd o fan hyn?’
Engage to change – Cefnogi pobl i waith
Mae pobl gydag anabledd dysgu a phobl awtistig yn gallu gweithio os oes ganddyn nhw y swydd gywir a’r gefnogaeth gywir. Fe fydd y gweithdy yma yn siarad am sut mae Engage to Change wedi helpu pobl ifanc i gael gwaith yng Nghymru ac fe fyddwch yn clywed gan bobl ifanc oedd ar y prosiect. Hoffem glywed eich barn am gyflogaeth a beth rydych chi’n feddwl. Beth ydy’r pethau fyddai yn eich helpu chi i godi’r gyfradd cyflogaeth wrth inni symud ymlaen ar ôl Covid?
ForMi – straeon cyfoethog o gyflawniad mewn geiriau a lluniau
ForMi Ap ffôn deallus sydd yn cefnogi pobl i gymryd cymaint o reolaeth dros eu cynllun eu hunain ag sy’n bosibl, gan eu helpu i gyflawni’r pethau sydd yn bwysig iddyn nhw. Fe wnaethom ni ennill cystadleuaeth Llywodraeth Cymru yn 2020 o’r enw ‘Gwell Bywyd yn agosach at Gartref’, oedd yn cynnwys cyllid i gynnal profion i’r system o fewn cyrff ar draws Cymru. Roedd hyn yn cynnwys awdurdodau lleol a chyrff eraill.
I’r unigolyn mae’n eu helpu nhw i gofnodi eu stori o gyflawniad mewn geiriau a lluniau, yn union fel apiau cyfryngau cymdeithasol fel Facebook. Mae ganddyn nhw Gylchoedd Cefnogi hefyd y maen nhw’n gysylltiedig gyda nhw drwy’r ap. Mae’r bobl yma yn gallu eu helpu nhw i ddal eu stori a darparu anogaeth yn ddyddiol.
I’r cyrff mae’n dangos i bobl eraill pa mor dda maen nhw’n helpu unigolion i gael beth sydd yn cyfrif fwyaf iddyn nhw – eu canlyniadau. Dewch i wrando ar ein stori a dysgu rhagor. Here2There
Magu Plant gyda Chefnogaeth i Bobl gydag Anableddau Dysgu – cyfle i archwilio a thrafod gyda Cysylltu Bywydau Plws
Mae gan bobl gydag anableddau dysgu yr hawl i gael eu cefnogi yn eu rôl o fod yn rhieni, fel ag sydd gan eu plant yr hawl i fyw mewn amgylchedd diogel a chefnogol, ond mae plant rhwng 40-60% o rieni gydag anableddau dysgu yn cael eu tynnu oddi arnyn nhw
Fe fydd y gweithdy yma yn edrych ar:
- Arfer gorau pan yn cefnogi rhieni gydag anableddau dysgu
- Y gwahaniaeth rhwng magu plant gyda chefnogoaeth a rhianta amgen
- Sut mae Cysylltu Bywydau wedi bod yn cefnogi rhieni gydag anableddau dysgu
- Pa adnoddau sydd yn bodoli i gefnogi gweithwyr proffesiynol sydd yn cefnogi rhieni gydag anableddau dysgu ac adnoddau ar gyfer rheini eu hunain.
North Wales Transformation Team – Fy Mywyd, Fy Ffordd: dylunio dyfodol wedi’i ganoli ar y person
Yn ystod y pandemig mae nifer o unigolion wedi cael cyfle i feddwl am beth sydd yn bwysig yn eu bywyd. Fe fyddwn ni yn cymryd amser i sgwrsio am y pethau mawr rydyn ni wedi eu dysgu. Fe fyddwn ni yn canolbwyntio ar y cwestiynau – oes gen i’r bywyd a’r gefnogaeth sydd yn gweithio imi? Ydw i’ cyflawni’r nodau a’r canlyniadau rydw i eu heisiau?
Fe fyddwn ni yn clywed am rai o’r gweithgareddau allweddol y mae ein Rhaglen Drawsnewid wedi bod yn canolbwyntio arnyn nhw yn ystod y pandemig ac yn dod allan yr ochr arall. Yn enwedig, prosiectau sydd yn canolbwyntio ar gyfeillgarwch, perthnasoedd a chymuned. Gwaith sydd yn codi mwy o ymwybyddiaeth o Daliadau Uniongyrchol fel ffordd o gyflawni eich nodau personol. A mynd yn ôl i Gynllunio wedi’i Ganoli ar y Person fel ffordd dda o fod yng ngofal eich bywyd a’ch cefnogaeth eich hun.
Archebwch eich lle nawr ar gyfer 24 Tachwedd, Cyffordd Llandudno