Mae pobl ag anabledd dysgu mewn perygl pan na fyddant yn derbyn y wybodaeth gywir mewn fformat maen nhw’n ei ddeall. Mae Anabledd Dysgu Cymru, fel rhan o’r Consortiwm Anabledd Dysgu, wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog Mark Drakeford i fynegi pryder cynyddol nad yw Llywodraeth Cymru eto wedi cyhoeddi fersiwn hygyrch o’r llythyr a anfonwyd at bobl a gynghorwyd i warchod eu hunain oherwydd y coronafeirws.
Mae’r llythyr a’r dystiolaeth ategol yn codi materion pwysig ynghylch y cyngor a’r wybodaeth am warchod eu hunain a roddwyd i bobl ag anabledd dysgu, sy’n dal i fod mewn perygl gwirioneddol o fynd yn sâl a cholli eu bywydau o bosibl o ganlyniad. Mae Anabledd Dysgu Cymru hefyd wedi codi ei bryderon fel un o 32 o elusennau am yr effaith ar les pobl sy’n gwarchod eu hunain, ac eglurder y wybodaeth a ddarparwyd am y cyngor a ddiweddarwyd yn ddiweddar.
Mae Anabledd Dysgu Cymru yn aelod o gonsortiwm y trydydd sector o sefydliadau Anabledd Dysgu a Gofalwyr Teuluol cenedlaethol ochr yn ochr â Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan, Fforwm Cymru Gyfan, Mencap Cymru, Cymorth Cymru a’r Cymdeithas Syndrom Down.
Gwybodaeth aneglur
Fel sefydliadau sy’n gweithio gyda phobl ag anabledd dysgu a’u gofalwyr teuluol, rydym yn gweld ac yn clywed nifer cynyddol o ymholiadau yn ymwneud â dryswch ynghylch gwarchod. Mae tua 130,000 o bobl yng Nghymru sy’n cael eu hystyried yn eithriadol o agored i ddatblygu salwch difrifol os ydynt yn contractio coronafeirws oherwydd bod ganddynt gyflwr iechyd penodol wedi cael eu cynghori i ‘warchod eu hunain’. Hefyd, nid yw hi’n glir ynghylch y gwahaniaeth rhwng ‘agored i niwed’ a ‘gwarchod’. Rydym yn gwybod yn awr bod mesurau gwarchod cael eu hymestyn i 16 Awst. Mae’r rhwystredigaeth gynyddol a deimlwn ar ran y bobl yr ydym yn eu cefnogi wedi arwain y consortiwm i ofyn yn ffurfiol i’r Prif Weinidog fynd i’r afael â’r materion a godwyd fel mater o frys.
Cais wedi’i wneud am fersiwn hawdd ei ddeall
Mae gwybodaeth mewn fformat hawdd ei ddeall yn fwy nag adnodd defnyddiol – mae’n ofyniad sylfaenol i alluogi pobl ag anableddau dysgu i gyrchu a deall gwybodaeth sy’n effeithio ar eu bywydau a’u hawliau dynol. Yn ystod pandemig byd-eang, mae’n hanfodol sicrhau bod gwybodaeth a chyngor ar gael yn rhwydd er mwyn osgoi poen a dioddefaint diangen. Ar hyn o bryd nid oes fersiwn hawdd ei ddeall o’r llythyr gwarchod a dim cynlluniau i ryddhau un. Pan fydd llythyrau newydd yn cael eu hanfon gyda’r cyngor a ddiweddarwyd yn ddiweddar, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r materion a rydyn ni wedi’u codi.
Llythyr yn anodd i’w ddeall
Mae’r llythyr gwreiddiol yn hir ac yn anodd ei ddeall. Gall hyn beri llawer o straen a dryswch i rywun ag anabledd dysgu, yn enwedig i’r rheini nad oes ganddynt gymorth efallai i ddeall beth mae’r llythyr yn ei gynnwys a’r hyn y mae’n rhaid iddynt ei wneud i ddiogelu eu hunain ac eraill. Oherwydd y pandemig, nid yw llawer o’r rhai a fyddai fel arfer yn cael cymorth i drefnu biliau, llythyrau, ac apwyntiadau yn gallu manteisio ar y cymorth hwn. Mae grwpiau Pobl yn Gyntaf wedi adrodd nad yw rhai unigolion a gynghorwyd i warchod eu hunain wedi bod yn gwneud hynny oherwydd nad ydynt yn deall cynnwys y llythyr. Nid yw’r llythyr wedi’i bersonoli, ac felly mae’n rhestru nifer o resymau pam y gallai’r unigolyn fod wedi’i dderbyn. Mae llawer o rifau a chysylltiadau gwe wedi cael eu cynnwys nad ydynt yn berthnasol i bawb, ond nid yw hyn yn glir i’r darllenydd. Nid yw’r gwahaniaeth rhwng ‘agored i niwed’ a ‘gwarchod’ wedi’i wneud yn glir mewn fformat hygyrch ychwaith. Mae angen eglurder gan fod cyngor yn wahanol ar gyfer y grwpiau hyn.
Wedi’u hallgáu’n ddigidol
Yn ogystal â hynny, mae’r cyfarwyddiadau a roddir yn y llythyr yn aml yn gofyn am fynediad i’r rhyngrwyd, ac nid oes gan bobl ag anabledd dysgu bob amser y mynediad hwn. Bydd hyn yn cyflwyno heriau pellach i lawer o bobl.
Rhesymau dros gysgodi ddim yn glir
Yn y llythyr mae’r consortiwm hefyd yn codi’r mater o bwy sy’n derbyn y llythyrau gwarchod. Nid oes unrhyw resymeg glir wedi’i rhoi. Drwy ddarparwyr gwasanaethau rydym yn ymwybodol o bobl y mae disgwyl iddynt dderbyn llythyr, yn seiliedig ar hanes meddygol hysbys, ond nad ydynt wedi derbyn un. Mae eraill nad ydynt yn credu eu bod yn perthyn i unrhyw rai o’r categorïau a nodwyd wedi derbyn y llythyr ac yn ansicr beth mae hyn yn ei olygu iddyn nhw. Byddai’r cyfle i drafod â gweithiwr meddygol proffesiynol y gellir ymddiried ynddo yn fuddiol iawn, ond mae’r argaeledd wedi bod yn amrywiol.
‘Agored i Niwed’
I’r rheini sy’n agored i niwed oherwydd rhai cyflyrau, mae problemau ychwanegol os nad ydynt yn cael llythyr. Mae hyn yn arbennig o bwysig i’r rheini sydd â rhieni sy’n weithwyr allweddol ac sydd mewn perygl o ddod â’r feirws adref os ydynt yn parhau i weithio fel arfer. Mae rhai cyflogwyr wedi gwrthod rhoi unrhyw addasiadau ar waith oni bai bod y rhieni’n gallu cynhyrchu llythyr gwarchod. Mae hyn wedi golygu bod rhai teuluoedd wedi suddo i galedi ariannol am fod y rhieni wedi cymryd absenoldeb di-dâl er mwyn amddiffyn eu plentyn.
Danfoniadau siopa yn broblem
Yn wir, mae llawer o bobl ag anableddau dysgu a oedd gynt mewn tai â chymorth wedi dychwelyd i fyw gydag aelodau o’u teulu. Oherwydd eu bod yn byw i ffwrdd o’u cyfeiriad cofrestredig, mae hyn wedi arwain at rai pobl yn cael trafferth cael gafael ar slotiau siopa a ddynodwyd i bobl agored i niwed. Y cyngor swyddogol yw cysylltu ag archfarchnadoedd yn uniongyrchol, sy’n dasg frawychus i rywun ag anabledd dysgu, a dull nad yw bob amser yn cael ei ddeall. Mae’r un peth yn wir am gysylltu â’r awdurdod lleol a derbyn parsel bwyd, gan nad yw gofynion deietegol sy’n ymwneud ag anghenion meddygol yn cael eu hystyried.
Rhannu tai
Mae llawer o bobl yng Nghymru sydd ag anableddau dysgu yn byw mewn tai â chymorth, gan rannu eu cartref gyda phobl nad ydynt yn rhan o’u teulu. Rhaid cynnwys canllawiau yn y llythyr ar hawliau a chyfrifoldebau os yw person arall yn y cartref a rennir yn gwarchod eu hunain.
Materion tymor hwy
Mae’r consortiwm yn gofyn pa gynlluniau sy’n cael eu gwneud i gefnogi lles tymor hir pobl y gallai fod angen eu gwarchod am gryn amser, gyda rhai cyfyngiadau yn debygol o barhau nes bod brechlyn ar gael. Rhaid i’r cymorth hwn fod yn hygyrch i bobl ag anabledd dysgu. Mae’r Consortiwm yn galw ar y Prif Weinidog i gadarnhau y bydd y rheini sy’n gwarchod eu hunain yn grŵp blaenoriaeth o ran cael gafael ar frechlyn, pan fydd ar gael. Galwn hefyd am sicrwydd y bydd natur agored i niwed y rhai sydd mewn mwy o berygl, ond nad ydynt yn cael eu hystyried yn y grŵp gwarchod, yn cael eu hystyried wrth roi blaenoriaeth i fynediad i frechlyn.
Dyddiadau ar warchod yn ddryslyd
Bu llawer o ddryswch ynglŷn â dyddiadau, gan fod pobl wedi cael y llythyr ar wahanol adegau ac yn cwestiynu a ddylai’r 12 wythnos o warchod a nodwyd yn y llythyr ddechrau o’r dyddiad derbyn neu o ddechrau’r cyfyngiadau symud swyddogol. Ar 4 Mehefin cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y dylai pobl barhau i warchod eu hunain tan 16 Awst, ond nid yw’r dyddiad hwn na’r dyddiad blaenorol, sef 15 Mehefin, wedi’u cynnwys yn y llythyrau, gan arwain at ddryswch pellach.
Canllawiau newydd
Ar 1 Mehefin fe wnaeth Llywodraeth Cymru ddiweddaru’r canllawiau ar amddiffyn. Mewn llythyr dyddiedig 2 Mehefin roedd Anabledd Dysgu Cymru yn un o 32 o lofnodwyr i ysgrifennu at Brif Weinidog Cymru yn codi pryderon yn ymwneud â’r canllawiau newydd. Mae’r cyfyngiadau wedi cael eu llacio er mwyn caniatáu’r grŵp sy’n gwarchod eu hunain wneud ymarfer corff a chwrdd ag eraill o aelwyd arall yn yr awyr agored. Gyda’r cyngor yn datgan bod yn rhaid cymhwyso mesur o ‘resymoldeb’ wrth lynu at y canllawiau newydd, mae baich dryslyd yn cael ei osod ar y bobl hynny mewn grwpiau mewn perygl y bydd angen iddynt yn awr weithio allan sut i gydbwyso’r canllawiau newydd hyn, tra bod gofyn iddynt barhau i gadw draw o’r gwaith, o siopa ac o gasglu meddyginiaeth. Gan nad yw’r wybodaeth hon wedi’i darparu mewn fformat hygyrch, mae hyn yn creu rhwystrau ychwanegol i ddealltwriaeth ar gyfer pobl ag anableddau dysgu. Byddem yn croesawu rhagor o wybodaeth am y rhesymeg dros wyro oddi wrth y canllawiau presennol.
Gallai’r anghydraddoldeb o ran cyrchu gwybodaeth olygu niwed neu golli bywydau sylweddol i un o’r grwpiau cymdeithas sydd fwyaf agored i niwed yng Nghymru. Rydym yn galw ar y Prif Weinidog a Llywodraeth Cymru ar unwaith i fynd i’r afael â’r pryderon a godwyd ynghylch gwarchod, gan gyfathrebu’n fwy clir ac mewn ffordd hygyrch, er mwyn lleihau’r risg i bobl ag anableddau dysgu o Covid-19.
Er nad oes llythyr hawdd ei ddeall ar gyfer yr unigolyn ei hun, mae canllawiau cyffredinol yma.