Mae hi wedi bod yn flwyddyn brysur iawn yn Ffrindiau Gig Cymru. Rydyn ni wrth ein bodd ein bod ni wedi lansio yng Nghastell-nedd, Port Talbot ac Abertawe, ond rydyn ni wedi gorfod gwneud y penderfyniad anodd i oedi ein gwaith ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg.
Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg
Rydyn ni’n siomedig i gyhoeddi ein bod ni wedi gorfod oedi ein gwaith ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful, RhCT a Bro Morgannwg o 1 Hydref 2024. Rydyn ni’n drist iawn ein bod ni wedi gorfod gwneud y penderfyniad hwn, ond does dim cyllid gyda ni i barhau yn yr ardaloedd hyn.
Byddwn ni’n parhau i gefnogi ein parau Ffrindiau Gig presennol yn y siroedd hyn, ac mae cyfranogwyr a oedd yn aros i gael eu paru yn gallu parhau i ddod i’n digwyddiadau cymdeithasol yn ein hardaloedd eraill. Ond yn anffodus, mae’n golygu na allwn ni dderbyn ceisiadau newydd gan gyfranogwyr na gwirfoddolwyr.
Rydyn ni’n gweithio’n galed i geisio cael cyllid pellach ar gyfer yr ardaloedd hyn, ac rydyn ni bob tro’n croesawu sgyrsiau am archwilio partneriaethau a chyllid, yn yr un modd y gwnaethon ni lwyddo i ddod â Ffrindiau Gig i Abertawe, Castell-nedd a Phort Talbot. Mae croeso ichi gysylltu â ni.
Castell-nedd, Port Talbot ac Abertawe
Megis dechrau mae’r cyffro yn ein hardal newydd, a ddechreuodd ym mis Gorffennaf. Gyda Danielle Wagstaff yn arwain y ffordd fel ein cydlynydd, mae egni a diddordeb y gymuned wedi bod yn anhygoel. Rydyn ni wedi treulio amser yn mapio’r ardal ac yn meithrin perthnasoedd â sefydliadau lleol, gan gynnwys sicrhau stondin parhaol yn Raspberry Creatives, lleoliad cymunedol ym Mhort Talbot.
Mae ein hymdrechion allgymorth wedi mynd â ni i 2 ŵyl gerddoriaeth, drama newydd boblogaidd, cyngerdd, sioe dalent Affricanaidd, digwyddiad Fforwm Rhieni Gofalwyr Abertawe enfawr yn Arena Abertawe, a diwrnod o hwyl i’r teulu. Rydyn ni hefyd wedi cynnal nifer o sesiynau galw heibio ar gyfer pobl sydd â diddordeb mewn ymuno â Ffrindiau Gig ac rydyn ni wrth ein bodd ein bod ni eisoes wedi recriwtio 7 o gyfranogwyr yng Nghastell-nedd Port Talbot, 2 yn Abertawe, ac 1 gwirfoddolwr yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Gwnaethon ni gynnal parti lansio llwyddiannus ym Mhort Talbot yn ddiweddar, ac rydyn ni’n llawn cynnwrf ynghylch am ein gig lansio yn Abertawe sydd ar ddod, lle bydd y band Cymraeg poblogaidd, Adwaith ar ben y rhaglen, yn Elysium nos Wener 22 Tachwedd. Mae tocynnau ar werth nawr (gyda thocynnau gostyngol ar gael i Ffrindiau Gig a phartneriaid y prosiect): gallwch chi brynu’ch tocyn yma.
Y garreg filltir fwyaf cyffrous hyd yn hyn? Rydyn ni wedi paru ein Ffrindiau cyntaf: Natalie a Natalie!
Yn Abertawe, Castell-nedd a Phort Talbot rydyn ni’n ddiolchgar o gael ein hariannu gan Fwrdd Partneriaeth Gorllewin Morgannwg ac rydyn ni’n falch o fod wedi creu partneriaeth prosiect gyda darparwyr anabledd dysgu, sefydliadau eiriolaeth a lleoliadau celfyddydol.
Gogledd Cymru
Rydyn i’n falch iawn o’n 5 pâr newydd o Ffrindiau Gig yng ngogledd Cymru, sy’n paru Tracey â Caren, Paul â Hedydd, Harry ag Eli, Natalie ag Amanda, a Victoria â Nicole. Gwnaethon ni groesawu 4 cyfranogwr newydd a 2 wirfoddolwr i’r prosiect hefyd.
Un o’n huchafbwyntiau oedd cael sylw mewn stori gan ITV am drafnidiaeth, yn enwedig y materion sy’n ymwneud â thrafnidiaeth gyhoeddus yng ngogledd Cymru. Rhannodd ein cynghorydd trafnidiaeth, Mark Jones, ei fewnwelediad, ochr yn ochr â 2 o’n cyfranogwyr Ffrindiau Gig.
Mae tri o’n cyfranogwyr wedi ffurfio ‘The Three Amigos’, grŵp i gynllunio digwyddiadau cymdeithasol. Mae hyn yn cynnwys adolygu’r digwyddiadau wedyn fel y gallan nhw fod hyd yn oed yn well y tro nesaf. Yn ddiweddar, gwnaethon ni gynnal noson gymdeithasol lwyddiannus ymhlith bwrlwm bywiog neuadd fwyd Marchnad Caer. Mwynhaodd Ffrindiau Gig y cyfle i deithio i Loegr ar gyfer noson gymdeithasol, a daeth rhai Ffrindiau o leoedd cyn belled i ffwrdd ag Ynys Môn a Gwynedd, gan gefnogi ei gilydd i deithio ar y trên.
Yn sioe Dinbych a Fflint roedden ni’n ddiolchgar i’n 2 wirfoddolwr a chyfranogwr a helpodd gyda’n stondin i recriwtio gwirfoddolwyr newydd.
Rydyn ni’n cael ein hariannu yng ngogledd Cymru diolch i Grant Trawsnewid Gogledd Cymru a Grant Gwirfoddoli CGGC (tan fis Medi 2024). Rydyn ni hefyd yn hynod ddiolchgar am gefnogaeth ariannol barhaus gan Gymdeithas Tai Dewis Cyntaf. Byddwn ni’n ceisio cyllid pellach o fis Ebrill 2025 ymlaen.
Caerdydd
Gwnaethon ni greu 3 phâr newydd yng Nghaerdydd yn ddiweddar – Julian â Morgan, Steffan â Tommy, a Paul â Phil – sy’n dod â’n cyfanswm presennol yn yr ardal i 42 pâr.
Cafodd un o’n cyfranogwyr, Richie, brofiad bythgofiadwy yn yr haf, yn mynychu ei ŵyl wersylla gyntaf, 2000 Trees. Helpodd Richie Ffrindiau Gig Swydd Gaerloyw i redeg stondin ym mhrif arena’r ŵyl, gan gofrestru gwirfoddolwyr newydd ar gyfer prosiectau Ffrindiau Gig ledled y DU, gan gynnwys Cymru, a chafodd e ei gyfweld ar gyfer tudalen Instagram yr ŵyl. Mae cyfweliad Richie wedi cael ei wylio dros 20,000 o weithiau.
Ni ddaeth taith Richie i ben yno. Fel rhan o’n partneriaeth newydd gyda’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig, daeth Richie yn rheithiwr a helpodd i ddewis albymau a ddewiswyd ar gyfer rhestr fer y Gwobrau. Roedd Richie hefyd yn eistedd ar ein panel cyfweld ar gyfer ein Cydlynydd Cymorth Prosiect newydd, a bydd e’n cadeirio cynhadledd flynyddol Anabledd Dysgu Cymru yn Abertawe!
Rydyn ni hefyd wedi bod yn brysur gyda digwyddiadau cymdeithasol. Fe wnaethon ni helpu Pobl yn Gyntaf Caerdydd i drefnu gig codi arian yn y Moon Club, a oedd yn cynnwys cerddoriaeth fyw, carioci a Ffrindiau Gig yn dysgu sut i fod yn DJ. Yn gynharach y mis hwn, aethon ni â dros 30 o Ffrindiau Gig i’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.
Uchafbwynt arall fu’r band cynhwysol y mae Ffrindiau Gig a phobl eraill ag anabledd dysgu wedi’i ffurfio diolch i gyllid gan Tŷ Cerdd. Roedd llawer o gerddorion y band heb chwarae offeryn tan yn gynharach eleni. Cafodd Bwthyn Sonig Collective y fraint o berfformio yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd yn yr haf ac yn ddiweddar, gwnaethon nhw gynnal eu sioe gyntaf yng Nghaerdydd yn lolfa cabaret Canolfan Mileniwm Cymru, fel rhan o noson i ddathlu cerddoriaeth gan artistiaid ag anableddau dysgu ac artistiaid niwrowahanol.
Rydyn ni’n falch iawn o gael ein hariannu yng Nghaerdydd gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Caerdydd, sy’n rhedeg tan fis Mawrth 2025.
Logo newydd ac enw Cymraeg newydd
Mae prosiectau Ffrindiau Gig ar draws y DU wedi bod yn dod at ei gilydd gyda logos newydd a thebyg, i helpu pobl i adnabod a oes prosiect yn agos atyn nhw. Roedden ni wrth ein bodd i gyflwyno ein logo newydd fis diwethaf.
Fel rhan o’n gweddnewidiad, mae enw newydd gyda ni – sef Ffrindiau Gig Cymru.
Rolau staff newydd
Danielle Wagstaff yw ein cydlynydd prosiect newydd ar gyfer Castell-nedd, Port Talbot ac Abertawe.
Emma Scott Davies yw ein cydlynydd cymorth prosiect newydd.
Kai Jones yw ein Swyddog Datblygu newydd.
Rydyn ni hefyd yn ddiolchgar bod Julie Sangani yn ein helpu ni i sicrhau cyllid newydd fel rhan o’i rôl fel Rheolwr Datblygu Busnes Anabledd Dysgu Cymru.
Cysylltwch â thîm Ffrindiau Gig Cymru: e-bostiwch gigbuddies@ldw.org.uk, ffoniwch 029 2068 1160 neu gallwch chi ddod o hyd i ni ar y cyfryngau cymdeithasol yn @GigBuddiesCymru.