Rydym yn falch o gyhoeddi bod Ffrindiau Gigiau’n cael ei lansio yn siroedd Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. Diolch i gyllid gan Gronfa Integredig Ranbarthol Gorllewin Morgannwg, dechreuodd y prosiect ym mis Gorffennaf, ac fe’i hariennir tan fis Mawrth 2026.
Darllenwch fersiwn hawdd ei darllen o’r erthygl yma
Anabledd Dysgu Cymru sy’n cynnal y prosiect cyfeillio arloesol, gan weithio mewn partneriaeth agos â mwy nag 20 o sefydliadau ar draws y sectorau anabledd dysgu a chelfyddydau.
Byddwn yn derbyn cyfeiriadau gan gyfranogwyr a gwirfoddolwyr o 1 Medi ymlaen.
Mae Ffrindiau Gigiau Cymru yn paru oedolion ag anabledd dysgu a/neu awtistiaeth â ffrind gwirfoddol sydd â’r un diddordebau a hobïau, er mwyn iddynt allu mynd i weithgareddau cymdeithasol gyda’i gilydd. Mae hyn yn mynd i’r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd, yn helpu i gynyddu annibyniaeth a hyder, ac yn normaleiddio pobl ag anabledd dysgu yn mynd i ddigwyddiadau prif ffrwd, yn enwedig gyda’r nos lle mae diffyg cymorth traddodiadol.
Bu diddordeb mawr yn Ffrindiau Gigiau yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, ac mae wir wedi bod yn bartneriaeth gyd-gynhyrchiol, o ran datblygu’r prosiect a sicrhau cyllid. Daeth Anabledd Dysgu Cymru â dros 20 o sefydliadau ynghyd o amrywiaeth eang o sectorau, gan gynnwys hunan-eiriolaeth, gwasanaethau cymdeithasol, rhieni/gofalwyr, tai â chymorth, lleoliadau cerddoriaeth a chelfyddydau, prifysgolion, cynghorau gwasanaethau gwirfoddol a sefydliadau trydydd sector eraill.
Mae gwaith eisoes wedi dechrau yn y ddwy sir, gan gynnwys meithrin perthnasoedd a mynd i ddigwyddiadau. Ein nod yw paru 25 o bobl sydd ag anabledd dysgu a/neu awtistiaeth gyda gwirfoddolwr o’u cymuned leol. Mae parau Ffrindiau Gigiau yn mynd i 1 gweithgaredd bob mis ar gyfartaledd, ynghyd â chyfarfod yn y cyfamser i gynllunio eu digwyddiad nesaf.
‘Gig’ yw beth bynnag maen nhw eisiau ei wneud gyda’i gilydd – o gyngherddau a sioeau cerdd, i gemau chwaraeon, parciau thema, caffis, neu ddim ond mynd am dro braf yn y parc. Bydd Ffrindiau Gigiau hefyd yn cael cyfleoedd i fynd i ddigwyddiadau cymdeithasol rheolaidd, lle gallant gyfarfod â Ffrindiau Gigiau eraill a mynd yn gyfeillion â nhw.
Angen gwirfoddolwyr Ffrindiau Gigiau
Rydym yn disgwyl galw mawr gan gyfranogwyr, felly byddwn yn canolbwyntio ar recriwtio gwirfoddolwyr yn gyntaf. Bydd hyn yn cynnwys stondinau mewn amrywiaeth eang o ddigwyddiadau. Os ydych chi’n gwybod am ddigwyddiad y dylem fynd iddo, cysylltwch â ni.
Nid oes angen i wirfoddolwyr Ffrindiau Gigiau fod â phrofiad o anabledd. Mae pob gwirfoddolwr newydd yn cael hyfforddiant am ddim, gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, a chefnogaeth barhaus.
Rydym yn bwriadu lansio’r prosiect mewn digwyddiadau gwahanol ar draws Abertawe, Castell-nedd a Phort Talbot. Byddwn yn rhannu manylion yn y man.
Danielle Wagstaff yw’r cydlynydd newydd ar gyfer Abertawe, Castell-nedd a Phort Talbot. Mae Danielle yn byw ym Mhort Talbot ac yn dod â chyfoeth o brofiad, ar ôl gweithio’n flaenorol fel cydlynydd cymorth prosiect Ffrindiau Gigiau Cymru. Bydd Kai Jones, a fu’n allweddol wrth ddod â Ffrindiau Gigiau i Gymru yn 2018, yn canolbwyntio ar waith datblygu yn y ddwy sir.
Meddai Danielle: “Mae’n amser mor gyffrous i fod yn lansio Ffrindiau Gigiau yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. Dw i wedi byw a gweithio yn yr ardaloedd hyn ar hyd fy oes, a dw i’n gwybod pa mor barod yw pobl am y prosiect hwn. Dw i’n gobeithio gwneud cysylltiadau gyda sefydliadau a busnesau ar draws yr ardal er mwyn i bobl gael profiad o weithgareddau newydd gyda’u Ffrindiau Gigiau. Dw i’n teimlo’n angerddol am roi modd i bobl gymryd rhan mewn gweithgareddau pan fyddan nhw am wneud hynny – mae hyn yn cynnwys gallu aros i fyny’n hwyr!”
Gwneud ffrindiau newydd
Mae Natalie, o Bort Talbot, yn edrych ymlaen at ymuno â’r prosiect a chael Ffrind Gigiau. Dywedodd Natalie: “Bydd yn wych helpu fy hyder a gwneud ffrindiau newydd. Dwi’n hoff iawn o gerddoriaeth uchel, unrhyw beth roc, ond yn uchel yn bennaf!”
Meddai Jo, Chris ac Ishbel, Ymddiriedolwyr Fforwm Rhieni a Gofalwyr Abertawe: “Mae llawer o aelodau gyda ni sydd wrth eu bodd bod y prosiect gwych hwn bellach yn gyfle i’w meibion a’u merched sy’n byw yn Abertawe. Rydyn ni’n croesawu Ffrindiau Gigiau i’n digwyddiad yn Arena Abertawe ar 24 Medi, lle gall ein haelodau ddysgu mwy.”
Meddai Jade Flynn o Mirus Supported Living: “Rwy’n meddwl bod Ffrindiau Gigiau’n ychwanegiad gwerthfawr i’n cymunedau yng Nghastell-nedd, Port Talbot ac Abertawe. Bydd yn galluogi pobl i fyw bywydau bodlon sydd â gwerth, gan roi’r cyfle iddyn nhw gymryd rhan mewn gweithgareddau na fydden nhw erioed wedi gallu mynd iddyn nhw, a chael profiad o sut beth yw aros i fyny’n hwyr. Bydd yn cynyddu cylch cymdeithasol pobl, ynghyd â rhoi hyder cynyddol, ac yn bennaf oll, bydd yn rhoi mwynhad.”
Meddai Scott Mackay, Rheolwr Lleoliad yn Elysium: “Fe ddes i’n ymwybodol o’r gwaith gwych mae Ffrindiau Gigiau yn ei wneud gyntaf trwy’r cyfryngau cymdeithasol, o weld amrywiaeth o luniau o gyfranogwyr yn cael hwyl a sbri mewn gigiau yng Nghaerdydd a thu hwnt. Cyn gynted ag y gwelais i hyn, roeddwn i am i’n lleoliad ni gymryd rhan. Mae Ffrindiau Gigiau yn cyd-fynd â’n hethos o hygyrchedd a chynwysoldeb – rydyn ni wedi ymrwymo i fod yn lleoliad croesawgar ac mae’n werth cefnogi unrhyw beth y gallwn ni ei wneud i alluogi mwy o bobl i ddod. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld ein haelodau Ffrindiau Gigiau cyntaf yn dod i ddigwyddiad yma, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weld y cynllun yn llwyddo ac yn ehangu yn y dyfodol!”
Meddai Sally-Anne, Cydlynydd Ardal Leol: “Rwy’ wrth fy modd bod Ffrindiau Gigiau yn dod i Abertawe, gan fod gan y ddinas gymuned fawr o bobl a fydd yn elwa’n fawr o’r sefydliad. Rwy’n gyffrous i weld sut y caiff bywydau pobl eu cyfoethogi gan y broses syml o ehangu eu dewisiadau a’u profiadau.”
Os ydych chi eisiau gwirfoddoli fel Ffrind Gigiau, cysylltu â ni, neu gael gwybod am newyddion Ffrindiau Gigiau, e-bostiwch gigbuddies@ldw.org.uk neu ffoniwch 029 2068 1160.