Astudiaeth o fywydau pobl ag anabledd dysgu drwy’r pandemig coronafeirws yng Nghymru
A fyddech cystal â’n helpu drwy gymryd rhan yn ein hastudiaeth ledled y DU…
Dywed Ffion, Cadeirydd Pobl yn Gyntaf Caerffili “Byddai’n wych pe bai pobl ag anabledd dysgu yng Nghymru yn cymryd rhan yn yr astudiaeth. Rydyn ni eisiau i bobl wrando ar leisiau pobl yng Nghymru” Gwrandewch ar fideo Ffion isod (1 funud, 39 eiliad).
Llofnodwch ein FFURFLEN MYNEGI DIDDORDEB neu gweler isod am ffyrdd eraill o ddweud eich bod am gymryd rhan.
Hoffem glywed gennych chi os:
- Oes gennych chi anabledd dysgu
- Ydych chi’n byw gyda rhywun sydd ag anabledd dysgu y gellid ei gyfweld â chymorth
- Ydych chi’n gweithio gyda phobl sydd ag anabledd dysgu y gellid ei gyfweld â chymorth
Rydym yn bartneriaid mewn astudiaeth ledled y DU. Rydym am ddod o hyd i bobl ag anabledd dysgu sy’n fodlon cymryd rhan ynddo drwy siarad ag ymchwilwyr mewn cyfweliad. Gall hyn fod dros y ffôn neu alwad fideo. Gallwch wneud y cyfweliad ar eich pen eich hun neu gyda chymorth aelod o’r teulu, ffrind neu weithiwr cymorth.
Bydd y cyfweliad yn gofyn i chi am y canlynol:
- sut rydych chi wedi teimlo yn ystod y pandemig
- pa bethau y gallech fod wedi poeni amdanynt
- y pethau y gallai fod angen cymorth arnoch ar eu cyfer
- sut y cawsoch wybodaeth am coronafeirws ac os oedd y wybodaeth honno’n dda.
- y pethau sydd wedi bod yn bwysig i chi.
Mae gennym 40 o bobl wedi cofrestru hyd yn hyn! Ond rydym am siarad â 160 o bobl eraill ag anabledd dysgu. Gadewch i bobl ag anableddau dysgu yng Nghymru gael eu clywed. Rydyn ni eisiau clywed gan bobl:
- dros 16 mlwydd oed
- ledled Cymru.
- gan bobl o wahanol gefndiroedd, pobl sy’n dod o gymunedau Du neu Asiaidd
- sy’n byw mewn gwahanol leoedd megis byw’n annibynnol, byw â chymorth, gyda’u teulu neu mewn gofal preswyl.
Mae’r cyfweliadau’n dechrau nawr a byddant yn rhedeg tan ddiwedd mis Ionawr. Gallwch siarad â rhywun ar ddiwrnod ac amser sy’n addas i chi.
Yna gallwn ddefnyddio’r holl wybodaeth rydyn ni’n ei chael gan 200 o bobl ag anabledd dysgu ledled Cymru i helpu i wneud pethau’n wahanol yn y dyfodol. Mae gwersi i’w dysgu ac mae angen i bobl wrando. Ond dim ond os yw llawer o bobl ag anableddau dysgu yn siarad am yr hyn sydd wedi digwydd y gallant wrando. Felly mae angen i bobl gymryd rhan yng Nghymru.
Mae gen i ddiddordeb sut ydw i’n cymryd rhan?
- Llofnodwch einnFfurflen Mynegi Diddordeb hawdd ei deall neu
- gysylltu â Karen Warner yn Anabledd Dysgu Cymru karen.warner@ldw.org.uk neu
- eich Grŵp Pobl yn Gyntaf lleol neu
- gysylltu drwy e-bost neu ffonio Edward Oloidi edward.oloidi@southwales.ac.uk 01443 483042.
Pwy sy’n gwneud yr astudiaeth?
Mae grŵp o ymchwilwyr a sefydliadau sy’n gweithio i bobl ag anabledd dysgu neu eu rhieni a’u gofalwyr ledled y DU yn cydweithio ar yr astudiaeth hon.
Yma yng Nghymru, mae Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Caerdydd yn gweithio gydag Anabledd Dysgu Cymru, Fforwm Rhieni a Gofalwyr Cymru Gyfan a Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan.
Rhagor o wybodaeth:
Gwefan y DU: www.covid19learningdisabilities.co.uk