Mae ychydig o leoedd wedi eu cadw ar gyfer cyflogwyr. Os ydych chi’n gyflogwr ac eisiau mynychu, cysylltwch â ni ar 02920 681160 i archebu eich lle.
Dim ond 6% o bobl ag anabledd dysgu a 16% o bobl gydag awtistiaeth sydd mewn cyflogaeth yn y DU. Rydym ni eisiau newid hyn.
Ymunwch â ni!
Fe fydd Engage to Change yn Wrecsam yn ystod Wythnos Anabledd Dysgu ar dydd Llun 17eg Mehefin gyda ein Sioe Deithio newydd, yn dod at ei gilydd pobl ag anabledd dysgu ac awtistiaeth, rhieni a gofalwyr, cyflogwyr, busnesau lleol, penderfynwyr a mwy i roi gwybod i chi sut y gallai’r prosiect hwn fod o fudd di chi.
Ar hyn o bryd mae’r prosiect Engage to Change yn rhedeg ar draws Cymru i gefnogi pobl ifanc o’r oedran 16-25 gydag anabledd dysgu ac/neu awtistiaeth i fewn i lleoliadau gwaith cyflogedig yn para 6-12 mis.
Oes gennych chi anabledd dysgu ac/neu awtistiaeth?
Gall Engage to Change eich cefnogi i ddysgu sgiliau newydd ac ennill profiad yn y gweithle, gyda’r nod o symud i mewn i cyflogaeth â thâl. Yn y digwyddiad yma fe fyddwch chi’n gallu clywed popeth ynglŷn â profiadau pobl ifanc arall fel chi sydd wedi llwyddo trwy’r prosiect.
Ydych chi’n cefnogi pobl ag anabledd dysgu ac/neu awtistiaeth?
Dewch ymlaen i ddarganfod sut y gallai’r prosiect fod o fudd i’r pobl yr ydych yn gweithio gyda trwy cyflogaeth â chymorth, o mwy o annibyniaeth ariannol, i fwy o hyder a cylch cymdeithasol estyngedig. Gallant gyfeirio eu hunain neu gallwch eu cyfeirio atom.
Ydych chi’n gyflogwr sydd am fanteisio ar gronfa newydd o dalent ac amrywiaethu eich gweithlu?
Galwch heibio i’r sioe i gwrdd â’r tîm, cael blas o sut mae popeth yn gweithio, a clywed oddi wrth cyflogwyr arall sydd wedi cymryd rhan a teimlo’r budd o groesawu cyfranogwyr Engage to Change i’w gweithlu.
Caiff y prosiect Engage to Change ei ddarparu mewn partneriaeth rhwng Anabledd Dysgu Cymru, Agoriad Cyf, Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan, Prifysgol Caerdydd ac ELITE ac mewn cydweithrediad â Engage to Change DFN Project SEARCH.